Eingl-Sacsoniaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tiriogaethau Prydain 500-700

Eingl-Sacsoniaid yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at y grwpiau o bobloedd Germanaidd a ymsefydlodd yn ne a dwyrain Prydain o'r 5ed ganrif ymlaen gan raddol ddisodli'r Brythoniaid (pobloedd Celtaidd) brodorol. Fel enw mae'n gymharol ddiweddar ac, fel y gair 'Celtiaid', doedd o ddim yn cael ei ddefnyddio gan y bobloedd hynny eu hunain.

Roedd yr Eingl-Sacsoniaid yn perthyn i sawl llwyth, yn cynnwys y Sacsoniaid, yr Eingl a'r Iwtiaid neu Iwys. Ar y dechrau, ffurfiodd y llwythau hyn nifer o fân deyrnasoedd annibynnol ar dir a enillwyd oddi wrth y teyrnasoedd Celtaidd brodorol. Y pennaf o'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd hyn oedd Deira neu 'Deifr' (Northumbria), Mercia a Wessex. Mae hanes cynnar yr Eingl-Sacsoniaid yn frith â brwydrau ac ymgyrchoedd yn erbyn Gwŷr y Gogledd (teyrnasoedd Rheged, Manaw Gododdin, Elmet ac Ystrad Clud), y Cernywiaid a'r Cymry, ond yn ogystal roeddent yn ymladd â'i gilydd am rym. Teyrnas Wessex a lwyddodd i osod seiliau teyrnas Lloegr ar ôl torri grym Mercia yn 825 a chydnabyddir y brenin Alffred Fawr fel brenin cyntaf Lloegr unedig.

Rheolai'r brenhinoedd gyda chymorth y witan (cyngor o uchelwyr) a llysoedd lleol.

Paganiaid oedd yr Eingl-Sacsoniaid pan ddaethant i Brydain. Cawsant eu troi i'r Gristnogaeth gan Sant Awstin a anfonwyd gan y Pab Gregori I i Loegr yn 596. Hen Saesneg (neu Eingl-Sacsoneg) oedd eu hiaith. Beowulf yw gwaith mwyaf adnabyddus llenyddiaeth Eingl-Sacsonaidd.


Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato