Elmet
Allwedd: |
Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig oedd Elmet (Cymraeg Diweddar: Elfed) a adwaenid yng Nghymru'r Oesoedd Canol fel un o deyrnasoedd yr Hen Ogledd.[1] Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn Swydd Efrog yng ngogledd Lloegr, yn yr ardal o gwmpas dinas Leeds. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mercia.
Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").
Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol yn "Elmet".
Ceir cyfeiriad at Elmet mewn arysgrif ar garreg fedd gynnar yn Llanaelhaearn yng Ngwynedd, "ALIOTVS ELMETIACOS HIC IACET", neu "Yma y gorwedd Aliortus o Elmet".
Cadwyd dwy gerdd yn Llyfr Taliesin i Gwallog ap Llaennog, oedd yn frenin Elfed tua diwedd y 6g. Er bod testunau'r ddwy gerdd i'w cael yng nghanol y canu a dderbynnir fel cerddi dilys y Taliesin hanesyddol does dim sicrwydd eu bod yn waith y bardd hwnnw. Mae un o'r cerddi yn fawl i Wallog sy'n rhestru ei fuddugoliaethau ac mae'r llall yn farwnad iddo. Mae'r iaith yn ddigon astrus.[2]
Brenhinoedd Elmet[golygu | golygu cod y dudalen]
- Masgwig Gloff (c.460 - c.495)
- Llaennog ap Masgwig (c.495 - c.540)
- Arthwys ap Masgwig (c.540 - c.560)
- Gwallog ap Llaennog (c.560 - 590)
- Ceredig ap Gwallog (590 - 616) d. 618
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- David Rollason, Northumbria, 500-1100, Cambridge University Press (2003)
- Christopher A Snyder, The Britons, Blackwell Publishing (2003)
- Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960; adargraffiad 1977)
Yr Hen Ogledd |
|
---|---|
Teyrnasoedd: | Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: | Aneirin • Brân Galed • Clydno Eidyn • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elidir Lydanwyn • Eliffer • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Pabo Post Prydain • Pasgen fab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Sawyl Ben Uchel • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: | Arfderydd • Argoed Llwyfain • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Pen Rhionydd • Ynys Metcaud |
Gweler hefyd: |