Lisa Palfrey

Oddi ar Wicipedia
Lisa Palfrey
Lisa Palfrey, Roc Ystwyth, Aberystwyth, 1987.
Ganwyd9 Chwefror 1967 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
MamEiry Palfrey Edit this on Wikidata

Actores o Gymru yw Lisa Palfrey (ganwyd 9 Chwefror 1967).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Fe aeth i Ysgol Gyfun Llanhari ger Pont-y-clun.[1] Mae'n ferch i'r actores ac awdur, Eiry Palfrey.[2] ac mae ganddi ferch, Lowri Palfrey sydd hefyd yn actores.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd actio yn broffesiynol yn 20 oed pan gafodd ran yn chwarae merch 15 oed yng nghyfres The District Nurse.

Mae'n adnabyddus am chwarae prif ran yn y ffilm The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain.[3] Fe aeth ymlaen i serennu yn y ffilm gwlt House of America,[4] ac mae wedi ymddangos yn ffilm gomedi Guest House Paradiso a chyfres deledu Casualty.

Mae wedi chwarae cymeriad "Rhiannedd Frost" yn opera sebon Pobol y Cwm.[5] Mae wedi perfformio mewn nifer o ddramau llwyfan yn cynnwys cynhyrchiad gwreiddiol addasiad David Eldridge o Festen[6] a Under The Blue Sky,[7] The Iceman Cometh [8] gyda Kevin Spacey a The Kitchen Sink.[9]

Yn 2021 chwaraeodd ran Mair yn y ffilm arswyd Gymraeg Gwledd.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Theatr[golygu | golygu cod]

  • Festen
  • Under The Blue Sky
  • The Iceman Cometh
  • The Kitchen Sink

Teledu[golygu | golygu cod]

  • District Nurse - BBC
  • Soldier Soldier - ITV
  • Fondue, Rhyw a Deinosors - S4C
  • Split Second - BBC
  • Outside the Rules - BBC
  • The Bench - BBC Cymru
  • Family Tree - HBO (2013)
  • Line of Duty - BBC, Cyfres 3 (2016)

Ffilm[golygu | golygu cod]

  • The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain (1995) "Blod Jones"
  • House of America (1997) "Gwenny"
  • Guest House Paradiso (1999) "Mrs. Nice"
  • Byw Yn Dy Groen - S4C (2001)
  • Pride (2014) "Maureen Barry"
  • Under Milk Wood (2015)
  • Gwledd (2021)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Blink - Gofidio nad oes llwyfan i addasiad Cymraeg". BBC. Cyrchwyd 22 June 2010.
  2. O Drelew i Dre-fach, BBC Cymru; Adalwyd 2015-12-30
  3. (Saesneg) The Englishman Who Went up a Hill, but Came down a Mountain. Radio Times.
  4. "Rare bit of Welsh drama". The Herald. 14 August 1997. Cyrchwyd 22 June 2010.
  5. "Comedian Tudor Owen is getting serious". The Daily Post. 14 November 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-29. Cyrchwyd 22 June 2010.
  6. What's On Stage[dolen marw]
  7. David Eldridge (2 Gorffennaf 2010). The Methuen Drama Book of Royal Court Plays 2000-2010 (yn en). Bloomsbury Academic. URL
  8. (Saesneg) Review: ‘The Iceman Cometh’. Variety (16 Ebrill 1998).
  9. Review: The Kitcken Sink

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]