Eglwys Geltaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Croes Geltaidd gynnar yn Inis Mór, Iwerddon.

Term yw'r Eglwys Geltaidd (Saesneg: Insular Christianity) a ddefnyddid yn gyntaf gan William Salesbury (1520 - c. 1584) ac eraill wrth gyfeirio at Gristnogaeth y mileniwm cyntaf yn y gwledydd lle siaredid yr ieithoedd Celtaidd. Mynnai Salesbury, Richard Davies (c. 1501-1581) a Phrotestaniaid eraill wrthgyferbynnu purdeb yr Eglwys fore yng ngwledydd Prydain ag amhurdeb gweddill y byd Cristnogol. Roedd eu dadleuon dros fodolaeth yr Eglwys Geltaidd yn pwysleisio fod cynseiliau'r Diwygiad Protestanaidd yn yr eglwysi a fodolai yn y gwledydd hyn cyn y gyfundrefn 'Rufeinig'.

Mynn rhai ysgolheigion nad oedd y fath beth yn bodoli, ond fod nifer o nodweddion yn gyffredin rhwng y gwledydd Celtaidd, nad oedd ar gael yn unman arall nac o fewn yr eglwys Rhufeinig, Gatholig. Daeth pobl o wahanol enwad i ddefnyddio'r term, gan gynnwys Nora Chadwick, Kenneth Jackson a Caitlin Corning, a thyfodd ei boblograwydd gan grwpiau a ddymunai weld y 'teulu Celtaidd' yn un. Ar y llaw arall, ceir dadleuwyr cryf yn erbyn bodolaeth eglwys Geltaidd gan nifer o Saeson, a gwell ganddynt yw defnyddio'r term Insular Christianity yn hytrach na The Celtic Church. Y term Almaeneg am yr Eglwys Geltaidd yw "Iroschottisch". Mae'r rhan fwyaf o academyddion, bellach, yn gytun nad oedd yr Eglwys Geltaidd yn endid fonolithig, gwrth-Babyddol, ond yn hytrach fod gan yr eglwysi yn yr ardaloedd Celtaidd eu hiaith gysylltiad clos â'i gilydd - a nifer o 'draddodiadau' neu nodweddion gwahanol iawn i Rufain, ac yn eu plith:

  1. trefn wahanol o gyfrif union ddyddiad y Pasg
  2. steil gwallt y mynachod. Ysgirfennwyd yn y 7C: "Britones toti mundo contrarii, moribus Romanis inimici, non solum in missa sed in tonsura etiam" ("Mae'r Brythoniaid yn gwbwl wahanol i weddill y byd, ac yn elyniaethus i arferion Rhufain, nid yn unig yn y gwasanaethau, ond hefyd yn eu gwallt (tonsura).")[1]
  3. penyd:, sef hunan-gosb wirfoddol a wneir fel iawn am bechod neu drosedd. Cyflwynodd Columbanus penyd corfforol, y medicamenta paentitentiae, ac roedd yn arferiad i benyd gael ei wneud yn breifat o fewn yr Eglwys Geltaidd yn hytrach na thrwy wisgo sach liain a lludw, yn gyhoeddus. Erbyn 1215 roedd penyd tawel i'r offeiriad wedi ei dderbyn ym mhob rhan o'r Eglwys Gatholig.[2]
  4. yn yr ardaloedd Celtaidd eu hiaith daeth y peregrinatio pro Christo ("alltud dros Grist") yn boblogaidd. Roedd yr alltudiaeth hwn yn wirfoddol, a gellid symud o ardal, neu hyd yn oed wlad.
  5. amgylchfyd gwledig yr eglwysi a pherthynas agos â natur[3]
  6. diffyg hierarchiaeth eglwysig clir e.e. rhoed pwyslais ar yr abad yn hytrach nag ar yr esgob.

Y cyswllt clos[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd cysylltiad agos a chlos rhwng yr eglwysi Celtaidd eu hiaith. O Gymru y daeth llawer o genhadon cynnar Iwerddon ac oddi yno y teithiodd llawer i'r Alban. O Gernyw a Chymru hefyd y daeth llawer o genhadon a deithiodd i Lydaw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. A. W. Haddan and W. Stubbs (ed.), Councils and Ecclesiastical Documents Relating to Great Britain and Ireland, 3 vols (Rhydychen, 1869–78), I, 112-3
  2. Medieval Handbooks of Penance, eds. John T. McNeil and Helena M. Gamer (New York, Columba University Press, 1938).
  3. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru) 2008; t. 323.