Neidio i'r cynnwys

Prifysgol Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Prifysgol Cymru Aberystwyth)
Aberystwyth
Prif fynedfa'r Hen Goleg
Arwyddair Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth
Sefydlwyd 1872
Math Cyhoeddus
Canghellor Boneddiges Ustus Nicola Davies
Is-ganghellor Elizabeth Treasure
Staff 5,230
Myfyrwyr 7,720 [1]
Israddedigion 6,605 [1]
Ôlraddedigion 1,115 [1]
Lleoliad Aberystwyth, Baner Cymru Cymru
Lliwiau
                     
Tadogaethau Prifysgol Cymru
AMBA
ACU
University Alliance
Universities UK
HiPACT
SEDA
HEA
Gwefan http://www.aber.ac.uk/cy/

Prifysgol ymchwil cyhoeddus yn Aberystwyth, Ceredigion yw Prifysgol Aberystwyth. Hyd fis Medi 2007 ei henw swyddogol oedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.[2] Yn 1872 yr agorwyd sefydliad prifysgol cyntaf Cymru — 'y Coleg ger y Lli' a'r prifathro cyntaf oedd Thomas Charles Edwards. Ers hynny tyfodd nifer y myfyrwyr o 26 i dros 7,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys bron i 2,000 o Gymru, a thros 1,100 o uwchraddedigion. Mae yno ddeunaw adran academaidd, sy'n dysgu ystod eang o bynciau. Yn 2016 fe'i dynodwyd y brifysgol mwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru ac ymysg y 10 saffa yn y DU (yn ôl y Complete University Guide 2016).

Mae ymchwil yn rhan greiddiol o genhadaeth a gwaith y Brifysgol. Fe'i cefnogir gan Strategaeth Ymchwil er mwyn sicrhau y gall y Brifysgol barhau i gynhyrchu gwaith o safon uchel ac ymateb i amgylchedd sy'n newid drwy'r amser, mewn perthynas ag ymchwil a chyllido ymchwil.[3]

Ceir chwech Athrofa oddi fewn i Brifysgol Aberystwyth:[4]

  • Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
  • Athrofa Datblygu Proffesiynol
  • Athrofa Busnes a’r Gyfraith
  • Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth & Seicoleg
  • Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol
  • Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg

a deunaw o Adrannau academaidd gan gynnwys Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yr Adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol (yr adran hynnaf o'i fath yn y byd) a'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylghcheddol a Gwledig sy'n adnabyddus yn fyd-eang am ei ymchwil.[5]

Mae modd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod eang iawn o feysydd bellach ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda dros 300 o gyrsiau bellach ar gael ble gellir astudio yn rhannol neu yn gyfan gwbl yn Gymraeg.[6]

Yn 2016, o ran bodlonrwydd myfyrwyr, roedd Prifysgol Aberystwyth yn 4ydd ar restr 'Ymchwil Myfyrwyr Cenedlaethol' o holl brifysgolion gwledydd Prydain, a 1af yng Nghymru, gyda 92% o'r myfyrwyr yn mynegi eu boddhad llwyr.[7] 4ydd yn y DU a 1af yng Nghymru, Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016

O ran yr addysg a'r addysgu, roedd yn 79fed yn Rhestr Prifysgolion Da y The Times/Sunday Times a 93ydd y flwyddyn cyn hynny; yng Nghymru, roedd y drydedd brifysgol gorau.[8][9] Ceir rhestr 'Cyflogwyr o Fyd Busnes, TG a Pherianneg' hefyd, a dyfarnwyd Aberystwyth yn gydradd 49fed o ran y potensial i fyfyriw gael gwaith wedi cwbwlhau ei radd; gweler adroddiad Times Higher Education.[10] Yn y Times Higher Education World University Rankings 2016-17, roedd o fewn y 40 prifysgol gorau yn y DU.[11]

Yn 2016 roedd 92% o'i graddedigion mewn swyddi neu Addysg bellach o fewn 6 mis o raddio ac roedd 95% o ymchwil y Brifysgol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu’n uwch.

Y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

[golygu | golygu cod]

Noda Hefin Jones, yn ei astudiaeth o'r Ymerodraeth Brydeinig: "wrth sefydlu prifysgol gyntaf Cymru yn Aberystwyth yn 1872, nid oedd yr Anghydffurfwyr yn cynnig dim yn Gymraeg. Saesneg oedd popeth. Cafodd hyd yn oed y Gymraeg, pan gafodd ei chyflwyno fel pwnc ymhen hir a hwyr, ei dysgu drwy'r Saesneg."[12]

Ym mlwyddyn academaidd 2014-2015, roedd tua 1068 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gallu siarad Cymraeg. Roedd hyn yn ostyngiad o tua 79 o fyfyrwyr o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.[13]

Pobl nodedig

[golygu | golygu cod]

Llywyddion a Canghellorion

[golygu | golygu cod]

Prifathrawon ac Is-Ganghellorion

[golygu | golygu cod]

Staff nodedig

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3  Where do HE students study?. hesa. Adalwyd ar 9 Mehefin 2021.
  2. ↑ "BBC Mid Wales News – Three universities go independent". BBC. 1 Medi 2007. Cyrchwyd 3 Medi 2007.
  3. ↑ aber.ac.uk; adalwyd 21 Tachwedd 2016.
  4. ↑ "Aberystwyth University - Why Aberystwyth?". www.aber.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-21. Cyrchwyd 15 Chwefror 2016.
  5. ↑ https://www.aber.ac.uk/cy/university/institutes/ Archifwyd 2016-04-10 yn y Peiriant Wayback Adalwyd ar 21 Tachwedd 2016
  6. ↑ https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/astudio-cyfrwng-cymraeg/ Archifwyd 2017-07-15 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 21/11/16
  7. ↑ "NSS Results 2016". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-15. Cyrchwyd 13 Medi 2016.
  8. ↑ Cyfieithiad o The Times/Sunday Times Good University Guide.
  9. ↑ "Cardiff University ranked top in Wales despite losing ground". BBC News. Cyrchwyd 15 Chwefror 2016.
  10. ↑ "The best UK universities chosen by major employers". Times Higher Education (THE). Cyrchwyd 15 Chwefror 2016.
  11. ↑ gefan aber.ac.uk; adalwyd 24 Tachwedd.
  12. ↑ Hefin Jones. Celwydd a Choncwest: Yr Ymerodraeth Brydeinig ar draws y byd (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 2016), t. 34.
  13. ↑ https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/theuniversity/pantycelyn/Adroddiad-(TERFYNOL---cyfansawdd---elfennau-wedi-eu-dileu).pdf[dolen farw]
  14. ↑ "Barnwr blaenllaw yw Canghellor newydd Prifysgol Aberystwyth". Golwg360. 2025-01-14. Cyrchwyd 2025-01-14.
  15. ↑ "Aberystwyth University appoints new vice chancellor". BBC News. 15 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 28 Ionawr 2017.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]