Eliffer Gosgorddfawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pennaeth neu frenin o'r Hen Ogledd oedd Eliffer Gosgorddfawr (fl. dechrau'r 6g). Cysylltir ei saith mab â Brwydr Arfderydd (537?).

Ymladdwyd Brwydr Arfderydd, yn ôl traddodiad, yn yr Hen Ogledd tua'r flwyddyn 537 rhwng Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud a Gwenddolau fab Ceidio. Gyrrwyd bardd llys Gwenddoleu, Myrddin, yn wallgof gan farwolaeth ei arglwydd ac erchylltra'r frwydr. Ffôdd i Goed Celyddon, lle bu'n byw fel dyn gwyllt gan ennill iddo'i hun yr enw "Myrddin Wyllt".

Ond ceir traddodiadau eraill am y frwydr hefyd. Ceir cyfeiriad ati yn y cofnod am y flwyddyn 537 yn yr Annales Cambriae, ond yma dywedir ei bod yn frwydr rhwng Gwenddolau a meibion Eliffer. Mewn cofnod diweddarach, mae'r Annales yn enwi meibion Eliffer fel Gwrgi a Peredur.

Yn ôl yr achau, roedd Eliffer a'i feibion yn ddisgynyddion i'r brenin Coel Hen ac felly'n perthyn i linach y Coelwys. Yn un o'r cerddi yn Llyfr Du Caerfyrddin, sy'n sôn am Frwydr Arfderydd, cyfeirir at "saith meib Eliffer" a fu'n enwog am eu dewrder.

Ceir dau o Drioedd Ynys Prydain sy'n cyfeirio at Eliffer. Roedd ei wyr, Gwrgawn Gwron fab Peredur fab Eliffer yn un o "Dri Lleddf Unben Ynys Prydain", gyda Llywarch Hen a Manawydan fab Llŷr. Mae triawd arall am y "Tri meirch a ddygant y Tri Marchlwyth":

Yr ail Farchlwyth a ddug Cornan march meibion Eliffer, a ddug Gwrgi a Pheredur arno, a Dunawd Fwr, a Chynfelyn Drwsgl, i edrych ar fygedorth (llu) Gwenddoleu yn Ar(f)derydd.

Cyfeirir at Eliffer fel patrwm o arwr a rhyfelwr mewn cerddi gan dri o'r Gogynfeirdd, sef Cynddelw Brydydd Mawr, Dafydd Benfras a Casnodyn. Fe'i enwir yn 'Englynion y Clyweid' hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]