Dygynnelw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dygynnelw
Ganwyd 6G Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd 6G Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Owain ab Urien Edit this on Wikidata

Bardd a gysylltir ag Owain mab Urien Rheged yw Dygynnelw. Os gwir y traddodiad buasai yn ei flodau yn ail hanner y 6g[1] ac yn gyfoeswr â Thaliesin, yntau'n fardd a ganodd i Urien yn yr Hen Ogledd yn y cyfnod hwnnw.

Tystiolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dim ond tri chyfeiriad a geir at Ddygynnelw. Mewn triawd yn y casgliad Trioedd Ynys Prydain, mae'n cael ei alw'n un o "Dri bardd coch eu gwaywffyn Ynys Prydain", gyda Tristfardd ac Afan Ferddig (orgraff ddiweddar):

Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain:
Tristfardd bardd Urien,
A Dygynnelw bardd Owain ab Urien,
Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.[2]

Mewn testun canoloesol sy'n ymwneud â chrefft y bardd llys, dywedir am amrywiad ar yr englyn unodl union ei fod yn 'englyn anghyfodl yr hwn a elwir "dull Dyg[yn]nelw"'.[2]

Yn olaf enwodd y Gogynfardd Cynddelw Brydydd Mawr ei fab yn Ddygynnelw a chanodd farwnad nodedig iddo. Mae Rachel Bromwich yn awgrymu fod Cynddelw wedi dewis enwi ei fab ar ôl y Cynfardd (mae Dygynnelw yn enw anghyffredin iawn).[3]

Erbyn heddiw mae gwaith Dygynnelw i gyd ar goll, ond mae'n amlwg ei fod o statws arbennig yn y traddodiad cynnar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (argraffiad newydd, Caerdydd, 1991).
  2. 2.0 2.1 Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (argraffiad newydd, Caerdydd, 1991), triawd 11, t. 331.
  3. Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr (Caerdydd, 1991), t. 367.