Yr Oesoedd Canol yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hywel Dda.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol agwedd o hanes Edit this on Wikidata
Math Hanes Cymru, hanes canoloesol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
HWB

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Mae'r Oesoedd Canol yng Nghymru yn gyfnod sy'n ymestyn o tua 600 hyd at 1485.

Ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain sy'n nodi dechreuad yr oesoedd canol yng Nghymru. Rhannwyd tiroedd y Cymry yn deyrnasoedd bach, ac am gannoedd o flynyddoedd bu'r teyrnasoedd hyn yn ymladd yn erbyn goresgynwyr ac yn erbyn ei gilydd er mwyn sefydlu awdurdod dros ardal mor eang â phosibl o Gymru.

Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd Rhodri Mawr, a oedd yn wreiddiol yn frenin Teyrnas Gwynedd, ac a ddaeth yn frenin Powys a Cheredigion hefyd. Pan fu farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond llwyddodd ei ŵyr, Hywel Dda, i ffurfio teyrnas y Deheubarth drwy uno teyrnasoedd llai'r de-orllewin, ac erbyn 942 roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef â ffurfio Cyfraith Hywel drwy alw cyfarfod yn Hendy-gwyn ar Daf. Pan fu farw yn 950 llwyddodd ei feibion i ddal eu gafael ar y Deheubarth, ond adfeddiannwyd Gwynedd gan y frenhinllin draddodiadol.

Yn 1066, gydag ymosodiad y Normaniaid ar Loegr ar y gorwel, gwelwyd tywysogion y Deheubarth a Gwynedd yn amlygu eu hunain fel arweinyddion y frwydr hon rhwng diwedd y 11eg ganrif hyd at ddiwedd y 13eg ganrif.

Roedd yn wlad lle'r oedd y mwyafrif helaeth o'r bobl yn siarad un iaith yn unig, sef Cymraeg, ac roedd trefn arbennig i bwysigrwydd gwahanol grwpiau o bobl yn y gymdeithas. Roedd crefydd yn bwysig iawn ym mywydau pobl ac roedd rôl allweddol gan yr abatai a'r mynachlogydd ym mywydau bob dydd pobl.

Roedd lladd Llywelyn ap Gruffydd a’i frawd Dafydd ap Gruffudd yn 1282/3 yn dynodi cyfnod newydd yn hanes Cymru, gyda’r Goncwest Edwardaidd yn nodi mai awdurdod coron Lloegr oedd bellach yn teyrnasu yng Nghymru. Bu gweddill y 13eg ganrif hyd at ddiwedd y 15fed ganrif yn un ansefydlog a helbulus yn hanes Cymru. Ar ddechrau’r 15fed ganrif amlygodd Owain Glyndŵr ei hun fel ffigwr amlwg ym mrwydr Cymru i ennill annibyniaeth eto wedi Concwest Edward. Bu nifer o wrthryfeloedd eraill yn ystod y cyfnod hwn o dan arweinyddion eraill a ddangosai’r ymdeimlad cenedlaethol oedd ar gynnydd yng Nghymru wedi’r Goncwest.  Yn 1485 enillodd Harri Tudur, oedd â’i wreiddiau yn nheulu’r Tuduriaid, Ynys Môn, Frwydr Maes Bosworth, gan gychwyn ar gyfnod mwy sefydlog yn hanes Prydain. Gyda’r fuddugoliaeth honno cychwynnodd cyfnod y Tuduriaid.

Arweinwyr nodedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Teyrnas Gwynedd

Roedd teyrnasoedd Cymru yn cynnwys Gwynedd yn y gogledd, y Deheubarth yn y Gorllewin a Phowys a Brycheiniog yn y dwyrain. Roedd cydbwysedd y pŵer yn aml yn symud yn gyflym rhwng y Teyrnasoedd, gyda brenhinoedd yn cystadlu am bŵer. Ffurfiwyd cynghreiriau rhwng Teyrnasoedd a chyda'r Saeson, ond roedd pŵer fel arfer yn cael ei ennill drwy frwydr neu briodas. Tra ymladdai llywodraethwyr Cymru ymysg ei gilydd roeddent hefyd yn wynebu bygythiadau gan y Daniaid, a ymosododd ar hyd yr arfordir, ac oddi wrth y Saeson, ac yn ddiweddarach y Normaniaid, a ymosododd o'r dwyrain. Yn gynyddol, gweithiodd y Cymry gyda'i gilydd er mwyn amddiffyn eu hunain a'u tir rhag y goresgynwyr.

Rheolwyr pwysicaf Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol

  • m.547 - Maelgwn Gwynedd, sylfaenydd Teyrnas Gwynedd.
  • c.820–878 - Rhodri Mawr. Llwyddodd i reoli'r rhan fwyaf o Gymru a threchu'r Daniaid ym Mrwydr Llandudno.
  • c.880–948 - Hywel Dda. Mae e'n nodedig yn bennaf am greu cyfraith unffurf gyntaf y wlad, ac am uno Cymru gyfan.
  • 1040–1093Rhys ap Tewdwr. Brenin olaf y Deheubarth, a laddwyd ym Mrycheiniog gan y Normaniaid.
  • 1055–1137 - Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd a ffigwr allweddol yn y gwrthwynebiad i'r Normaniaid.
  • c.1100 – 1136 - Gwenllian ferch Gruffudd. Yn ymyl Castell Cydweli yn 1136 ymladdwyd Brwydr Maes Gwenllian rhwng byddin Gwenllian a Maurice de Londres.
  • 1100 – 1170 - Owain Gwynedd. Mae'n cael ei ystyried yn un o dywysogion mwyaf llwyddiannus gogledd Cymru ac ef oedd y cyntaf i gael ei enwi'n Dywysog Cymru
  • 1132 – 1197 - Yr Arglwydd Rhys. Tywysog y Deheubarth a'r rheolwr brodorol mwyaf pwerus ar ôl marwolaeth Owain Gwynedd.
  • 1173 – 1240 - Llywelyn Fawr. Brenin Gwynedd a rheolwr Gymru gyfan. Drwy gyfuniad o ryfel a diplomyddiaeth bu'n dominyddu Cymru am 45 mlynedd.
  • 1225 – 1282 - Llywelyn ein Llyw Olaf. Yn ŵyr i Llywelyn Fawr, ef oedd tywysog sofran olaf Cymru cyn concwest Edward I o Loegr.
  • c.1359 – c.1415 - Owain Glyndŵr. Ef oedd y Cymro brodorol olaf i arddel y teitl Tywysog Cymru.

Yr oesoedd canol cynnar (600-1066)[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru
Darlun olew o Hywel gan Hugh Williams; c. 1909
Teyrnas Gruffudd ap Llywelyn

Mae'r Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru yn ymestyn o tua 600 hyd at 1066 pan ddechreuodd ymosodiadau'r Normaniaid ar ororau Cymru.

Yn nechrau'r cyfnod roedd rhai rhannau o Gymru, yn enwedig Powys, yn dod o dan bwysau cynyddol oddi wrth yr Eingl-Sacsoniaid, yn enwedig teyrnas Mercia. Collodd Powys gryn dipyn o'i thiriogaeth, a oedd yn arfer ymestyn i'r dwyrain o'r ffin bresennol. Yn yr 8fed ganrif adeiladodd y brenin Eingl-sacsonaidd Offa glawdd a ffos (Clawdd Offa) sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr. Mae'n ymestyn o aber Afon Dyfrdwy yn y gogledd i aber Afon Hafren yn y de am 150 milltir; dyma oedd y clawdd hwyaf neu hiraf a wnaed gan ddyn yng ngorllewin Ewrop yn yr Oesoedd Canol.[1]

Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd Rhodri Mawr, a oedd yn frenin Teyrnas Gwynedd yn wreiddiol, ac a ddaeth yn frenin Powys a Ceredigion hefyd. Bu'n rhaid i Rhodri wynebu pwysau gan yr Eingl-Sacsoniaid ac yn gynyddol gan y Daniaid hefyd, a fu'n anrheithio Môn yn 854 yn ôl yr hanes. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid ym Mrwydr Llandudno, gan ladd eu harweinydd Gorm. Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus, a ysgrifennwyd yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr. Cafodd Rhodri fuddugoliaeth arall yn erbyn y Daniaid ym Mrwydr Parciau yn 872.

Yn 877 ymladdodd Rhodri frwydr arall yn erbyn y Daniaid, ond y tro hwn bu'n rhaid iddo ffoi i Iwerddon. Pan ddychwelodd y flwyddyn wedyn, dywedir iddo ef a'i fab Gwriad gael eu lladd gan wŷr Mersia, er nad yw'r manylion yn hysbys. Pan fu ef farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond bu modd i'w ŵyr, Hywel Dda, ffurfio teyrnas y Deheubarth drwy uno teyrnasoedd llai y de-orllewin, ac erbyn 942 roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef â ffurfio Cyfraith Hywel, pan alwodd gyfarfod er mwyn casglu, diwygio, dileu a chreu cyfreithiau newydd.

Dilynodd Hywel bolisi o gyfeillgarwch gydag Athelstan, brenin y Sacsoniaid Gorllewinol a'r grym mwyaf ar Ynys Prydain yn y cyfnod hwnnw. Cofnodir iddo ymweld â llys Athelstan nifer o weithiau, ac arwyddo nifer o ddogfennau gydag Athelstan. Mewn rhai ohonynt disgrifir ef fel Subregulus neu "is-frenin". Pan fu ef farw yn 950 llwyddodd ei feibion i ddal eu gafael ar y Deheubarth ac ar Gymru.

Gruffudd ap Llywelyn oedd y teyrn nesaf i allu uno'r teyrnasodd Cymreig. Brenin Gwynedd ydoedd yn wreiddiol, ond erbyn 1055 roedd wedi gwneud ei hun yn frenin bron y cyfan o Gymru ac wedi cipio rhannau o Loegr ger y ffin. Yn 1063 gorchfygwyd ef gan Harold Godwinson ac fe'i lladdwyd gan ei ŵyr ei hun. Rhannwyd ei deyrnas unwaith eto, gyda Bleddyn ap Cynfyn a'i frawd Rhiwallon yn dod yn frenhinoedd Gwynedd a Phowys.

Oes y Tywysogion (1066-1282)[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Oes y Tywysogion

Ar drothwy'r Goncwest Normanaidd roedd Cymru yn 1063 wedi ei gwahanu yn wahanol ranbarthau, sef Gwynedd, Powys, Ceredigion, Buellt, y Deheubarth, Morgannwg a Gwent.  Gyda marwolaeth Gruffudd ap Llywelyn yn 1063, dechreuodd tywysogion ardaloedd fel Gwynedd a'r Deheubarth frwydro i gael teyrnasu dros fwy o dir.  Roedd y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn newid yn aml yn ystod y cyfnod hwn, gyda’r Saeson ar ochr ddwyreiniol Cymru yn chwilio'n gyson am gyfle i ennill tir.

Dechreuwyd pennod newydd yn hanes Lloegr a Chymru yn 1066 pan gipiodd Gwilym y Gorchfygwr, o Normandi, goron Lloegr ym Mrwydr Hastings. Yn fuan iawn roedd y Cymry yn ymosod ar drefi yn Lloegr ac yn achosi tipyn o drafferthion i William. Penderfynodd William felly bod yn rhaid iddo sefydlu rhyw fath o reolaeth dros Gymru, ac felly erbyn 1086 roedd arglwyddi Normanaidd wedi eu lleoli ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr i reoli’r Cymry. Enw’r Arglwyddi hyn oedd Arglwyddi’r Mers. Lleolwyd nhw mewn tri safle penodol fel eu bod yn medru lansio ymosodiadau a chipio tiroedd yng Nghymru. Gosodwyd Hugh D’Avranches yn ardal Caer ac ar y ffin ogledd-ddwyreiniol gyda Chymru; roedd Roger de Montgomery wedi ei leoli yn ardal yr Amwythig fel ei fod yn troi ei olygon tuag at ganolbarth Cymru, ac roedd William FitzOsbern wedi ei leoli ar ochr de-ddwyrain Cymru.

Defnyddiodd Rhys ap Tewdwr, Brenin y Deheubarth yn ne Cymru, ei sgiliau gwleidyddol a milwrol i gadw rheolaeth ar y Deheubarth yn ystod ei deyrnasiad rhwng c.1040 a 1093.  Ond yn 1093 lladdwyd ef gan y Normaniaid a dyma oedd dechrau concwest y Normaniaid yn ne Cymru.

Roedd yr arglwyddi Normanaidd hyn fwy neu lai yn frenhinoedd ar eu tiroedd eu hunain gan eu bod yn medru codi trethi eu hunain, codi byddin eu hunain ac yn medru codi cestyll eu hunain. Roedd adeiladu cestyll yn un o’r rhesymau pam y llwyddodd y Goncwest Normanaidd i sefydlu rheolaeth ar Loegr mor gyflym. [2]

Gruffudd ap Cynan yng ngharchar Hugh d'Avranches yng Nghaer (llun gan T. Prytherch, tua 1900)

Erbyn 1101 roedd y Normaniaid wedi ennill llawer o dir yng Nghymru ac roeddent yn defnyddio cestyll cerrig i sicrhau rheolaeth dros y tir roedden nhw’n ei feddiannu. Y Normaniaid adeiladodd y cestyll cerrig cyntaf yng Nghymru, a bu'r cestyll hyn yn allweddol o ran helpu’r Normaniaid i wrthsefyll ymosodiadau gan y Cymry. Dechreuodd y Normaniaid ymosod ar y Deheubarth yn ne Cymru yn 1136 pan aeth gŵr Gwenllian, Gruffudd ap Rhys, i’r gogledd i ymladd yn erbyn y Normaniaid gyda thad Gwenllian, Gruffudd ap Cynan. Casglodd Gwenllian fyddin i’w hymladd, ond cafodd ei dal a’i dienyddio gan y Normaniaid, ynghyd â’i meibion, Morgan a Maelgwyn. Serch hynny, roedd arwyddion bod y Cymry yn dechrau brwydro'n ôl gyda Gruffudd ap Cynan, tywysog Gwynedd, wedi llwyddo i adennill tir yng ngorllewin Cymru gyda chymorth y Brenin Magnus o Norwy.  Gruffudd osododd y sylfaen i dywysogion fel ei fab, Owain Gwynedd, i reoli ar ei ôl.

Erbyn 1200 roedd tir Cymru wedi ei rhannu’n ddwy ran, sef y Pura Walia a oedd o dan reolaeth y Cymry a Marchia Walia a oedd o dan reolaeth y Normaniaid.  Roedd yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth ac Owain Gwynedd, tywysog Gwynedd, yn ffigurau allweddol yn hanes Cymru yn y cyfnod hwn, gan adennill llawer o dir a chipio cestyll y Normaniaid ar ddiwedd y 12fed ganrif. Cipiodd yr Arglwydd Rhys Gastell Aberteifi yn 1165 a’i ail-adeiladu yn 1171, gan gynnal eisteddfod gyntaf Cymru yno yn 1176.

Marwolaeth Llywelyn Fawr yn 1282

Owain Gwynedd oedd Tywysog Gwynedd yng ngogledd Cymru, a oedd yn cynnwys Gwynedd a Phowys, o 1137 hyd at ei farw yn 1170.  Ymladdodd yn erbyn tywysogion Cymreig eraill, y Normaniaid a brenhinoedd Lloegr i ennill yr hawl i fod yr un cyntaf i ddefnyddio teitl ‘Tywysog Cymru’.

Erbyn 1258 roedd Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Gwynedd, wedi sefydlu ei hun fel rheolwr y rhan fwyaf o Gymru. Atgyfnerthodd ei awdurdod yn 1267 pan ffurfiodd gytundeb gyda Harri III, brenin Lloegr, sef Cytundeb Trefaldwyn. Enwyd y cytundeb ar ôl y man lle cyfarfu’r ddau ger y rhyd ger tref Trefaldwyn.  Roedd Harri III yn cydnabod yn y cytundeb mai Llywelyn oedd Tywysog swyddogol Cymru. Drwy gael yr hawl i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ roedd Llywelyn yn gorfod talu gwrogaeth i Harri III a swm o 30,000 marc.

Nid oedd perthynas cystal rhwng Llywelyn ag Edward I, a ddaeth yn frenin Lloegr yn 1272.  Roedd Edward yn awyddus i ehangu awdurdod coron Lloegr, ac er mwyn gwneud hynny, roedd rhaid yn ei olwg ef reoli’r Cymry afreolus. Gwrthododd Llywelyn dalu gwrogaeth i Edward ac achosodd hyn i Edward ymosod ar Lywelyn a Chymru yn 1276 ac yna yn nes ymlaen yn 1282.

Lladdwyd Llywelyn Ein Llyw Olaf yng Nghilmeri yn 1282, a gyda hynny daeth llinach tywysogion Cymru i ben.

Yr Oesoedd Canol Diweddar 1282 - 1485[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru
Castell Caernarfon. Un o'r Cestyll Edward I

Anfonwyd unig etifedd Llywelyn, sef ei ferch Gwenllian, i’r lleiandy yn Sempringham, swydd Lincoln, fel na fyddai disgynyddion o waed brenhinol Cymru yn medru codi yn erbyn coron Lloegr eto. Ar hynny, crewyd teitl newydd ‘Tywysog Cymru’ gan Edward I a fyddai’n cael ei roi i fab cyntafanedig brenin Lloegr o hynny ymlaen.  Cyflwynodd Edward ei fab hynaf fel Tywysog Cymru i bobl Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1301.  Roedd yr arwisgiad yn weithred symbolaidd, gan ei fod yn dangos mai coron Lloegr bellach oedd yn rheoli Cymru.

Er mwyn sefydlogi ei bŵer aeth Edward ati yn syth i adeiladu cyfres o gestyll ar hyd arfordir gogledd-orllewin Cymru, er enghraifft, yn Harlech, Caernarfon a Chonwy a Biwmares.  Roedd y rhain yn gestyll consentrig ac wedi eu llunio ar batrwm y cestyll cadarn a oedd yn gyffredin yng ngwledydd y Dwyrain Canol lle ymladdwyd y Croesgadau.

Yn y cyfnod ar ôl 1282 bu gwrthryfeloedd achlysurol yn erbyn y gyfundrefn newydd, er enghraifft, Gwrthryfel Maelgwn ap Rhys Fychan yng Ngheredigion yn 1294-95, a Gwrthryfel Llywelyn Bren, Arglwydd Senghennydd, a gychwynnodd yn 1316. Cyhoeddodd Owain Glyndŵr ei hun yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400 yng Nglyndyfrdwy, Corwen, ac arweiniodd nifer o wrthryfeloedd yn erbyn brenin Lloegr ar ddechrau’r 15fed ganrif.[2]

Cymdeithas a gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Cantrefi Cymru yn yr oesoedd canol

Tywysogion oedd yn rheoli rhanbarthau mawr yng Nghymru fel Gwynedd, Morgannwg a'r Deheubarth yn ystod yr Oesoedd Canol. O fewn y rhanbarthau hyn roedd rhanbarthau llai oedd yn cael eu galw'n gantrefi.  Ac o fewn y rhanbarthau llai hynny roedd rhanbarthau llai eto o’r enw cymydau.  Roedd gan bob cwmwd arweinydd oedd yn ffyddlon i dywysog ei ranbarth.

Rhannwyd y gymdeithas yn grwpiau gwahanol o bobl, gyda’r tywysog neu’r brenin yn bennaeth, wedyn yr uchelwyr, yna’r gwŷr rhydd a’r taeogion. Roedd y tywysog yn rheoli'r deyrnas tra byddai’r uchelwyr yn rheoli’r cymydau. Roedd cwmwd yn debyg i ardal.

Canran fach iawn o’r boblogaeth oedd yn uchelwyr, ond roeddent yn rheoli canran uchel o’r tir. Roedd y gwŷr rhydd yn annibynnol a chanddynt hawliau rhydd, tra bod y taeogion yn cael eu gweld fel eiddo rhywun arall.  Byddai’r tywysog a’i deulu yn symud o un cwmwd i’r llall ac yn aros am gyfnod yn y cwmwd hwnnw. Prif lys Llywelyn Fawr oedd Llys Rhosyr, ar Ynys Môn.

Fel uchelwr roeddech yn etifeddu statws eich teulu – ni allech ddod yn uchelwr.  Byddent yn rheoli’r tir ac yn penderfynu pa waith roedd yn rhaid i’r taeogion ei wneud. Byddai’r werin, neu’r taeogion, yn talu treth i’r uchelwr am ofalu amdanynt. Roedd y gwŷr rhydd yn rhentu eu tir eu hunain ac yn cael yr hawl i hela a theithio ar hyd y wlad fel y mynnent. Roedden nhw hefyd yn talu trethi i’r uchelwyr am eu gwarchod. Roedd y taeogion a’r caethweision ymhlith grwpiau isaf y gymdeithas. Doedd dim hawliau o gwbl gan y caethweision, ac nid oedd y taeog yn medru gadael y pentref heb ganiatâd yr uchelwr.  Nid oeddent yn berchen tir eu hunain, a byddent yn gofalu am gaeau’r uchelwr. Roedd y taeog a’r caethwas yn dlawd iawn.[3]

Cyfraith Cymru yn yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Llun o farnwr o lawysgrif Cyfraith Hywel

Hywel ‘Dda’ ap Cadell (880-950) oedd brenin cyntaf teyrnas y Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.  Llwyddodd i greu’r deyrnas drwy uno teyrnasoedd llai'r de-orllewin, ac erbyn 942 roedd wedi cipio Gwynedd hefyd.  Meddiannodd Bowys tua’r un adeg gan ddod yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Mae’n bwysig yn hanes Cymru’r Oesoedd Canol oherwydd mai ef greodd y gyfres gyntaf o gyfreithiau i Gymru, sef Cyfraith Hywel Dda. [4]

Testun o gopi o Statud Rhuddlan o'r 15fed ganrif

Elfen bwysig yn y gyfraith o ran Hanes Cymru oedd y gyfraith a oedd yn pennu etifeddiaeth. Roedd gan bob mab cydnabyddedig hawl i gyfran o eiddo’r tad. Bu hyn yn arwyddocaol ar gyfer tywysogion y Cymry, gan ei fod yn golygu bod teyrnasoedd yn cael eu rhannu'n gyson heb obaith am undod parhaol. Roedd hyn yn wahanol i deyrnas brenin Lloegr, lle etifeddai’r mab hynaf y deyrnas gyfan.

Gyda goresgyniad Cymru gan Loegr yn 1282 aeth Edward I ati i basio cyfres o gyfreithiau a oedd yn cael gwared ar yr hen gyfreithiau Cymreig. Yn eu lle rhoddwyd cyfreithiau Lloegr ar waith. Dyma oedd Statud Rhuddlan, a basiwyd yn 1284. Bwriad gwleidyddol Edward oedd sefydlu rheolaeth Lloegr yng Nghymru, ac i bob pwrpas roedd y cyfreithiau hyn yn gwneud Cymru yn dalaith o fewn Lloegr.

Ond er mai bwriad Edward oedd rheoli Cymru gyfan, ni lwyddodd i wneud hynny. Gelwid y tir lle mai ‘cyfraith y brenin’ oedd mewn grym yn ‘Dywysogaeth’. Roedd gweddill tir Cymru yn cael ei hadnabod fel y Mers ac o dan reolaeth Arglwyddi’r Mers, sef disgynyddion yr hen arglwyddi Normanaidd. Gan hynny, roedd dwy fath o gyfraith yn bodoli ochr yn ochr â’i gilydd yng Nghymru. Dyma fu’r sefyllfa nes pasio’r Deddfau Uno rhwng Cymru a Lloegr yn 1536 a 1542 pan unwyd Cymru gyfan o dan reolaeth Harri VIII. Wedi hynny, roedd cyfraith Lloegr yn cael ei gweithredu ar draws Cymru gyfan.[5]

Crefydd a Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Adfeilion mynachlog Ystrad Fflur

Roedd crefydd yn bwysig iawn ym mywyd pobl yr Oesoedd Canol, gyda’r Eglwys a’r mynachlogydd yn chwarae rôl bwysig yn y gymdeithas. Roedd y mynachlogydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau oddi mewn i'r gymuned - er enghraifft, fel ysbyty ar gyfer cleifion, lloches a llety i bererinion ac roeddent hefyd yn ganolfannau dysgedig iawn. Mewn cyfnod pan nad oedd gweisg yn bodoli, roedd y mynachod yn gyfrifol am ysgrifennu nifer o lawysgrifau pwysig â llaw. Roedd y mynachlogydd yn hollbwysig i economi Cymru hefyd gan eu bod yn berchen ar diroedd eang, ac roedd y Sistersiaid yn enwedig yn enwog am fagu defaid a chynhyrchu gwlân.

Y llawysgrif hon yw'r copi cynharaf o Frut y Tywysogion.

Gyda dyfodiad y Normaniaid i Loegr a Chymru ar ddiwedd yr 11eg ganrif sefydlwyd Urdd y Sistersiaid yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod y 12fed ganrif sefydlwyd llawer o fynachlogydd Sistersaidd - er enghraifft, Ystrad Fflur yn 1186, a Llywelyn Fawr oedd ei noddwr; Hendy-gwyn, Nedd, Tyndyrn yn hanner cyntaf y 12fed ganrif a Glyn y Groes ar ddechrau’r 13eg ganrif.  Roedd Ystrad Fflur yn bwysig yn hanes llenyddiaeth a diwylliant Cymru yn ystod y cyfnod hwn oherwydd ei chysylltiad â Brut y Tywysogion, sef un o’r ffynonellau pwysicaf am hanes Cymru cyn y Goncwest Edwardaidd. [6] [7]Sefydlwyd Ystrad Fflur gan yr Arglwydd Rhys ac roedd hefyd yn ganolfan wleidyddol bwysig, gyda Llywelyn Fawr yn galw ynghyd arweinyddion Cymru i Ystrad Fflur yn 1138 er mwyn tyngu llw o ffyddlondeb i’w fab, Dafydd, fel ei olynydd.[8]

Ymwelodd Gerallt Gymro (c.1146-1223) ag Ystrad Fflur tra bu ar ei daith drwy Gymru yn 1188 yn recriwtio milwyr ar gyfer y Croesgadau. Ymwelodd hefyd â'i gefnder, Yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth, yng Nghastell Aberteifi. Ysgrifennodd Gerallt am ei daith drwy Gymru yn ei lyfrau ‘Y Daith drwy Gymru’ a ‘Disgrifiad o Gymru’, lle mae’n rhoi cipolwg i ni ar ffordd o fyw, arferion, a daearyddiaeth Cymru yn y cyfnod hwnnw.

Yn Abaty Ystrad Fflur hefyd y copïwyd Llawysgrif Hendregadredd. Dyma’r casgliad hynaf o waith beirdd Oes y Tywysogion, sef beirdd a fu’n barddoni rhwng dyfodiad y Normaniaid a lladd Llywelyn ap Gruffydd. Mae’n debyg y cychwynnwyd cofnodi'r gwaith rywbryd ar ôl 1282. Mae’n ddigon posib hefyd bod un gerdd, a blith nifer o gerddi a ychwanegwyd tua 1330, wedi cael ei hysgrifennu yn llaw Dafydd ap Gwilym, un o feirdd pwysicaf Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Roedd Dafydd yn ôl yr hanes wedi cael rhywfaint o’i addysg gyda’r mynachod yn Ystrad Fflur, ac yno, yn ôl yr hanes, y claddwyd ef, o dan yr ywen.[9] Roedd gan feirdd statws uchel yng nghymdeithas Cymru. Noddwyd beirdd gan lawer o dywysogion Cymru, cyn y Goncwest Edwardaidd. Gruffudd ab yr Ynad Coch oedd un o feirdd amlycaf oes y Tywysogion gan mai ef a gyfansoddodd y farwnad i Lywelyn ap Gruffudd wedi iddo gael ei ladd yng Nghilmeri yn 1282.[10] Parhawyd â'r traddodiad o noddi beirdd yng Nghymru yn y mynachlogydd, nes iddynt gael eu diddymu gan Harri VIII yn 1536 a 1539, gan eu bod hwythau hefyd yn gefnogwyr pwysig i ddysg a diwylliant Cymru.[9]

Cysylltiad ag Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Paentiad modern o'r Arglwydd Rhys

Un o reolwyr pwysicaf a dylanwadol Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol oedd yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth. Ef oedd yn gyfrifol am drefnu cynnal yr Eisteddfod gyntaf erioed yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Roedd beirdd o Iwerddon, yr Alban a Ffrainc wedi dod yno i gystadlu. Er mai gŵyl Gymraeg yw’r Eisteddfod mae rhai haneswyr yn meddwl mai o Ffrainc y daw’r syniad yn wreiddiol. Roedd gan yr Arglwydd Rhys gysylltiadau cryf â’r Normaniaid o Ffrainc, ac roedd gŵyl debyg i’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Auvernge yng Nghanolbarth Ffrainc.

Er bod gan Gymru gysylltiad cryf â Lloegr roedd hefyd yn wlad annibynnol oedd â chysylltiadau cryf â gweddill Ewrop - er enghraifft, mewn masnach, rhannu syniadau, ac roedd yr iaith Gymraeg i’w chlywed mewn mannau ar draws Ewrop.

Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar ardaloedd yng Nghymru yn y 9fed ganrif, ac ymhen amser roeddent yn masnachu gyda’r Cymry mewn canolfannau masnach arbennig. Y Llychlynwyr sydd yn gyfrifol am nifer o enwau llefydd yng Nghymru fel:

Mae archeolegwyr wedi darganfod canolfan fasnachu oedd yn bodoli yn ystod y 9fed a’r 10fed ganrif yn Llanbedrgoch, Ynys Môn. Mae’n debyg ei bod yn ganolfan ar gyfer creu a chyfnewid nwyddau.  Mae archeolegwyr wedi darganfod nwyddau fel bwcl belt a thlws o Sgandinafia ac Iwerddon yma.

Sefydlwyd nifer o fynachlogydd Cymru gan fynachod o Ffrainc, fel y Benedictiaid a’r Sistersiaid.  Byddai’r mynachod hyn yn teithio i Ffrainc am gyfnod bron bob blwyddyn, ac yn dychwelyd gyda syniadau a thechnegau newydd am bob math o bethau, fel ffermio a physgota.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  2. 2.0 2.1 "Braslun o Gymru, 1063 - 1282" (PDF). HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  3. "Cymdeithas yn yr Oesoedd Canol". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  4. "Cymru yn 1063". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  5. "Gorchfygu Cymru". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  6. Yr Oesoedd Canol. Canolfan Astudiaethau Addysg. 1993. t. 23.
  7. "Brut y Tywysogion". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  8. "Brut y Tywysogion | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-04-03.
  9. 9.0 9.1 "Llawysgrif Hendregadredd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-04-03.
  10. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 395.
  11. "Cymru Ewropeaidd yr Oesoedd Canol". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.