Dwyrain Berlin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dwyrain Berlin
Marx-engels-platz.jpg
Coat of arms of Berlin (1935).svg
Math endid tiriogaethol gweinyddol, prifddinas, dinas fawr, metropolis, town divided by border Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,279,212 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1949 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
Gwlad Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd 409 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Province of Brandenburg, Brandenburg, former Frankfurt (Oder) District, Potsdam District, Gorllewin Berlin Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.5186°N 13.4044°E Edit this on Wikidata

Rhan ddwyreiniol dinas Berlin rhwng 1949 a 1990 oedd Dwyrain Berlin a phrifddinas de facto Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Fe'i sefydlwyd yn 1945 ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Olynodd y sector Sofietaidd o Ferlin a sefydlwyd pan feddiannwyd y ddinas gan y Cynghreiriaid yn dilyn diwedd y Rhyfel. Unwyd y sectorau Americanaidd, Prydeinig, a Ffrengig i greu Gorllewin Berlin. Rhannodd Mur Berlin y ddau hanner o'r ddinas o 13 Awst 1961 hyd at 9 Tachwedd 1989. Ni wnaeth Cynghreiriad y Gorllewin gydnabod Dwyrain Berlin fel prifddinas y GDR nac awdurdod y GDR i lywodraethu yno.

Map o'r bedair sector o Ferlin a feddiannwyd, gyda Dwyrain Berlin mewn coch

Sefydlu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl i Brotocol Llundain yn 1944 gael ei lofnodi ar 12 Medi 1944, penderfynodd yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a'r Undeb Sofietaidd rannu'r Almaen yn dair ardal feddiannaeth (occupation zones) a sefydlu ardal arbennig o Berlin, a feddiannwyd gan y tri Llu'r Cynghreiriaid gyda'i gilydd.

Ym Mai 1945, gosododd yr Undeb Sofietaidd lywodraeth ddinesig ar gyfer y ddinas gyfan a elwir yn "Ynadaeth Berlin Fwyaf" (Magistrate of Greater Berlin), a oedd yn bodoli tan 1947. Ar ôl y rhyfel, gweinyddodd y Lluoedd Cynghreiriol y ddinas gyda'i gilydd o fewn y Cynghreiriad Kommandatura, a wasanaethai fel corff llywodraethu'r ddinas. Fodd bynnag, ym 1948 gadawodd y cynrychiolydd Sofietaidd y Kommandatura a chwalodd y weinyddiaeth yn ystod y misoedd canlynol.

Yn y sector Sofietaidd, sefydlwyd llywodraeth ddinesig ar wahân, a barhaodd i alw ei hun yn "Ynadaeth Berlin Fwyaf".[1]

Pan sefydlwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen yn 1949, fe hawliodd yn syth Dwyrain Berlin fel ei phrifddinas - hawliad a gydnabuwyd gan bob gwlad Gomiwnyddol. Ni chafodd ei gynrychiolwyr i Siambr y Bobl mo'u hethol yn uniongyrchol ac nid oedd ganddynt hawliau pleidleisio llawn tan 1981.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Lilly Becher: un o'r awduron gwrth-Natsïaidd cyntaf i gynhyrchu gwaith dogfennol yn ymwneud ag erledigaeth Iddewon yn yr Almaen Natsïaidd yn ystod y 1930au.
Flag Germany template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Knowles, Chris (29 Ionawr 2014). "Germany 1945-1949: a case study in post-conflict reconstruction". History & Policy. History & Policy. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2016.
  2. Berlin seit dem Kriegsende, Helmut Peitsch, Manchester University Press, 1989 tud. 18