Neidio i'r cynnwys

Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru
Enghraifft o'r canlynolDeddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad1914 Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1914 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata

Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru oedd un o bynciau gwleidyddol a chrefyddol mwyaf chwerw y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru. Yn hanesyddol ac yn gyfreithiol, caif y Mesur hwn ei gyfri'n gam pwysig gan mai dyma un o'r troeon cyntaf i ddarn o gyfraith gwlad gael ei greu'n benodol am Gymru, yn hytrach nac am Gymru a Lloegr.[1]

Yng Nghymru fe'i gwelwyd fel coron ar waith a brwydrau hir a gychwynnwyd yng nghanol y 19g gyda'r Anghydffurfwyr yn eu harwain, ymgyrchoedd megis Rhyfel y Degwm pan ataliodd cannoedd o bobl rhag talu arian prin (degfed rhan o'u hincwm) i'r Eglwys yn Lloegr. Ymhlith yr ymgyrchwyr hyn yr oedd Thomas Gee, Tom Ellis ac aelodau Cymru Fydd.

Gyda sefydlu'r Liberation Society yn 1844 troes yr holl eglwysi Anghydffurfiol, gan gynnwys y Methodistiaid Calfinaidd, i gefnogi'r alwad. Ar ôl dros 60 mlynedd o ymgyrchu a dadlau pasiwyd y ddeddf i ddatgysylltu'r eglwys yn Senedd San Steffan yn 1914 ond oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf ni ddaeth i rym tan 31 Mawrth 1920.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechrau anghydffurfiaeth[golygu | golygu cod]

Thomas Charles

Yn 1811, ffurfiwyd enwad y Methodistiaid Calfinaidd. Bu'n rhaid i'r clerigwr Thomas Charles dderbyn fod annibyniaeth yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Lloegr yn anochel ac felly'r flwyddyn honno, ordeiniodd 22 o ddynion yng Nghymru i'r weinidogaeth. Er na ddefnyddiwyd y term am flynyddoedd wedyn; roedd y Methodistiaid Calfinaidd hyn yn anghydffurfwyr o 1811 ymlaen.[2]

Deddf Cau ar y Sul[golygu | golygu cod]

Deddf Cau ar y Sul (Cymru) 1881 oedd y ddeddfwriaeth gyntaf i gydnabod bod gan Gymru gymeriad wleidyddol a chyfreithiol ar wahân i Loegr.[3] Ar y pryd, roedd mwyafrif o bobl Cymru yn perthyn i gapeli anghydffurfwyr er bod gan aelodau o Eglwys Loegr breintiau cyfreithiol a chymdeithasol. Felly dathlwyd Deddf Cau ar y Sul yng Nghymru fel cam arwyddocaol tuag at sefydlu statws cyfartal i’r capeli anghydffurfiol a datgysylltu’r eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Mae'r hanesydd a chyn-gynhyrchydd BBC Cymru John Trefor yn awgrymu bod y weithred "yn fuddugoliaeth, nid yn unig i'r capeli a'r cynghreiriau dirwest, ond i hunaniaeth Gymreig. Mae’n mynd ymlaen i ddweud, “Roedd yna ymdeimlad y gallai pethau gael eu gwneud yn wahanol yma. Daeth deddfau addysg a mynwentydd Cymru yn unig yn fuan wedyn, ac ar lawer cyfrif sefydlodd yr egwyddor y mae datganoli a’r Cynulliad Cenedlaethol yn seiliedig arni.”[4]

Yr Eglwys a'r mudiad datganoli[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Datganoli Cymru
David Lloyd George, yn ddyn ifanc, tua 1890

Roedd David Lloyd George, MP Caernarfon ar y pryd, yn benderfynol dros ddatganoli i Gymru yn gynnar yn ei yrfa, gan ddechrau gyda’r Eglwys.[5] Dywedodd Lloyd George yn 1890; "I am deeply impressed with the fact that Wales has wants and inspirations of her own which have too long been ignored, but which must no longer be neglected. First and foremost amongst these stands the cause of religious liberty and equality in Wales. If returned to Parliament by you, it shall be my earnest endeavour to labour for the triumph of this great cause. I believe in a liberal extension of the principle of decentralisation."[6]

Yn 1895, mewn Mesur Eglwys yng Nghymru a fu’n aflwyddiannus yn y pen draw, ychwanegodd Lloyd George ddiwygiad er mwyn ceisio creu rhyw fath o "Reolaeth cartref" ("Home Rule") i Gymru, sef cyngor cenedlaethol ar gyfer penodi comisiynwyr Eglwysi Cymru.[7][8][9]

Deddf 1914[golygu | golygu cod]

Pasiwyd y Ddeddf Eglwys Gymreig 1914 gan roi rhyddid i’r Eglwys yng Nghymru i lywodraethu ei materion ei hun. Ar ôl cael ei hatal dros dro am gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth y Ddeddf i rym yn 1920.[10]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Philip Bell, Irish and Welsh Disestablishment (1969)
  • K.O. Morgan, Freedom or Sacrilege? (1966)
  • David Walker (gol.), A History of the Church in Wales (1976)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Philip Jenkins, A History of Modern Wales 1536–1990 (Harlow: Longman, 1992)
  2. Davies, John (1994). A history of Wales. Internet Archive. London ; New York : Penguin Books. tt. 341–342. ISBN 978-0-14-014581-6.
  3. The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales, Cardiff: University of Wales Press, 2008
  4. "130 years since Sunday drinking was banned in Wales". BBC News (yn Saesneg). 2011-08-04. Cyrchwyd 2023-01-13.
  5. The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales, Cardiff: University of Wales Press, 2008
  6. "OLCreate: CYM-WH_E1 Sources for Unit 8: Source 8F". www.open.edu. Cyrchwyd 2022-03-01.
  7. "OLCreate: CYM-WH_E1 Sources for Unit 8: Source 8Ji". www.open.edu. Cyrchwyd 2022-03-05.
  8. "OLCreate: CYM-WH_E1 Sources for Unit 8: Source 8Ji". www.open.edu. Cyrchwyd 2022-03-05.
  9. Doe, Norman (January 2020). "The Welsh Church Act 1914: A Century of Constitutional Freedom for the Church in Wales?". Ecclesiastical Law Journal 22 (1): 2–14. doi:10.1017/S0956618X19001674.
  10. "Volume I: Prefatory Note". Church in Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-01.