Catraeth
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
Dyddiad | c. 600 ![]() |
Lleoliad | Catterick ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Allwedd: |
Enw lle sy'n ymddangos yn y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, sef yr Hengerdd, o'r Hen Ogledd yw Catraeth.
Ceir y cyfeiriadau mwyaf adnabyddus at y lle yn Y Gododdin, sy'n cyfeirio at frwydr a ymladdwyd efallai tua'r flwyddyn 600. Dywedir yma fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd Brythonig ac wedi daparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn (Caeredin heddiw), cyn eu gyrru ar ymgyrch i Gatraeth. Mae'n amlwg fod Catraeth ym meddiant yr Eingl ar y pryd. Lladdwyd bron y cyfan ohonynt mewn brwydr yn erbyn byddin enfawr y gelyn. Ceir cyfeiriadau at yr arwyr yn mynd i Gatraeth ar ddechrau amryw o'r penillion, er enghraifft "Gwŷr a aeth Gatraeth gan wawr".
Yng Nghanu Taliesin, sy'n perthyn efallai i gyfnod ychydig yn gynharach, cyferchir Urien Rheged, arglwydd Rheged fel 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth).
Yr ysgolhaig Cymreig Thomas Stephens yn y 19g oedd y cyntaf i gynnig mai Catterick yn Swydd Efrog yng ngogledd Lloegr oedd "Catraeth". Derbyniwyd hyn gan Syr Ifor Williams a chan y rhan fwyaf o ysgolheigion ers hynny.