Cyngen ap Cadell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyngen ap Cadell
Ganwyd 778 Edit this on Wikidata
Bu farw 854 Edit this on Wikidata (76 oed)
Rhufain Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth brenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Tad Cadell Powys Edit this on Wikidata
Plant Elisedd ap Cyngen, Gruffydd ap Cyngen Edit this on Wikidata
Teulu Nest ferch Cadell Edit this on Wikidata
Llinach Teyrnas Powys Edit this on Wikidata

Roedd Cyngen ap Cadell (bu farw 855) yn frenin Powys.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Cyngen o linach Brochwel Ysgithrog ac ar ôl teyrnasiad maith fel brenin Powys aeth ar bererindod i Rufain a bu farw yno yn 855. Credir mai ef oedd y cyntaf o frenhinoedd Cymru i ymweld â Rhufain ers i'r rhan Gymreig o'r Eglwys Geltaidd gytuno i gydymffurfio ag Eglwys Rhufain a'r Pab ynglyn â dyddiad y Pasg.

Cododd Cyngen golofn er côf am ei daid Elisedd ap Gwylog sydd i'w gweld yn agos at abaty diweddarach Glyn y Groes. Adnabyddir y golofn fel 'Croes Eliseg' (yn hytrach nag Elisedd) oherwydd camgymeriad gan y sawl oedd yn cerfio'r arysgrif.

Cyngen oedd yr olaf o linach brenhinoedd gwreiddiol Powys. Roedd ganddo dri mab, on pan fu farw cipiwyd Powys gan Rhodri Mawr, brenin Gwynedd oedd yn ei hawlio gan ei fod yn fab i Nest, chwaer Cyngen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co., Llundain, 1911)