Neidio i'r cynnwys

Dinas (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Dinas
Genre Opera sebon
Serennu
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Darllediad
Darllediad gwreiddiol 19 Medi 1985 – 1991

Opera sebon Cymraeg oedd Dinas oedd yn dilyn hynt a helynt rhai o Gymry Cymraeg Caerdydd wrth iddynt gydweithio, cyd-fyw a chymdeithasu yn y Brifddinas. Cynhyrchwyd y gyfres gan HTV Cymru a darlledwyd dros 100 pennod o'r gyfres rhwng 1985 ac 1991. Cyhoeddwyd cyfrol am y gyfres gan Hefin Wyn a Hughes a'i Fab ym 1990.[1]

Crynodeb

[golygu | golygu cod]
Clawr y gyfrol am y gyfres

Teulu canolog y gyfres yw’r teulu Ambrose, un o deuluoedd llewyrchus y brifddinas gyda’r penteulu, Paul Ambrose yn rhedeg cwmni llwyddiannus ei deulu Ambrose International. Mae Paul yn teithio’r byd, o Hong Kong i Efrog Newydd, gan adael ei wraig Helen a’i ferch Miriam gartref yn Melbourne House i gecru a ffraeo ymysg ei gilydd. Nid yw Helen yn gweithio, ond treulia ei dyddiau yn ymlacio, siopa a chiniawa gyda ffrindiau, tra mae Miriam ei merch ddwy ar bymtheg yn mynychu’r ysgol breifat ac yn aros allan yn hwyr gyda’i ffrindiau.

Llun o goeden deulu prif deulu'r gyfres

Ffrind pennaf Helen Ambrose yw Ruth Gregory, dynes fusnes llwyddiannus sy’n byw i’w gwaith ac yn rhedeg y cwmni recriwtio GALW ac ar fin sefydlu partneriaeth fusnes â Paul Ambrose. Mae hi’n briod â Robin Gregory, newyddiadurwr i’r South Wales Standard sy’n arbenigo mewn newyddiaduraeth fusnes a materion ariannol, ac sy’n treulio llawer o’i amser yn yfed wisgi yn Mistro y Sgwner yn y Bae.

Llun o gymeriadau'r gyfres

Ynghyd â’u prif fusnes mae gan yr Amrboses fflatiau y maent yn eu gosod ar rent, ac yma y mae rhai o gyn-fyfyrwyr coleg Glannau Hafren (o’r gyfres Coleg) bellach yn byw. Mae Elwyn Scourfield wedi llwyddo i gael swydd dda gyda chwmni electroneg Intern, tra mae ei gyd-fyfyrwyr Carys Jones a Dylan Pierce a’u bryd ar yrfa yn y cyfryngau er bod cael swydd heb gerdyn undeb yn profi’n anoddach na’r disgwyl. Yma hefyd y mae Helga Lewis, un o weithwyr uchelgeisiol cwmni GALW sydd a’i bryd ar lwyddo ym maes recriwtio.

Yn chwilio am swydd hefyd y mae Richard Morris, cyn-ddarlithydd drama yng ngholeg Glannau Hafren, cyn iddo ddod ar draws Peter Jennings sy’n rhedeg y cwmni annibynnol Lens. Ai cynhyrchiad diweddaraf y cwmni ‘Ieuan’ fydd llwyddiant neu fethiant nesaf S4C?

Yn fan cyfarfod i’r cymeriadau i gyd y mae Bistro y Sgwner a chlust barod Jo Benson y rheolwraig. Yma y gwelwn fywydau’r cymeriadau yn cyd-daro a chyd-blethu i ffurfio naratif dramatig a chyffrous cyfres gyntaf Dinas.

Manylion pellach

[golygu | golygu cod]

Teitl Gwreiddiol: Dinas

Blwyddyn: 1985

Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 19 Medi 1985

Cyfarwyddwr: Graham Jones / Meredydd Owen / Bryn Richards / Ieuan Davies

Sgriptwyr : Gareth Miles / Dwynwen Berry / Geraint Lewis / Wil Roberts / Angharad Jones / Geraint Jones / Siwan Jones / Manon Rhys

Cynhyrchydd: Graham Jones

Cwmnïau Cynhyrchu: HTV Cymru ar gyfer S4C

Genre: Drama, Opera sebon

Cast a chriw

[golygu | golygu cod]

Prif gast[1]

[golygu | golygu cod]

Cast cefnogol[1]

[golygu | golygu cod]

Dylunio

[golygu | golygu cod]
  • Hywel Morris/ Haydn Morgan

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]
  • Mick Perry/ Derek Edwards

Golygu

[golygu | golygu cod]
  • Keith Farmer / Bob McAleese

Cydnabyddiaethau eraill

[golygu | golygu cod]
  • Camera – Bill Spiers, Terry Humphreys
  • Lluniau – Alan Carter, Keith Jones
  • Cymysgydd Lluniau – Ros Gatti
  • Dybio – Ralph Evans, Phil Robinson
  • Goleuo – Peter Stanton
  • Coluro – Carole Williams
  • Gwisgoedd – Sian Longstaffe
  • Graffeg – Stephanie Aplin
  • Llwyfannu – Mererid Arch, Hywel Watkins
  • Rheolwr Llawr – Iwan Evans
  • Rheolwr y Cynhyrchiad – Dennis Morgan
  • Cynorthwyydd y Cynhyrchiad – Nia Edwards, Melva Bowen

Manylion technegol

[golygu | golygu cod]

Fformat Saethu: Fideo

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 4:3

Gwlad: Cymru

Llinell Werthu'r Poster: Dinas Caerdydd, Cymry Dinas Caerdydd, pobol byd busnes, pobol y cyfryngau, pobl efo pres, pobol fasa’n lecio tasa ganddo nhw bres, pobol wnaiff unrhywbeth am bres!

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Wyn, Hefin (1990). Dinas - portffolio cyfres lwyddiannus. Hughes a'i Fab. ISBN 0852840861.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Dinas ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.