Teledu Cymru (WWN)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o WWN)
Teledu Cymru
Enghraifft o'r canlynolbusnes Edit this on Wikidata
Logo Teledu Cymru

Teledu Cymru neu WWN (Wales West and North Television) oedd y cwmni gyda'r hawl i ddarlledu rhwydwaith ITV i'r rhan fwyaf o Gymru rhwng 1962 a 1968.

Roedd daearyddiaeth Cymru'n broblem fawr i'r Awdurdod Teledu Annibynnol (ITA). Roedd y de-ddwyrain yn derbyn gwasanaeth Television Wales and West (Television Wales and the West sef "Teledu Cymru a'r Gorllewin (Lloegr)") o Gaerdydd a Bryste, ac roedd glannau'r gogledd mor bell â Llandudno, ac ardal Wrecsam yn derbyn gwasanaeth o Fanceinion - Granada yn ystod yr wythnos, ac ABC dros y penwythnos.

Roedd teimlad y dylai'r rhannau o Gymru (yr ardaloedd mwyaf Cymraeg) nad oedd yn gallu derbyn ITV gael rhanbarth eu hunain. Gofynnodd yr ATA i'r Postfeistr Cyffredinol am ganiatâd i greu rhanbarth newydd. Cytunodd y Postfeistr Cyffredinol ar yr amod:

  • Ni ddylai'r gwasanaeth newydd gynnig dewis i wylwyr yng Nghymru nad oedd gwylwyr mewn ardaloedd eraill yn ei gael.
  • Bod yn rhaid i'r cwmni newydd gynhyrchu deng awr o raglenni Cymraeg bob wythnos, heb ddibynnu ar y rhaglenni Cymraeg yr oedd Granada a TWW yn eu cynhyrchu.

Derbyniwyd yr amodau hyn, ac ar 6 Mehefin 1961 enillodd Wales Television Ltd./Teledu Cymru Cyf. y cytundeb i reoli'r orsaf. Bu'n rhaid i'r cwmni newid ei enw i Wales (West and North) Television Ltd ar ôl i TWW gwyno - teimlai TWW fod yr enw yn awgrymu bod y cwmni newydd yn cynnwys ei hardal nhw! Roedd WWN i ddefnyddio tair gorsaf drosglwyddo newydd -- Preseli, Arfon, a Moel y Parc, ond nid oeddent yn barod ar yr un pryd. Dechreuodd WWN ddarlledu pan yr oedd Preseli'n barod, ar 14 Medi 1962, ond yr oedd Arfon a Moel y Parc ddim yn barod tan yn ddiweddarach ym 1963; felly roedd incwm y cwmni'n llai o'r herwydd. Penderfynodd Granada roi'r gorau i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg, ac roedd hyn yn ddigon i anfon WWN i'r wal ar 26 Ionawr 1964, yr unig dro i gwmni teledu ITV erioed fethu.

Rhoddodd yr ATA ranbarth WWN i TWW am weddill y cytundeb, tan 1968 pan gollodd TWW y cytundeb.

Roedd gan y cwmni nifer fawr o broblemau. Erbyn Tachwedd 1961 roedd amser darlledu'r rhaglenni Cymraeg yn cael ei gyfyngu i rwng 18:00 a 19:00 neu ar ôl 22:00, oherwydd yr angen masnachol i sicrhau hysbysebion.