HTV

Oddi ar Wicipedia
HTV
Math
busnes
Sefydlwyd1968
CadeiryddWilliam David Ormsby-Gore, 5fed Arglwydd Harlech
PencadlysCaerdydd
Rhiant-gwmni
ITV plc
Gwefanhttp://www.itv.com/wales Edit this on Wikidata


Cwmni teledu yng Nghymru a gorllewin Lloegr yw HTV Group plc, rhan o rwydwaith ITV. Dechreuodd ddarlledu yn 1968. Y cwmnïau teledu a oedd yn darlledu i Gymru cyn hyn oedd TWW (Television Wales and West) yn y dde-dwyrain rhwng 1958 a 1968, ac i Gymru gyfan rhwng 1964 a 1968, a WWN (Wales (West and North)/Teledu Cymru) yn y gogledd a'r gorllewin rhwng 1962 a'u fethinat yn 1964. Roedd HTV yn darlledu yn Saesneg ac ychydig o raglenni Cymraeg cyn 1982.

Ar ôl sefydlu S4C, yn Saesneg yn unig mae'n darlledu, er ei fod yn cynhyrchu rhaglenni Cymraeg dam gomisiwn i S4C ddarlledu. Roedd HTV yn gwmni annibynnol, ond daeth dan berchnogaeth ITV plc yn 1996. Y cadeirydd yn 1968 oedd Arglwydd Harlech a gafodd ei ladd yn 1985 mewn damwain car.

Erbyn 2002 doedd logo HTV ddim yn cael ei ddefnyddio. Yn hytrach defnyddid logo yr enw newydd “ITV1 Wales”.

Perchnogion ar ôl 1996

  • United News and Media 1996 - 2001,
  • Carlton Communications 2001 - 2003,
  • ITV Plc 2003 -

Yr Amnewidiadau: ITV Wales ac ITV West[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]