Rhodri Mawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rhodri Mawr
Ganwyd c. 0820 Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw 878 Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth teyrn, gwron Edit this on Wikidata
Swydd brenin Edit this on Wikidata
Tad Merfyn Frych Edit this on Wikidata
Mam Nest ferch Cadell Edit this on Wikidata
Priod Angharad ferch Meurig Edit this on Wikidata
Plant Anarawd ap Rhodri, Tudwal Gloff, Merfyn ap Rhodri, Cadell ap Rhodri, Merfyn ap Rhodri, King of Powys Edit this on Wikidata
Llinach Teulu brenhinol Gwynedd Edit this on Wikidata

Rhodri Mawr, enw llawn Rhodri ap Merfyn (c. 820878) oedd y brenin cyntaf i reoli'r rhan fwyaf o Gymru a'r cyntaf hefyd i gael ei alw'n "Fawr".

Roedd Rhodri yn fab i Merfyn Frych, a ddaeth yn frenin Gwynedd ar farwolaeth ei dad yn 844, a'r dywyoges Nest o Bowys. Pan fu ei ewythr Cyngen, brenin Powys, farw ar bererindod i Rufain yn 855, etifeddodd Rhodri ei deyrnas ef hefyd. Yn 872 boddwyd trwy ddamwain Gwgon ap Meurig, brenin Ceredigion a Seisyllwg, ac ychwanegodd Rhodri ei deyrnas yntau at ei feddiannau trwy ei briodas ag Angharad, chwaer Gwgon. Roedd yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru.

Roedd Rhodri yn gorfod wynebu pwysau gan yr Eingl-Sacsoniaid ac yn gynyddol gan y Daniaid hefyd, a fuont yn ôl y croniclau yn anrheithio Môn yn 854. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid ym Mrwydr Llandudno gan ladd eu harweinydd Gorm (a elwir weithiau yn Horm). Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus wedi ei hysgrifennu yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr.

Cafodd Rhodri fuddugoliaeth arall yn erbyn y Daniaid ym Mrwydr Parciau yn 872.

Yn 877 ymladdodd Rhodri frwydr arall yn erbyn y Daniaid, ond y tro yma bu raid iddo ffoi i Iwerddon. Pan ddychwelodd y flwyddyn wedyn, dywedir iddo ef a'i fab Gwriad gael eu lladd gan wŷr Mersia, er na wyddir y manylion. Pan enillodd ei fab Anarawd ap Rhodri fuddugoliaeth dros wŷr Mersia ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe'i dathlwyd yn y brutiau fel "Dial Duw am Rhodri".

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest(Longmans, Green & Co, 1911)
  • Ceinwen H. Thomas, "Rhodri Mawr", yn Ein Tywysogion (1954)
Rhagflaenydd:
Merfyn Frych ap Gwriad
Brenin Gwynedd
844878
Olynydd:
Anarawd ap Rhodri
Rhagflaenydd:
Cyngen ap Cadell
Brenin Powys
855878
Olynydd:
Merfyn ap Rhodri
Rhagflaenydd:
Gwgon
Brenin Seisyllwg
872878
Olynydd:
Cadell ap Rhodri