Hanesyddiaeth

Oddi ar Wicipedia

Astudiaeth hanes a'i fethodoleg fel disgyblaeth academaidd yw hanesyddiaeth. Gall hefyd gyfeirio at gorff o waith ar agweddau hanesyddol, naill ai yn ôl pwnc, megis hanesyddiaeth yr Ail Ryfel Byd neu hanesyddiaeth Cymru, neu yn ôl genre, megis hanes gwleidyddol.

e-lyfr[golygu | golygu cod]

Yn 2022 cyhoeddwyd e-lyfr gan Wasg Prifysgol Cymru dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar hanesyddiaeth. Enw'r cyhoeddiad (oedd hefyd ar gael fel fersiwn argraffiedig ar 'argraffu-ar-alw') yw Llunio Hanes: Hanesyddiaeth a Chrefft yr Hanesydd. Y Golygyddion oedd Gethin Matthews a Meilyr Powel gyda phenodau wedi eu hysgrifennu gan wahanol awduron. Y penodau yn y llyfr yw:[1]

Beth yw Hanes - Meilyr Powel
O'r 'Gwleidyddol' i'r 'Cymdeithasol': Syrffio ar donnau Hanes dros y Degawdau - Gethin Matthews
Hanes Cenedlaethol - Huw Pryce
Hanes Marcsaidd - Douglas Jones
Hanes o'r Gwaelod: Y Werin, Y Gweithwyr, Menywod, a'r Darostyngol - Arddun H. Arwyn
Hanes ac Anthropoleg - Huw Morus
Ôl-strwythuraeth a'r Tro Diwylliannol: Rhywedd, Dwyrainoldeb, ac Ôl-drefedigaethedd - Marion Löffler
Epilog; Dyfodol Hanes - Meilyr Powel

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Carr, E. H. What Is History? (1961).
  • Elton, G. The Practice of History (1969).
  • Evans, R. J. In Defence of History (1997).
  • Tosh, J. The Pursuit of History (2002).
  • Matthews G. a Powel M. Llunio Hanes (2022)
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. "Llunio Hanes: Hanesyddiaeth a Chrefft yr Hanesydd". Gwasg Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 6 Medi 2022.