Rhestr digwyddiadau Cymru, 20g
Gwedd
Hanes Cymru |
---|
Cynhanes Cymru |
Oes y Celtiaid |
Cyfnod modern cynnar |
Teyrnasoedd |
Rhestr digwyddiadau |
Iaith |
Crefydd |
Llenyddiaeth |
Deddfau pwysig
|
Mytholeg a symbolau |
Hanesyddiaeth |
WiciBrosiect Cymru |
Dyma restr o ddigwyddiadau yng Nghymru yn yr 20g.
Rhestr
[golygu | golygu cod]- 1900 - Streic Chwarel y Penrhyn, Bethesda; ethol Keir Hardie yn AS Llafur Annibynnol ym Merthyr Tudful.
- 1904 - Diwygiad 1904 yn ysgubo'r wlad.
- 1907 - Sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Adran Gymreig y Bwrdd Addysg.
- 1910 - Terfysgoedd mawr yn Nhonypandy, de Cymru.
- 1912 - Cyhoeddi The Miners' Next Step, pamffled sosialaidd ddylanwadol iawn.
- 1913 - Tanchwa Senghennydd yn lladd 439 o lowyr; cyhoeddi Welsh Grammar John Morris-Jones.
- 1914-18 - Nifer fawr o Gymry ifainc yn colli eu bywydau - "y Genhedlaeth Goll" - yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
- 1916 - David Lloyd George yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
- 1920 - Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru; Coleg Prifysgol Cymru Abertawe yn agor.
- 1922 - Y Blaid Lafur yn cipio hanner y seddi seneddol yn y wlad; sefydlu Urdd Gobaith Cymru.
- 1925 - Sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru.
- 1926 - Y Streic Gyffredinol.
- 1930au - Y Dirwasgiad Mawr yn effeithio ar Gymru: 38% o ddynion heb waith ar ei waethaf (1932).
- 1934 - Trychineb Gresffordd.
- 1936 - Llosgi Ysgol Fomio Penyberth gan Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams.
- 1937 - Y BBC yn agor adran ranbarthol yng Nghymru, rhagflaenydd BBC Cymru.
- 1939 - Agor yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Aberystwyth.
- 1939-45 - Yr Ail Ryfel Byd. Bomiau'n disgyn ar Abertawe a Chaerdydd.
- 1941 - Undeb Cymru Fydd.
- 1947 - Gwladoli'r diwydiant glo; sefydlu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
- 1951 - Lansio'r Ymgyrch Senedd i Gymru.
- 1955 - Cyhoeddi Caerdydd yn brifddinas swyddogol y wlad.
- 1962 - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
- 1964 - Sefydlu'r Swyddfa Gymreig; James Griffiths yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
- 1966 - Ethol Gwynfor Evans yn AS Caerfyrddin mewn is-etholiad; trychineb Aber-fan; lansio Merched y Wawr.
- 1967 - Pasio Deddf yr Iaith Gymraeg.
- 1969 - Helynt yr Arwisgiad yng Nghastell Caernarfon.
- 1971 - Sefydlu'r Mudiad Ysgolion Meithrin.
- 1973 - Adroddiad Comisiwn Kilbrandon yn argymell Cynulliad i Gymru.
- 1974 - Newid mawr yn llywodraeth leol Cymru wrth i'r hen siroedd traddodiadol wneud ffordd i wyth sir fawr newydd.
- 1979 - Refferendwm yn gwrthod Cynulliad.
- 1982 - Agor S4C; Rhyfel y Falklands.
- 1983 - Y Ceidwadwyr yn cael eu canlyniadau gorau yn y ganrif gyda 14 sedd.
- 1984-1985 - Streic y Glowyr
- 1999 - Sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Stadiwm y Mileniwm.