Talhaearn Tad Awen
Gwedd
Talhaearn Tad Awen | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Talhaearn Tad Awen (fl. 6g) oedd un o'r beirdd cynharaf yn y Traddodiad Barddol Cymraeg. Fe'i cysylltir â'r Hen Ogledd a'r Hengerdd. Roedd yn gyfoeswr i Aneirin a Taliesin.
Tystiolaeth
[golygu | golygu cod]Ceir y cyfeiriad cynharaf ato gan Nennius yn yr Historia Brittonum ar ôl nodyn am Ida, brenin Northumbria (547-579):
- 'Ar y pryd, yn yr amser hwnnw ymladdai Dutigirn (=Eudeyrn) yn wrol yn erbyn cenedl yr Eingl. Yr un adeg bu Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin (=Aneirin) a Thaliesin a Blwchfardd a Chian (a elwir Gwenith Gwawd) ynghyd yn yr un amser a fuant enwog mewn barddoniaeth Gymraeg.'[1]
Cyfeirir at Dalhaearn mewn cerdd o'r enw 'Angar Cyfyndawd' a geir yn Llyfr Taliesin. Mae'n perthyn i gylch o gerddi am y Taliesin chwedlonol. Dywedir ei fod 'mwyaf y sywedydd' ("y mwyaf o'r doethion").[2]
Enwir Talhaearn yn un o Drioedd Ynys Brydain. Dywedir fod Talhaearn yn derbyn "gant o fuchod bob dydd Sadwrn" gan Aneirin (fel tal neu wobr efallai). Awgrymir y posiblrwydd fod chwedl goll am ymryson neu gydymgais rhwng Talhaearn ac Aneirin.[2]