Neidio i'r cynnwys

Richard Davies

Oddi ar Wicipedia
Richard Davies
Cerflun o Richard Davies ar Gofeb Cyfieithwyr y Beibl yn Llanelwy.
Ganwydc. 1501, c. 1505 Edit this on Wikidata
Gyffin Edit this on Wikidata
Bu farw7 Tachwedd 1581 Edit this on Wikidata
Llys yr Esgob Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Neuadd New Inn Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, esgob Anglicanaidd, offeiriad Anglicanaidd Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Llanelwy, Esgob Tyddewi Edit this on Wikidata
Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).

Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?15017 Tachwedd 1581). Fe'i ganed yn y Gyffin, ger tref Conwy lle roedd ei dad Dafydd ap Gronw, yn gurad yn eglwys St Bened. Yn ystod ei yrfa eglwysig bu'n Esgob Llanelwy a Thyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (John Davies).

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr Protestannaidd. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yng Ngenefa[1] ac yn ôl eraill i Frankfurt-am-Main [2] oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad Mari I, dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n Esgob Llanelwy ac yna ym 1561 yn Esgob Tyddewi.

Roedd yn aelod o Gyngor Cymru a'r Gororau ac yn gyfeillgar iawn â Matthew Parker, archesgob Caergaint, ac yn cael ei ystyried gan Parker a chan William Cecil, yr Arglwydd Burghley, yn gynghorydd dibynadwy ar y Gymraeg.[3] Gweithiai'n ddyfal gyda William Salesbury i berswadio senedd San Steffan i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno ym 1563 gwahoddod Salesbury i ymuno ag ef yn ei blas yn Abergwili i gyfieithu'r Testament Newydd. Richard Davies yw awdur yr Epistol at y Cembru ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd 1567; cafodd ddylanwad mawr ar hanesyddiaeth Cymru.

Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. Bu farw yn Abergwili, lle'i claddwyd.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • D. R. Thomas, The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury (Croesoswallt, 1902)
  • Glanmor Williams, Bywyd ac Amserau'r Esgob Richard Davies (Caerdydd, 1953)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Epistolau Bugeiliol c.1564 (Esgob Richard Davies)". bible.com. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2023.
  2. Williams, Glanmor (1953). "Richard Davies". Y Bywgraffiadur Arlein. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2023.
  3.  Mae un neu ragor o'r brawddegau yn cynnwys testun sydd bellach yn y parth cyhoeddusChisholm, Hugh, gol. (1911). "Davies, Richard". Encyclopædia Britannica. 7 (arg. 11th). Cambridge University Press. t. 865.CS1 maint: ref=harv (link)