Elisedd ap Gwylog

Oddi ar Wicipedia
Elisedd ap Gwylog
Ganwyd700s Edit this on Wikidata
Bu farw755 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata
TadGwylog ap Beli Edit this on Wikidata
PlantBrochfael ab Elisedd, Enghenedl Edit this on Wikidata
PerthnasauCadell Powys Edit this on Wikidata

Roedd Elisedd ap Gwylog (bu farw c. 755), a adnabyddir hefyd fel Elise, yn frenin Powys.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Croes Eliseg; yr ysgrifen.

Ychydig sydd wedi ei gadw yn y cofnodion hanesyddol am Elisedd, oedd o linach Brochwel Ysgithrog. Mae'n ymddangos iddo adennill tiriogaeth Powys wedi iddo gael ei gipio gan y Saeson. Cododd ei or-ŵyr Cyngen ap Cadell golofn er côf amdano sydd i'w gweld heb fod ymhell o Abaty Glyn y Groes (sy'n llawer diweddarach). Adwaenir y golofn yma fel Croes Eliseg, ond credir mai camgymeriad oedd hyn ar ran y cerfiwr.[1]

Mae'r arysgrif Ladin ar y golofn bron yn amhosibl ei darllen yn awr, ond yr oedd yn gliriach yn oes Edward Llwyd a wnaeth gopi ohono. Mae cyfieithiad o'r rhan o'r arysgrif sy'n delio ag Elisedd fel a ganlyn :

+ Cyngen fab Cadell, Cadell fab Brochmail, Brochmail fab Eliseg, Eliseg fab Guoillauc.
+ A'r Cyngen hwnnw, gor-ŵyr Eliseg, a gododd y maen yma ar gyfer ei hen daid Eliseg.
+ Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân.
+ Pwy bynnag sy'n ailadrodd yr arysgrif yma, rhoed fendith ar enaid Eliseg.

Dilynwyd Elisedd gan ei fab Brochfael.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).