Cymdeithas yr Iaith

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cymdeithas yr Iaith
Math
mudiad
Sefydlwyd 4 Awst 1962
Sefydlydd Owain Owain, John Davies, Geraint Jones (Trefor)
Pencadlys

Aberystwyth

Gwefan http://cymdeithas.cymru/hafan Edit this on Wikidata
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Caledi, Cyfoeth ac Anniddigrwydd, 1951-1979
NLW Square Logo.Logo Sgwar LLGC.jpg Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, S4C, Deddf Iaith
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Mudiad protest sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg ers 1962 yw Cymdeithas yr Iaith. Y cadeirydd presennol yw Bethan Ruth. Ers ei sefydlu mae’r Gymdeithas wedi cynnal ei hymgyrchoedd, ei phrotestiadau a'i gweithgareddau er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym mywydau bob dydd pobl Cymru ac ennill statws swyddogol iddi. Yn ystod y 1960au a’r 1970au canolbwyntiodd ar gael dogfennaeth fel trwyddedau, tystysgrifau a biliau wedi eu darparu yn y Gymraeg, bod y Gymraeg yn cael ei rhoi ar arwyddion ffyrdd a bod gwasanaeth radio a theledu yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg. Defnyddiwyd dulliau di-drais fel cynnal ralïau, gwrthod derbyn gwasanaethau os nad oeddent yn y Gymraeg, a gwrthod talu am drwyddedau teledu. Cynhaliwyd protestiadau 'eistedd' torfol ar Bont Trefechan, Aberystwyth, pan eisteddodd protestwyr ar draws y bont er mwyn rhwystro’r traffig rhag mynd drosti. Am gyfnod peintiwyd neu difrodwyd arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg, dringwyd mastiau darlledu a bu rhai protestwyr yn ymyrryd â stiwdios teledu. Wedi i Gwynfor Evans fygwth y byddai’n ymprydio oni byddai’r Llywodraeth Geidwadol yn cadw at ei haddewid i sefydlu sianel deledu ar gyfer rhaglenni Cymraeg, gorfodwyd y Llywodraeth i gadw at ei gair a sefydlwyd S4C yn 1982. Cafodd aelodau oedd yn torri’r gyfraith eu dirwyo a chafodd eraill eu dedfrydu a’u carcharu wrth iddynt ymgyrchu gyda’r Gymdeithas dros yr iaith.

Drafft 2 o logo newydd ar gyfer y Gymdeithas, a luniwyd gan Owain Owain yn Haf 1963.

Mae gweithgareddau ac ymgyrchoedd y Gymdeithas wedi gwneud cyfraniad pwysig at basio deddfau iaith - er enghraifft, yn 1967 a 1993, ac ar ddiwedd yr 20fed ganrif bu’n hollbwysig wrth sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnig gan wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Ers dechrau’r 21ain ganrif mae ei hymgyrchoedd wedi pwysleisio pwysigrwydd polisïau ym maes tai a chynllunio ar gyfer dyfodol y Gymraeg mewn cymunedau lleol ar draws Cymru, dyfodol darlledu a'r cyfryngau newydd yn Gymraeg fel y we a’r chwyldro digidol, a sut gellir sicrhau lle blaenllaw i'r Gymraeg yn y datblygiadau hynny. Mae hefyd wedi protestio yn erbyn penderfyniad y Llywodraeth i drosglwyddo cyllid S4C i’r BBC ac yn galw am ddeddf iaith newydd. Roedd hefyd yn ddylanwad pwysig wrth basio Mesur y Gymraeg yn 2011 a oedd yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg. Llwyddodd hefyd i helpu i sefydlu swydd newydd, sef Comisiynydd y Gymraeg. Ers ei sefydlu, mae enghreifftiau yn hanes y Gymdeithas lle mae wedi defnyddio cyfrifiadau fel un o ffyn mesur cyflwr y Gymraeg, fel y gwnaeth yn 1962 wrth sefydlu’r Gymdeithas ar ôl canlyniadau Cyfrifiad 1961 am gyflwr y Gymraeg. Dyma a wnaeth hefyd wedi Cyfrifiad 2011. Mae Maniffesto Byw y Gymdeithas, a lansiwyd mewn ymateb i ganlyniadau ieithyddol Cyfrifiad 2011, yn ddogfen sy’n amlinellu beth yw amcanion y Gymdeithas er mwyn diogelu dyfodol a lles y Gymraeg yn yr 21ain ganrif.[1][2][3]

Hanes ac ymgyrchoedd y Gymdeithas[golygu | golygu cod y dudalen]

'Tynged yr Iaith’ a sefydlu Cymdeithas yr Iaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Tynged yr Iaith

Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962 gan grŵp o bobl ifanc a oedd wedi mynd i ysgol haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais. Ei nod oedd gwella statws yr iaith Gymraeg a’i hatal rhag diflannu drwy roi’r hawl i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Cafodd y bwriad hwn ei ysbrydoli gan ddarlith Saunders Lewis, sef un o sefydlwyr Plaid Cymru, ar Radio’r BBC. Tynged yr Iaith oedd ei theitl. Galwodd Saunders Lewis ar bobl Cymru i weithredu’n uniongyrchol er mwyn “ei gwneud hi’n amhosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg”. Roedd wedi gobeithio y byddai Plaid Cymru’n gwneud hyn ond dywedodd Gwynfor Evans, arweinydd y Blaid, nad oedd yn bosibl “cyfuno brwydr effeithiol dros yr iaith Gymraeg a bod yn blaid wleidyddol”.[4]

'Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'.[5]

Dyna oedd byrdwn datganiad herfeiddiol Saunders Lewis mewn un o'r darllediadau pwysicaf yn hanes Cymru, sef Darlith Radio flynyddol y BBC a draddodwyd ar 13 Chwefror 1962.

Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni, talu trethi na thalu am drwyddedau os nad oedd yn bosibl gwneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar am eu daliadau. Er bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng, datganodd: 'Fe ellir achub y Gymraeg'.[5]

Dulliau protestio’r Gymdeithas[golygu | golygu cod y dudalen]

Y brotest gyntaf, ar Bont Trefechan.

Roedd y Gymdeithas yn annog ei haelodau i weithredu’n ddi-drais ac yn uniongyrchol er mwyn cyflawni eu hamcanion. Cawsant eu hysbrydoli gan lwyddiant Gandhi yn India a Martin Luther King yn Unol Daleithiau America gan iddynt hwythau ddefnyddio’r dulliau hyn. Gwelwyd dulliau tebyg yn cael eu defnyddio mewn protestiadau yn erbyn boddi Cwm Tryweryn hefyd, ond ni chawsant lawer o effaith. Roedd Saunders Lewis wedi amlinellu sut gallai hyn weithio drwy ddefnyddio achos Trefor ac Eileen Beasley o Langennech, a wrthododd dalu eu trethi lleol rhwng 1952 ac 1960 oni fyddai’r gorchmynion treth yn y Gymraeg. Ar y cyfan, Cymraeg oedd iaith Dosbarth Gwledig Llanelli yn 1951. Ar ddiwedd yr achos llys hir, anfonwyd gorchymyn treth dwyieithog yn y pen draw, ar ôl i feilïaid (pobl sy’n casglu eiddo er mwyn talu dyledion) gymryd dodrefn y Beasleys oddi arnynt deirgwaith.[4]

Roedd y brotest gyntaf yn 1963 ym Mhont Trefechan, Aberystwyth i orfodi Swyddfa'r Post i gynnig ffurflenni yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Cafodd adeiladau eu gorchuddio â phosteri a daeth y traffig i stop gan fod y bont wedi cael ei 'meddiannu' gan y protestwyr am hanner awr. Yn yr un flwyddyn, sefydlodd Owain Owain unig gyhoeddiad y Gymdeithas, sef Tafod y Ddraig - ef hefyd oedd y golygydd a’r un a ddyluniodd y logo.

Ymgyrchoedd y 1960au a’r 1970au[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o brotestiadau'r Gymdeithas yn galw am arwyddion ffyrdd dwyieithog, 1972

Canolbwyntiodd Cymdeithas yr Iaith ar dair prif ymgyrch yn y 1960au a’r 1970au:

  • Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chydnabod ar ddogfennau swyddogol. Golygai hyn bod protestwyr yn gwrthod llenwi ffurflenni, talu biliau na phrynu trwyddedau oni bai eu bod yn medru gwneud hynny yn y Gymraeg
  • Rhoi’r Gymraeg ar arwyddion ffyrdd. Yn y 1970au cynnar, roedd protestwyr yn peintio arwyddion yn wyrdd fel nad oedd pobl yn gallu darllen yr enwau Saesneg fel Newtown neu Lampeter, neu roedden nhw’n tynnu’r arwyddion i lawr ac yn eu gadael y tu allan i adeiladau’r llywodraeth
  • Cael gwasanaeth radio a theledu yn yr iaith Gymraeg. Er mwyn gwireddu’r amcan hwn, dechreuodd protestwyr yn ddiweddarach yn y 1970au wrthod talu eu trwyddedau teledu, ac yn hytrach brotestio drwy ddringo mastiau radio a theledu, torri i mewn i stiwdios teledu i darfu ar ddarllediadau, ac aeth rhai ar streic newyn.

Gwelwyd ffyrdd eraill o brotestio hefyd, wedi’u creu er mwyn denu cymaint o gyhoeddusrwydd â phosib - meddiannu eiddo, torri i mewn, streiciau newyn, tarfu ar weithrediadau yn y llys, taflu awyrennau papur i mewn i Dŷ’r Cyffredin o’r oriel gyhoeddus. Roedden nhw’n peintio sloganau Cymraeg ar adeiladau busnesau, siopau a swyddfeydd nad oeddent yn darparu eu gwasanaethau yn y Gymraeg. Roedd y protestwyr yn fodlon mynd i’r carchar pe bai angen. Erbyn 1976, roedd 697 o brotestwyr wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiadau o ddifrod troseddol - cafodd 143 ohonynt eu hanfon i’r carchar a bu’n rhaid i lawer mwy ohonynt dalu dirwyon. Golygai hyn mai’r Gymdeithas oedd y grŵp protest mwyaf ers y swffragetiaid.[4]

Rhifyn cyntaf Tafod y Ddraig ('Dalengyswllt Dinas Bangor'); Hydref 1963. Yr ymgyrchoedd: ffurflenni treth, gweinyddiaeth Llyfrgell y Ddinas a chodi dwy ysgol Gymraeg newydd.

Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau di-drais tebyg, a charcharwyd neu dirwywyd ymgyrchwyr. Ymhlith y rhain roedd y canwr poblogaidd Dafydd Iwan. Enillwyd rhai consesiynau gan y Llywodraeth, gan gynnwys Deddf Iaith 1967, a chynhyrchwyd ffurflenni dwyieithog gan rai cyrff cyhoeddus. Arweiniodd y cyfnod peintio a difrodi arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru gan gefnogwyr y Gymdeithas at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru.[5] Er nad oedd gan y Gymdeithas erioed fwy na 2,000 o gefnogwyr swyddogol, roedd llawer yn cydymdeimlo ag achos yr iaith Gymraeg, er nad oedden nhw o reidrwydd yn cytuno â’r ffordd roedden nhw’n mynd o’i chwmpas hi.[4]

Newidiadau o ganlyniad i ymgyrchu[golygu | golygu cod y dudalen]

Llwyddodd y Gymdeithas i ennill a sicrhau newidiadau yn sgil eu protestiadau.

  • Yn 1964, sefydlwyd Swyddfa Gymreig gydag Ysgrifennydd Gwladol â chyfrifoldeb dros Gymru, yn rhannol er mwyn ymdrin â’r materion a godwyd gan y Gymdeithas a Phlaid Cymru
  • Sefydlodd y llywodraeth bwyllgor i astudio statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg; yn 1965, cafwyd argymhelliad yn ei adroddiad y dylai 'unrhyw beth a wneir yn y Gymraeg yng Nghymru fod â’r un grym cyfreithiol â phe bai yn Saesneg'; Roedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 yn nodi y gallai pobl ddewis defnyddio’r Gymraeg neu Saesneg yn y llys, ac y byddai adroddiadau swyddogol yn cael eu cyhoeddi yn y ddwy iaith
  • Erbyn 1969 roedd 250 o ffurflenni’r llywodraeth ar gael yn y Gymraeg; 11 yn unig oedd ar gael yn 1964 er enghraifft, a chyflwynwyd disgiau treth ceir yn y Gymraeg yn 1967
  • O 1970, penderfynodd y Swyddfa Gymreig mai dim ond enwau llefydd yn y Gymraeg fyddai’n cael eu harddangos ar arwyddion gan eu bod yn poeni y byddai arwyddion dwyieithog yn rhy ddryslyd; Caerdydd oedd y cyntaf i arbrofi ag arwyddion enwau strydoedd dwyieithog; aeth y cynghorau lleol ati i wneud arwyddion yn fwy Cymraeg mewn ardaloedd lle'r oedd y mwyafrif yn siarad Cymraeg e.e. aeth Dolgelley yn Dolgellau, Llanelly yn Llanelli, Conway yn Conwy
  • Gwelwyd cynnydd yn nifer yr ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg.[4]
  • Gwelwyd newidiadau ym myd darlledu hefyd. Ar ddechrau'r 1970au dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros wasanaeth darlledu radio a theledu Cymraeg. Cynyddodd y pwysau ar yr awdurdodau darlledu i gynnig gwasanaeth Cymraeg, ac yn 1977 sefydlwyd Radio Cymru gan y BBC.[6] Erbyn 1971-2, roedd rhaglenni teledu Cymraeg ymlaen am 12 awr yr wythnos, gyda rhaglenni o ansawdd gwell e.e. rhaglen gomedi Fo a Fe o 1970 a oedd yn chwarae ar y gwahaniaethau rhwng gogledd a de Cymru, a darlledwyd yr opera sebon boblogaidd Pobol y Cwm am y tro cyntaf yn 1974.
    Stamp answyddogol yn dathlu 25ain pen-blwydd y Gymdeithas


Roedd cynlluniau hefyd i sefydlu sianel deledu ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg ond yn 1979 cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol na fyddai'n cadw at ei haddewid i sefydlu'r fath sianel. Gan hynny, cyhoeddodd Gwynfor Evans y byddai'n dechrau ymprydio oni byddai'r Llywodraeth yn anrhydeddu ei haddewid. Achosodd y penderfyniad hwn gryn gynnwrf, ac ofnid y gallai arwain at ymgyrchu treisgar. Yn y pen draw ildiodd y Llywodraeth i'r pwysau a chyhoeddwyd ym mis Medi 1980 y darlledid rhaglenni teledu Cymraeg ar y bedwaredd sianel newydd. Lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) yn 1982.[5]

‘Gwnewch bopeth yn Gymraeg’[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn y 1960au tueddai'r Gymraeg fod yn iaith yr aelwyd a'r capel a phrin oedd y defnydd o'r iaith mewn cylchoedd eraill. Ond gyda'r adfywiad yn y diddordeb yn y Gymraeg a'r ymgyrchu ar ei rhan, gwelwyd cynnydd yn y mudiadau a chymdeithasau a hyd yn oed busnesau a weithredai drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddwyd llawer mwy o lyfrau Cymraeg a sefydlwyd dwsinau o bapurau bro Cymraeg ledled Cymru.

Defnyddiwyd y Gymraeg fwyfwy mewn bywyd cyhoeddus ac roedd y Cynulliad Cenedlaethol a sefydlwyd yn 1999 wedi ei gyfundrefnu i weithredu'n ddwyieithog.

Yr 21ain ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am drafodaeth agored ar ddyfodol darlledu a'r cyfryngau newydd yn Gymraeg, a sut gellir sicrhau lle blaenllaw i'r Gymraeg yn y datblygiadau hyn.

  • Y trafodaethau ynglŷn â dyfodol S4C
  • Papur gwyrdd y llywodraeth ar siarter newydd y BBC
  • Effaith diffodd signalau teledu analog o fewn tair blynedd
  • Cyfleoedd newydd radio a theledu lleol
  • Y we a phlatfformau cyfathrebu newydd
  • Ariannu'r chwyldro digidol yn Gymraeg
  • Hybu'r rhithfro[7]

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod yr academydd Dr Simon Brooks, llywydd Plaid Cymru - Jill Evans, yn ogystal â'r cerddorion Gai Toms, Bryn Fôn a Dafydd Iwan, ymhlith cant o bobl a wrthododd dalu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[8][9]

Deddf Eiddo[golygu | golygu cod y dudalen]

Cred Cymdeithas yr Iaith fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar sefydlu dyfodol i gymunedau lleol ym mhob rhan o Gymru. Credant fod polisïau teg ym maes tai a chynllunio yn gwbl hanfodol. Maent yn galw am i'r awdurdodau sicrhau bod gan bobl y gallu i brynu neu rentu tai yn eu cymunedau, ac i beidio â rhoi caniatâd i ddatblygiadau tai a all niweidio'r gymuned leol, yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd naturiol. Ar ddechrau 2004, cychwynnodd Cymdeithas yr Iaith ar flwyddyn o ymgyrchu, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Eiddo i Gymru. Ar Fawrth 11 2014, lansiodd aelodau'r mudiad "Fil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau (Cymru)"[10] yn y Senedd ym Mae Caerdydd.


Hawliau i'r Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Poster yn hysbysebu Rali Deddf Iaith Newydd yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2005.

Ar ddechrau'r 21g, galwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am Ddeddf Iaith Newydd i Gymru, a fyddai'n ateb anghenion y Gymraeg yn yr oes fodern ac yn sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys:

  • rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg
  • sicrhau gwasanaeth Cymraeg gan y sector preifat (cymharer â Québec, lle mae deddfau iaith yn effeithio ar fusnesau preifat hefyd)
  • sicrhau lle i'r Gymraeg yn y chwyldro technolegol

Dadleuodd y dylai pethau, megis biliau ffôn neu ffurflenni, er enghraifft, fod ar gael yn ddwyieithog i bawb yng Nghymru. Credant na ddylai siaradwyr Cymraeg orfod mynd allan o'u ffordd i ofyn am wasanaeth yn eu hiaith eu hunain, na bodloni ar ddefnyddio'r Saesneg, gan nad oes gwasanaeth Cymraeg ar gael. Dyma paham eu bod yn galw am Ddeddf Iaith Newydd i sicrhau bod pob math o wasanaethau ar gael yn ddwyieithog.

Yn ystod yr 1980au, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros Ddeddf Iaith i sicrhau bod pob cyhoeddiad a hysbysiad swyddogol yn dod yn naturiol ddwyieithog heb orfod gofyn. Ar ôl ymgyrchu caled, gorfodwyd y Llywodraeth Geidwadol i ymateb. Serch hynny, cred llawer fod Deddf Iaith 1993 yn rhy wan.

Yn ôl y Ddeddf byddai bwrdd statudol yn cael ei sefydlu i hyrwyddo'r Gymraeg, a byddai cyrff cyhoeddus yn gorfod paratoi cynlluniau iaith i ddangos sut roeddent am drin y Gymraeg yn deg. Cred y Gymdeithas fod y mesurau hyn yn 'ddi-ddannedd, yn ddiddim.'[5]

Ar ddechrau 2007, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei Mesur yr Iaith Gymraeg[11], mesur a lwyddodd i arwain at basio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011[12] a sefydlodd statws swyddogol i'r Gymraeg, bron i 50 mlynedd wedi i aelodau'r mudiad eistedd ar bont Trefechan yn galw am y polisi.

Fodd bynnag, ni sefydlodd y Mesur hawl statudol cyffredinol i'r Gymraeg, ac o ganlyniad ail-enwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei grŵp ymgyrchu o'r "ymgyrch deddf iaith" i'r "grŵp hawliau".

Ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn canlyniadau argyfyngus Cyfrifiad 2011, cynhaliodd y mudiad gyfres o ralïau ar hyd a lled Cymru. Yn y rali gyntaf yng Nghaernarfon cyhoeddodd y mudiad Maniffesto Byw[13] ar gyfer Cymunedau Byw gyda degau o bolisiau wedi eu llunio er mwyn cryfhau'r Gymraeg. Lansiodd y grŵp ymgyrchu slogan "Dwi eisiau byw yn Gymraeg" yn yr un rali.

Ar Chwefror 6ed 2013 a Gorffennaf 4ydd 2013, aeth dirprwyiaeth o’r Gymdeithas i gwrdd â'r Prif Weinidog Carwyn Jones i bwyso am newidiadau polisi. Ar Chwefror 6ed 2013, addawodd Carwyn Jones i'r Gymdeithas y byddai’n asesu effaith y gyllideb ar y Gymraeg.[angen ffynhonnell] Hyd heddiw, nid oes asesiad wedi ei gyhoeddi.

Cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o'r Maniffesto Byw ym mis Gorffennaf 2013, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chyfarfod cyffredinol arbennig pan basiwyd nifer o welliannau i'r Maniffesto.

Ym mis Awst 2013, ysgrifennodd y mudiad at y Prif Weinidog Carwyn Jones gan roi chwe mis iddo ddatgan ei fwriad i gyflawni chwe newid polisi er lles yr iaith[14]:

1. Addysg Gymraeg i Bawb

2. Tegwch Ariannol i'r Gymraeg

3. Gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg

4. Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir

5. Trefn Gynllunio er budd ein Cymunedau

6. Y Gymraeg yn greiddiol i Ddatblygu Cynaliadwy

Ni chafwyd datganiad o fwriad gan Carwyn Jones erbyn 1 Chwefror 2014, felly cychwynodd y mudiad ymgyrch weithredol a chynhaliwyd nifer o brotestiadau ar hyd a lled y wlad.


Ymgyrch NA i 8000 o dai yng Ngwynedd a Môn[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd protest gan Gymdeithas yr Iaith yn Nghaernarfon ddydd Sadwrn y 29ain o Fawrth 2014 yn gwrthwynebu'r cynlluniau i adeiladu 8000 o dai yng Ngwynedd a Môn.[15] Yn ôl erthygl ar wefan Cymdeithas yr Iaith, daeth 300 o brotestwyr yno.[16] Ymysg y siaradwyr roedd yr awdures a'r ymgyrchwraig, Angharad Tomos, a Robin Farrar, cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Y pryder yw na fydd y bobl a fydd yn symud i'r tai newydd yn siarad y Gymraeg, a bydd hynny'n rhoi 'mwy o bwysau ar yr iaith Gymraeg'[17].

Aelodau nodedig, cyd-aelodau a chefnogwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Saith o aelodau amlwg Cymdeithas yr Iaith sydd wedi bod yn y carchar o ganlyniad i ymgyrchoedd dros y Gymraeg: Enfys Llwyd, Helen Greenwood, Angharad Tomos, Sioned Elin, Ann Rhys, Meinir Ffransis, Marged Tomos (o'r chwith i'r dde)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ymgyrchu! - Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, S4C, Deddf Iaith". web.archive.org. 2013-05-10. Cyrchwyd 2020-06-16.
  2. "Hafan | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2020-06-16.
  3. "Maniffesto Byw - Cynllun Gweithredu dros Iaith, Gwaith a Chymuned | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2020-06-16.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 "Caledi, Cyfoeth ac Anniddigrwydd,1951-1979" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 16 Mehefin 2020.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 "Tynged yr Iaith". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 16 Mehefin 2020.
  6. "Ymgyrchu! - Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, S4C, Deddf Iaith". web.archive.org. 2013-05-10. Cyrchwyd 2020-06-16.
  7. "Gwaith i Adfywio Iaith - Dogfen Bolisi Ymgynghorol | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2020-06-16.
  8. "Dedfrydu 2 ymgyrchydd iaith - Achos llys cyntaf dros S4C ers 30 mlynedd | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2020-06-16.
  9. "Dedfrydu ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith". Golwg360. 2011-07-07. Cyrchwyd 2020-06-16.
  10. "Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau - Drafft Ymgynghorol | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". www.cymdeithas.org. Cyrchwyd 2020-06-16.
  11. "Hafan | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2020-06-16.
  12. "Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011". Senedd Cymru. Cyrchwyd 2020-06-16.
  13. "Maniffesto Byw - Cynllun Gweithredu dros Iaith, Gwaith a Chymuned | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". www.cymdeithas.org. Cyrchwyd 2020-06-16.
  14. "6 pheth | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". www.cymdeithas.org. Cyrchwyd 2020-06-16.
  15. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/26066316
  16. [1]
  17. "Cynllun datblygu: 'angen balans'". BBC Cymru Fyw. 2014-03-30. Cyrchwyd 2020-06-16.