Yr Eglwys yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Esgobaethau Cymru

Y gangen Gymreig o'r Eglwys Anglicanaidd yw'r Eglwys Yng Nghymru.[1] Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr ym 1920, dan Ddeddf yr Eglwys Gymreig (1914). Mae'r corff yn berchen ar bron i 1,400 o eglwysi yng Nghymru mewn dros 900 o blwyfi. Diffinia ei hun fel, "eglwys hynafol y tir hwn... sy'n gafael yn dynn yn yr athrawiaeth a'r weinidogaeth o un Eglwys gatholig ac efengylaidd.".[2]

Barry Morgan yw Archesgob Cymru er 2003, a bu'n Esgob Llandaf er 1999. Cyn hynny bu'n Esgob Bangor, 1993-99.

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod Archesgob Caergaint fel canolbwynt undod, ond nid oes ganddo awdurdod dros yr Eglwys yng Nghymru.[3])

Esgobaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae talaith yr Eglwys wedi'i rhannu'n chwe esgobaeth. Rhennir yr Eglwys yng Nghymru yn chwe esgobaeth, a gofelir am bob un gan Esgob. Ym mhob un o’r esgobaethau y mae dwy neu dair o archddiaconiaethau; mae pymtheng archddiaconiaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru. Penodir Archddiacon i bob un, ac y mae'r Archddiacon yn atebol i'r Esgob am eu gweinyddu. Rhennir yr Archddiaconiaethau ymhellach yn Ddeoniaethau.

Y mae gan bob un o’r chwe esgobaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru Gadeirlan. Hi yw mam-eglwys yr esgobaeth. Yma hefyd y mae 'cadair' yr Esgob. Yn y Gadeirlan y cynhelir digwyddiadau pwysig, megis Sefydlu Esgob newydd. Y mae i bob Cadeirlan ei Deon. Fe’i penodwyd i redeg y Gadeirlan, gyda chymorth y Siapter. Ynghyd â'r Archddiaconiaid, y mae Deon y Gadeirlan yn un o glerigion mwyaf blaenllaw’r esgobaeth ar ôl yr Esgob.

Rheolir pob Cadeirlan yng Nghymru gan Siapter, sy'n cynnwys y Deon a nifer o Ganoniaid, a ddewisir o blith clerigion yr esgobaeth.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. cym.eglwysyngnghymru.org.uk; adalwyd 16 Ionawr 2016
  2. Y Catechism; Amelinelliad o'r Ffydd - The Catechism: An Outline of the Faith. Section III, isgymal 25, tud. 7 (Caerdydd. Gwasg yr Eglwys yng Nghymru 1993)
  3. s.6, Welsh Church (Temporalities) Deddf 1919.