Joseph Parry
| Joseph Parry | |
|---|---|
| Ganwyd | 21 Mai 1841 Bwthyn Joseph Parry, Merthyr Tudful |
| Bu farw | 17 Chwefror 1903 Penarth |
| Dinasyddiaeth | |
| Addysg | Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfansoddwr |
| Cyflogwr | |
| Arddull | opera |
| Plant | Joseph Haydn Parry |
Cyfansoddwr a cherddor Cymreig oedd Joseph Parry (21 Mai 1841 — 17 Chwefror 1903). Ei enw yng Ngorsedd y Beirdd oedd Pencerdd America; fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865. Yn ei fywgraffiad o Parry, dywed Owain T. Williams yn 1970, "Ni chafodd yr un cerddor o Gymro erioed yn ei fywyd gymaint o ganmoliaeth ag a gafodd Joseff Parry".[1]
Wedi gweithio mewn pwll glo ac yng ngwaith haearn Cyfarthfa, ymfudodd gyda'i deulu yn 1854 i Pensylfania, UDA, lle gweithiodd mewn melin haearn. Cafodd flas ar astudio cerddoriaeth yno hefyd gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol. Cafodd ysgoloriaeth i'r Adran Gerdd Frenhinol yn Llundain a derbyniodd radd MusB yn 1871 gan Brifysgol Caergrawnt. Yn wir, yn 1874 cafodd ddyrchafiad i fod yn Athro cerdd cynta'r coleg. Yna dychwelodd i Gymru i fod yn gyfrifol am Adran gerdd Prifysgol Caerdydd.[2]

Ysgrifennodd lawer o ganeuon enwog, ac yn eu plith y mae: 'Myfanwy', 'Hywel a Blodwen' a'r emyn-dôn 'Aberystwyth' a berfformiwyd gyntaf yn Stryd Portland, Aberystwyth. Cyfansoddodd yr opera gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef Blodwen. Roedd yn gyfansoddwr toreithiog iawn; yn ystod ei oes ysgrifennodd chwech o operâu.
Bu farw ym Mhenarth, Bro Morgannwg yn 1903 a'i gladdu yn Eglwys Sant Awstin ym Mhenarth.
Ysgrifennodd Jack Jones y llyfr Off to Philadelphia in the Morning yn seiliedig ar hanes Joseph Parry.
Plentyndod
[golygu | golygu cod]Roedd Joseff yn fab i Daniel ac Elisabeth Parry a ddaeth i Ferthyr pan oedden nhw'n ifanc. Un o Sir Benfro oedd ei dad a weithiai yn y ffowndri. O'r Graig, Cydweli y deuai ei fam a fu'n gweini am gyfnod ac roedd hefyd yn canu penillion 'gyda llais dda' ac yn codi canu yn y capel.[3] Canai Joseff yng ngôr y capel ac yn naw oed aeth i weithio i'r pwll glo gan ennill hanner coron yr wythnos. Tair blynedd yn ddiweddarach symudodd i waith haearn Cyfarthfa ac yno y bu nes i'r teulu ymfudo i America.
Yn 1853 teithiodd y tad, Daniel, ar long a sefydlu bywyd newydd yn Danville, Pennsylvania. Danfonodd lythyr at ei deulu ym Merthyr, ac yn 1854 hwyliodd gweddill y teulu ar fwrdd y llong Jane Anderson, taith a gymerodd 6 wythnos a dau ddiwrnod. Gweithiodd Joseff yn y melinau rhowlio am yr 11 mlynedd nesaf.[4]
Y cerddor
[golygu | golygu cod]Ymunodd â dosbarth theori cerddoriaeth yn y felin, gyda brodor arall o Ferthyr, John Abel Jones, yn athro ar y dosbarth. Gan ei fod yn dysgu'n gyflym, trosglwyddodd at athro arall, un o Gwm rhymni, sef John M. Price a ddysgodd iddo'r grefft o gynghanedd cerddorol a chyfansoddi. Gwnaeth hyn yn ei oriau hamdden am dair blynedd. Yn Eisteddfod Nadolig Danville, enillodd un o'i gyfansoddiadau a'r flwyddyn wedyn enillodd yn Eisteddfod Utica gan guro'r dyn a oedd yn feirniad arno yn Eisteddfod Danville! Oherwydd y sylw a gafodd yn y papurau newydd aeth nifer o Gymry ati i godi arian i'w yrru i goleg yn Efrog Newydd.[5]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Evan Keri Evans, Cofiant Joseph Parry (1921)[6]
- Yr Arwr Bach: Hunangofiant Joseph Parry, gol. Dulais Rhys (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2005)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Joesff Parry 1841 - 1903 (Gwasg Prifysgol Cymru; 1970; rhagair.
- ↑ Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru[dolen farw]. Adalwyd 6 Mawrth 2013
- ↑ Joesff Parry 1841 - 1903 (Gwasg Prifysgol Cymru; 1970; tt 9-10.
- ↑ Joesff Parry 1841 - 1903 (Gwasg Prifysgol Cymru; 1970; tt 11-12.
- ↑ Joesff Parry 1841 - 1903 (Gwasg Prifysgol Cymru; 1970; tt 13-14.
- ↑ Evans, Evan Keri (1921). . Caerdydd: The Educational Publishing Company, Ltd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- 'Bachgen Bach o Ferthyr' gan Dulais Rhys Archifwyd 2008-08-28 yn y Peiriant Wayback
- Tudalen Tŷ Cerdd Archifwyd 2019-07-24 yn y Peiriant Wayback
