Gareth Miles
| Gareth Miles | |
|---|---|
| Ganwyd | 19 Ebrill 1938 Caernarfon |
| Bu farw | 6 Medi 2023 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, athro, dramodydd |
Awdur, dramodydd ac ymgyrchydd o Gymru oedd Gareth Miles (19 Ebrill 1938 – 6 Medi 2023).[1]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yng Nghaernarfon a'i fagu yn Waunfawr. Roedd ei dad yn dod o Bontrhydyfen[2] a chafodd y pentref hwnnw ddylanwad mawr arno. Roedd ganddo ddwy chwaer, Lisabeth a Gill. Mynychodd Brifysgol Bangor cyn mynd yn athro Ffrangeg a Saesneg yn Amlwch, Dyffryn Nantlle, ac Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Yn ddiweddarach ymgartrefodd ym Mhontypridd.[3] Tra yn y coleg, bu'n rhan o'r criw oedd yn gyfrifol am y ddrama "ffug" Y Ffynnon a achosodd gynnwrf mawr ym Myd y Theatr ym 1964.
Gwysion llys Cymraeg
[golygu | golygu cod]I lawer o genedlaetholwyr, roedd yr wŷs, yn symbol o wladwriaeth Lloegr ac o israddoldeb y Gymraeg gan y wladwriaeth honno. Ym Mai 1962 cymerwyd arian o boced Gareth Miles tra yn y ddalfa i dalu dirwy o £1 nad oedd yn bwriadu ei thalu, a hynny am iddo roi pas i gyd-fyfyriwr ar far ei feic ryw chwe mis ynghynt. Dyma'r tro cyntaf i berson gael dirwy am fynnu statws gyfartal i'r Gymraeg. Daeth llawer ar ei ôl. Yn Rhifyn Awst 1962 o'r Welsh Nation, aeth Miles ati i annog y darllenwyr (yn Saesneg) i wneud yr un peth ac i ddod i gyfarfod o fudiad iaith newydd ym Mhontarddulais y mis Awst hwnnw: y cyfarfod cyntaf o Gymdeithas yr Iaith.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu'n drefnydd cenedlaethol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) ac roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Bu'n awdur proffesiynol ers 1982. Llwyfanwyd dros ugain o ddramâu gwreiddiol a chyfieithiadau o'i eiddo.[4] Fe weithiodd hefyd fel sgriptiwr ar raglenni teledu gan gynnwys y cyfresi drama Pobol y Cwm, Coleg, a Dinas.
Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2008 am Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod a Gina ac roedd ganddynt dair merch - Elen, Branwen ac Eiry.
Bu farw ar 6 Medi 2023, gartref gyda'i deulu. Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Gwener, 22 Medi 2023. Cafwyd gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Glyn Taf, Pontypridd am 12:45 â ddilynwyd gan dderbyniad yng Nghlwb y Bont, Pontypridd.[5]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Straeon byrion a nofelau
[golygu | golygu cod]- Cymru ar wasgar: chwe stori (1974)
- Trefin (1979)
- Trefaelog (1989)
- Romeo a Straeon Eraill (1999)
- Ffatri Serch (2003)
- Lleidr Da (2005)
- Cwmtec (2002)
- Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel (2007)
- Teleduwiol (2010)
- Cuddwas (2015)
Dramâu ac addasiadau[6]
[golygu | golygu cod]- Diwedd y Saithdegau (1982)
- Unwaith Eto'n 'Nghymru Annwyl (1983)
- Ffatri Serch (1984)
- Lleidr Da (1986)
- Duges Amalffi (1987)
- Chwiorydd (1987)
- Mandragora (1989)
- Hunllef yng Nghymru Fydd (1990)
- Serch yw'r Teyrn (1991)
- Bacchai (1991)
- Y Gosb Ddiddial (1992)
- Coch, Du ac Anwybodus (1993)
- Dyrnod Branwen (1993)
- Calon Ci (1994)
- Byd y Banc (1996) Cwmni Rigoberta
- Y Brenin Wbw (1997)
- Y Madogwys (1999)
- Llafur Cariad (2001)
- Duges, Tywysoges, A Chyffur Epilio; addasiadau o ddramâu gan Niccolò Machiavelli, John Webster a Pierre de Marivaux (1992)
- Lludw'r Garreg - addasiad o waith Daniel Danis
- Llanast! cyfieithiad o Le Dieu Du Carnage (2013)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Yr awdur, dramodydd ac ymgyrchydd iaith Gareth Miles wedi marw". newyddion.s4c.cymru. 2023-09-06. Cyrchwyd 2023-09-06.
- ↑ Gorau Arf Golygydd iolo wyn Wi/lliams. Cyhoeddwyr Y Lolfa.Td 347]
- ↑ "Sylfaenydd Cymdeithas yr Iaith, Gareth Miles, wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2023-09-06. Cyrchwyd 2023-09-06.
- ↑ "Speaker Biographies - Swansea University". www.swansea.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-09-06. Cyrchwyd 2023-09-06.
- ↑ "The obituary notice of Gareth MILES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-08.
- ↑ Miles, Gareth (1990). Hunllef yng Nghymru Fydd. CAA. ISBN 1856449386.