Marion Löffler
Gwedd
Marion Löffler | |
---|---|
Ganwyd | 1966 Dwyrain Berlin |
Dinasyddiaeth | Cymru Yr Almaen |
Galwedigaeth | academydd, cymrodor ymchwil, llenor, hanesydd |
Hanesydd o'r Almaen sy'n byw yng Nghymru yw Dr Marion Löffler (ganwyd 1966).[1][2]
Mae wedi gweithio i'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth ac erbyn hyn yn gweithio i'r adran hanes yn Brifysgol Caerdydd fel Darllenydd Hanes Cymru.[3] Mae hi hefyd yn gyfrannwr i'r Bywgraffiadur Cymreig.
Meysydd ymchwil Marion Löffler yw’r berthynas rhwng hanes, iaith, diwylliant a chenedlaetholdeb yng Nghymru, rôl y wasg gyfnodol yn y broses o ddosbarthu syniadau a hybu disgwrs cyhoeddus, a'r broses o greu cof drwy'r disgwrs cyhoeddus hwn.[4] Yn 2005 roedd Marion yn rhan o'r brosiect Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Mae Marion wedi cyhoeddu nifer o erthyglau, papurau a llyfrau gan gynnwys y canlynol;
- 'Iaith Nas Arferir, Iaith i Farw Yw': Ymgyrchu dros yr Iaith Gymraeg rhwng y Ddau Ryfel Byd (1996)
- A Book of Mad Celts: John Wickens and the Celtic Congress of Caernarfon 1904 (2000)
- The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg, 1826-1926 (2007)
- Welsh Responses to the French Revolution: Press and Public Discourse 1789-1802 (2012)
- Political Pamphlets and Sermons from Wales, 1790-1806 (2014)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "www.gwales.com - 9781783161003, Political Pamphlets and Sermons from Wales 1790-1806". www.gwales.com. Cyrchwyd 16 Ionawr 2020.
- ↑ WalesOnline (2017-03-01). "Forced to flee the Nazis, 'Dr Kate' built an incredible career and family life in Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-24.
- ↑ Hanes, Dr Marion Loeffler Darllenydd Hanes Cymru Ysgol; Percival, Adeilad John; Colum, Rhodfa; Caerdydd; ôl-raddedig, CF10 3EU Siarad Cymraeg Ar gael fel goruchwyliwr. "Dr Marion Loeffler - People - Cardiff University". Prifysgol Caerdydd. Cyrchwyd 16 Ionawr 2020.
- ↑ "Marion Löffler Wales and the French Revolution". frenchrevolution.wales.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-02. Cyrchwyd 16 Ionawr 2020.