Eiry Palfrey

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eiry Palfrey
Ganwyd Eiry Lloyd Palfrey Edit this on Wikidata
Tachwedd 1939 Edit this on Wikidata
Llanfihangel y Creuddyn Edit this on Wikidata
Man preswyl Llanfyllin, Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth actor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus am Prifysgol Aberystwyth Edit this on Wikidata
Plant Lisa Palfrey Edit this on Wikidata

Actores, awdur, cynhyrchydd ac astrolegydd Cymreig yw Eiry Palfrey (ganwyd Tachwedd 1939).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Eiry Palfrey yn Llanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth. Cafodd ei magu a'i haddysgu yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn ac fe astudiodd Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'n byw yng Nghaerdydd.[1][2]. Mae'n fam i'r actores Lisa Palfrey a'r cyfarwyddwr Dafydd Palfrey.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl gadael y brifysgol fe aeth i ddysgu am ychydig cyn cael swydd gyda HTV Cymru yn 1974 fel cyflwynydd a darllenydd newyddion. Fe wnaeth hynny tan tua 1982.[4] Yn 1985 fe ddatblygodd HTV Cymru yr opera sebon Dinas ar gyfer S4C a chafodd Eiry ran yn chwarae'r cymeriad Helen Ambrose. Bu'n gweithio gyda chwmni Teliesyn rhwng 1990 a 2001 fel cynhyrchydd, cyn gadael i ffurfio cwmni cynhyrchu Tracrecord.[5]

Mae'n ymddiddori mewn dawnsio gwerin a bu'n gadeirydd Cymdeithas Dawns Werin Cymru. g Ysgrifennodd y ddrama ddogfen Poncho Mamgu a ddangoswyd ar S4C yn 2008. Roedd y rhaglen yn adrodd hanes Nel Davies a ymfudodd i'r Wladfa ym Mhatagonia ym 1875. Cyfarwyddwyd y rhaglen gan ei mab Dafydd, ei merch Sian Elin oedd tu ôl i'r camera a roedd ei merch arall, Lisa yn chwarae rhan Nel.

Llyfryddiaeth[2][golygu | golygu cod y dudalen]

  • Arwyr Gwerin Cymru i Ddysgwyr (Dref Wen)
  • Un Tro – Chwedlau Cymru, Cernyw ac Iwerddon i Blant (J.D. Lewis, 1979)
  • Cyfres Slici a Slac (Hughes a’i Fab)
  • Chwedlau Cymru i Ddysgwyr (Gwasg y Dref Wen, 1982)
  • Melangell (Gomer, 2005)
  • Hiding Hopcyn (Pont, 2006)
  • Llyfr Penblwydd (Gwasg Gomer, 2008)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Llyfr Pen-blwydd - Eiry Palfrey". BBC Cymru. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015.
  2. 2.0 2.1 "Rhestr Awduron Cymru - Eiry Palfrey". Llenyddiaeth Cymru. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015.
  3. O Drelew i Dre-fach, BBC; Adalwyd 2015-12-30
  4. Cyfweliad Teliesyn 18 Gorffennaf 2012; Adalwyd 2015-12-30
  5. Dinas, Porth; Adalwyd 2015-12-30

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]