Archesgob Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Crewyd swydd Archesgob Cymru yn 1920, pan ddatgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru i greu Yr Eglwys yng Nghymru. Yn wahanol i archesgobion yn nhaleithiau eraill yr Eglwys Anglicanaidd, mae'r Archesgob hefyd yn esgob un o'r esgobaethau yng Nghymru.

Yr Archesgob presennol yw'r Parchedicaf John Davies (Esgob Abertawe ac Aberhonddu), a etholwyd ym Medi 2017[1]

Archesgobion Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Archesgobion Cymru
Cychwyn Gorffen Deiliad Nodiadau
1920 1934 Alfred George Edwards by Solomon J Solomon.jpg Alfred George Edwards Hefyd yn Esgob Llanelwy o 1889.
1934 1944 Bp Charles Green NPG.jpg Charles Green Bu'n Esgob Mynwy; hefyd yn Esgob Bangor o 1928; bu farw yn y swydd.
1944 1949 No image.svg David Prosser Hefyd yn Esgob Tyddewi o 1926.
1949 1957 No image.svg John Morgan Bu'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu; hefyd yn Esgob Llandaf o 1939; bu farw yn y swydd.
1957 1967 No image.svg Edwin Morris Hefyd yn Esgob Mynwy o 1945.
1968 1971 No image.svg Glyn Simon Bu'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu; hefyd yn Esgob Llandaf o 1957.
1971 1982 No image.svg Gwilym Williams Hefyd yn Esgob Bangor o 1957.
1983 1986 No image.svg Derrick Childs Hefyd yn Esgob Mynwy o 1972.
1986 1991 No image.svg George Noakes Hefyd yn Esgob Tyddewi o 1981.
1991 1999 No image.svg Alwyn Rice Jones Hefyd yn Esgob Llanelwy o 1981.
1999 2002 Rowan Williams.jpg Rowan Williams Hefyd yn Esgob Mynwy o 1992; yn awr yn Archesgob Caergaint
2003 2017 Barry Morgan.jpg Barry Morgan Bu'n Esgob Bangor; hefyd yn Esgob Llandaf o 1999.[2]
2017 presennol No image.svg John Davies Hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu ers 2008.[3]
Ffynonellau:[4][5]
  1. "Ethol Archesgob Cymru newydd".
  2. Church in Wales — Archbishop of Wales to retire in January (adalwyd 26 Awst 2016)
  3. "Esgob John Davies ydy Archesgob newydd Cymru". BBC Cymru Fyw. 6 Medi 2017. Cyrchwyd 6 Medi 2017.
  4. "Historical successions: Archbishops of Wales". Crockford's Clerical Directory. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2012.
  5. "Previous Archbishops of Wales". Church in Wales. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2012. Unknown parameter |iaith= ignored (help)