Thomas Jones (Dinbych)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas Jones
Er cof am y diweddar Barch Thos Jones, Dynbych .. NLW3364382.jpg
Ganwyd 1756 Edit this on Wikidata
Caerwys Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Mehefin 1820 Edit this on Wikidata
Gwaith Clerigwr, bardd edit this on wikidata

Roedd Thomas Jones (1756 - 16 Mehefin 1820) yn un o lenorion mwyaf galluog y Methodistiaid yng Nghymru, a aned yng Nghaerwys yn Sir y Fflint, gogledd Cymru. Roedd yn ddyn amryddawn a oedd yn fardd ar y mesurau caeth, yn hanesydd, yn ddiwinydd ac yn gofiannydd.

Y dyn a'r diwygiwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Thomas Jones ym Mhenucha, ger Caerwys, yn 1756. Yn ddyn ieuanc derbyniodd addysg glasurol yn Nhreffynnon gyda'r bwriad o fynd yn offeiriad yn yr eglwys sefydliedig. Ond dylanwadwyd arno'n gynnar gan y Methodistiaid a daeth yn un ohonynt gan roi heibio unrhyw fwriad o gael ei ordeinio yn Eglwys Loegr. Roedd hynny cyn i'r Methodistiaid ddechrau ordineiddio ac felly arosodd yn lleygwr. Dechreuodd bregethu yn 1773. Yn 1784 cyfarfu â Thomas Charles o'r Bala. Cafodd ddylanwad cryf ar Charles a chyfranodd at loywi ei iaith. Llafuriodd gyda'r Methodistiaid fel cynghorwr yn Rhuthin, Dinbych a'r Wyddgrug. Roedd yn un o'r cynharaf o'r Methodistiaid i gael eu neilltuo i weini'r Ordinhadau yn 1811 ac o hynny hyd ddiwedd ei oes llafuriodd i adeiladu'r eglwys Fethodistaidd ar seiliau cadarn. Yn ddiwinyddol gorweddai rhwng eithafion Arminiaeth ac Uchel Galfiniaeth gwŷr fel John Elias. Bu'n briod dair gwaith.

Y diwinydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Wynebddalen Hanes y Merthyron (1813) gan Thomas Jones

Gwnaeth Thomas Jones gyfraniad sylweddol o ran cynnwys ac arddull i ddiwinyddiaeth Gymraeg. Roedd yn wrthwynebydd cryf i Arminiaeth, a oedd yn amlwg ymhlith y Wesleyaid, a chyfieithodd The Christian in Complete Armour (1655-1662) gan William Gurnal i'r Gymraeg dan y teitl Y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth (1796-1820). Ei gampwaith yn ddi-os yw'r gyfrol enfawr a gyhoeddodd yn 1813 ar hanes merthyron y ffydd Brotestanaidd, Hanes Diwigwyr, Merthyron, a Chyffeswyr Eglwys Loegr (neu Hanes y Merthyron).

Gyda Thomas Charles o'r Bala bu'n olygydd o'r Drysorfa Ysbrydol, a ddaeth allan am y tro cyntaf yn 1799 fel cyhoeddiad trimisol. Ysgrifenodd yn ogystal nifer o emynau, yn cynnwys "Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw" ac "O! arwain fy enaid i'r dyfroedd."

Y llenor[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifenodd hunangofiant diddorol a darllenadwy (1814) a chofiant i'w gyfaill Thomas Charles, un o'r gorau o'i fath. Cyhoeddodd eiriadur Saesneg a Chymraeg eithaf safonol yn 1800. Roedd hefyd yn fardd o safon; y cywydd "I'r Aderyn Bronfraith" (1773) yw'r enghraifft orau o'i gerddi.

Argraffodd Thomas Jones ran sylweddol o'i waith ar wasg a sefydlodd ei hun yn ei gartref yn Rhuthun yn 1804. Gwerthodd y wasg i Thomas Gee'r hynaf, tad yr argraffydd enwog Thomas Gee, yn 1813.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Frank Price Jones, Thomas Jones o Ddinbych, 1756-1820 (Dinbych, 1956)
  • Idwal Jones (gol.), Hunangofiant y Parch. Thomas Jones, Gweinidog yr Efengyl o dref Dinbych (Aberystwyth, 1937)
  • Jonathan Jones, Cofiant y Parch. Thomas Jones o Ddinbych (Dinbych, 1897)
  • Saunders Lewis, "Cywydd gan Thomas Jones, Dinbych" (Y Llenor, xii, 133-4); hefyd yn ngolygiad Gwynn ap Gwilym o rai o erthyglau Saunders, Meistri a'u Crefft (Caerdydd, 1981). Ysgrif ar y cywydd "I'r Aderyn Bronfraith".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: