Thomas Charles

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Charles
Thomas Charles o'r Bala.JPG
Ganwyd 14 Hydref 1755 Edit this on Wikidata
Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Hydref 1814 Edit this on Wikidata (58 oed)
Cenedl Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth clerigwr Edit this on Wikidata
Bedd Thomas Charles yn Llanycil, ger y Bala.
Llythyr gan Charles at Joseph Tarn yn 1804.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Clerigwr Methodistaidd enwog, addysgwr a diwinydd oedd Thomas Charles o'r Bala (14 Hydref 17555 Hydref 1814), a aned yn Llanfihangel Abercywyn, Sir Gaerfyrddin.

Roedd Thomas Charles o'r Bala yn frawd i David Charles, yr emynydd. Fe'i haddysgwyd yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, Caerfyrddin, a Rhydychen. Ar ôl cyfnod yn offeiriad Anglicanaidd yng Ngwlad yr Haf priododd Sally Jones o'r Bala a symudodd i fyw yn y dref honno yn 1783. Yn 1784 ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd a threuliodd weddill ei oes yn gweinidogaethu yn eu plith.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennai Thomas Charles yn y Gymraeg a'r Saesneg. Llyfrau hyfforddiadol i blant oedd ei waith cyntaf yn y Gymraeg. Yn Saesneg y cyhoeddodd ei lyfr Welsh Methodists Vindicated, sy'n amddiffyn y Methodistiaid rhag ymosodiadau gan elfennau ceidwadol yn Eglwys Loegr.

Ei waith llenyddol pwysicaf oedd ei eiriadur ysgrythurol a gyhoeddwyd mewn pedair cyfrol (1805, 1808, 1810, 1811) yn wreiddiol ac a adargraffwyd sawl gwaith yn ystod y 19g. Yn ogystal â chyfleu llawer o wybodaeth newydd am cefndir hanesyddol yr Ysgrythurau, mae Charles yn trafod cysyniadau diwinyddol hen a newydd mewn arddull goeth, gaboledig.

Yn ogystal gweithiodd am flynyddoedd ar y gwaith o baratoi Beibl Cymraeg newydd, ar ran Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol. Cafodd gymorth sylweddol gan Thomas Jones, Dinbych a Robert Jones, Rhos-lan.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfrau Thomas Charles[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Catecism Byr (1789/1799)
  • Hyfforddwr yn Egwyddorion y Grefydd Gristnogol (1807)
  • Welsh Methodists Vindicated (1802)
  • Y Geiriadur Ysgrythurawl, 4 cyfrol (1805-1811)

Llyfrau ac erthyglau amdano[golygu | golygu cod y dudalen]

  • D.E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles, B.A., of Bala, 3 cyf. (1908)
  • E. Wyn James, 'Bala a'r Beibl: Thomas Charles, Ann Griffiths a Mary Jones' [1]
  • E. Wyn James, 'Pererinion ar y Ffordd: Thomas Charles ac Ann Griffiths', Cylchgrawn Hanes Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 29-30 (2005-06)
  • R. Tudur Jones, Thomas Charles o'r Bala, Gwas y Gair a Chyfaill Cenedl (1979)
  • R. Tudur Jones, 'Diwylliant Thomas Charles o'r Bala', yn Ysgrifau Beirniadol IV, gol. J. E. Caerwyn Williams (1969)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]