Cofiant

Oddi ar Wicipedia

Bywgraffiad neu Cofiant yw hanes bywyd unigolyn wedi'i ysgrifennu gan rywun arall (mae hunangofiant yn hanes unigolyn yn ei eiriau ei hun). Gelwir awdur sy'n ysgrifennu cofiannau yn 'gofianwr'.

Mae'n ffurf lenyddol bwysig ag iddi hanes hir. Ymhlith y cofiannau cynharaf yw'r gyfres o hanesion am enwogion yr Henfyd gan yr awdur Rhufeinig Plutarch a llyfr Suetonius ar hanes deuddeg o ymerodron Rhufeinig.

Y cofiant cynharaf yn y Gymraeg yw cofiant Thomas Charles o'r Bala gan Thomas Jones (Dinbych).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.