Evan Keri Evans
Gwedd
Evan Keri Evans | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 Mai 1860 ![]() Pontceri ![]() |
Bu farw | 7 Mehefin 1941 ![]() Llanelli ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, athro ![]() |
Cofiannydd ac athro prifysgol o Gymru oedd Evan Keri Evans (2 Mai 1860 – 7 Mehefin 1941). Roedd yn frawd i D. Emlyn Evans.[1]
Roedd yn frodor o blwyf Pontceri, ger Castell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin. Ar ôl dechrau fel prentis saer coed graddiodd yn y Clasuron ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow yn 1888. Fe'i penodwyd yn Athro Athroniaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ac aeth ymlaen i lenwi'r un swydd yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin. Ymddeolodd yn 1907 i ganolbwyntio ar ysgrifennu. Yn ogystal i'w gofiannau, cyhoeddodd hunangofiant yn 1938, sef Fy Mhererindod Ysbrydol, a ystyrir ei waith mwyaf nodedig.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Cofiant D. Emlyn Evans (1919)[2]
- Cofiant Joseph Parry (1921)[3]
- Cofiant David Adams (1924)
- Fy Mhererindod Ysbrydol (1938). Hunangofiant.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
- ↑ Cofiant D Emlyn Evans ar Wicidestun
- ↑ Evans, Evan Keri (1921). . Caerdydd: The Educational Publishing Company, Ltd.
- ↑ Fy Mhererindod Ysbrydol ar Wicidestun