Cenedlaetholdeb Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cenedlaetholdeb Cymreig yw'r mudiad cenedlaetholgar gwleidyddol a diwylliannol o blaid hawliau i'r Gymraeg, cydraddoldeb crefyddol, ac ymreolaeth leol yng Nghymru. Er bod rhyw syniad o genedlaetholdeb wedi bodoli yng Nghymru ers canrifoedd (yn enwedig o dan ymosodiadau goresgynwyr, e.e. y Saeson, y Normaniaid), daeth cenedlaetholdeb Cymreig modern i'r amlwg yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i'r Cymry cael eu calonogi gan fudiadau cenedlaetholgar ar draws Ewrop, megis yn Iwerddon, yr Eidal a Hwngari. Lledaenodd cysyniadau cenedlaetholgar gyda thwf Anghydffurfiaeth yng Nghymru a theimladau gwrth-Seisnig yn dilyn Brad y Llyfrau Gleision a cheisiadau eraill gan lywodraeth Lloegr i Seisnigo'r wlad.

Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg[golygu]

"Cymru'n Deffro", paentiad gwladgarol o droad yr 20fed ganrif gan yr arlunydd Christopher Williams

Brad y Llyfrau Gleision[golygu]

Cynyddodd teimladau cenedlaethol a gwrth-Seisnig yn 1847 gyda chyflwyniad adroddiad a gomisiynwyd gan senedd San Steffan ar gyflwr addysg yng Nghymru, a elwir yn Frad y Llyfrau Gleision oherwydd lliw clawr yr adroddiad. Dywedodd yr adroddiad bod cyflwr y system addysg yn y wlad yn wael iawn a cheir bortread negyddol o'r Cymry a'u hiaith, ond barn gul y Saeson Saesneg a ysgrifennodd yr adroddiad oedd hyn.

Prif Genedlaetholwyr y 19eg Ganrif[golygu]

Cymru Fydd[golygu]

Prif erthygl: Cymru Fydd.

Ymgyrchodd y blaid wladgarol Cymru Fydd am hunanlywodraeth Gymreig, o fewn cyd-destun gwleidyddiaeth Ryddfrydol, rhwng 1886 a 1896. Un o'u hamcanion oedd datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, a ddaeth yn realiti yn 1920 gyda dyfodiad yr Eglwys yng Nghymru.

Yr Ugeinfed Ganrif[golygu]

Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925 o dan arweinyddiaeth Saunders Lewis gyda phwyslais ar ddiogelu'r fro Gymraeg a chymunedau Cymraeg ar draws y wlad. Ni enillodd llawer o gefnogaeth gan bleidleiswyr i ddechrau, ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd, o dan arweinyddiaeth Gwynfor Evans, dechreuodd y blaid ennill seddi mewn etholiadau lleol; enillodd Evans sedd yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, a bu ddau aelod arall o Blaid yn ennill seddi yn 1974. Sefydlwyd nifer o fudiadau eraill yn y cyfnod hwn, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, a sefydlwyd yn 1962 fel ymateb i ddarlith Lewis, Tynged yr Iaith. Bu fuddugoliaethau i'r cenedlaetholwyr gyda darpariaeth addysg ddwyieithog yn yr 1970au ac S4C, y sianel deledu Cymraeg, yn 1982. Ym Mawrth 1979, pleidleisiodd rhyw 80% yn erbyn cynulliad Cymreig mewn refferendwm, wnaeth awgrymu taw teimlad diwylliannol yn hytrach na gwleidyddol oedd cenedlaetholdeb Cymreig yn bennaf. Yn yr 1980au, teimlodd rhai bygythiad gan fewnfudwyr o Loegr i gefn gwlad Cymru, oedd yn cynnwys twf yn nhai gwyliau, a chafodd rhai eu llosgi gan eithafwyr. Ni chlywir sôn am ymreolaeth gan lywodraeth Prydain nes hwyr yr 1990au gyda dychweliad y Blaid Lafur i San Steffan; ym Medi 1997 bu refferendwm ar gynulliad Cymreig yn pennu gyda mwyafrif bach o blaid cynulliad.