Tudwal Tudclyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brenin cynnar ar deyrnas Frythonaidd Ystrad Clud oedd Tudwal Tudclyd. Roedd yn dad i Rhydderch Hael (m. tua 604) ac felly buasai yn ei flodau tua chanol y 6g.

Cyfeirir at Dudwal mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel tad Rhydderch.

Ystyr yr enw Tudwal yw "Arweinydd y bobl" (tud 'pobl', cf. Gwyddeleg túath + Hen Gymraeg gwâl 'arweinydd'), ac mae Tudclyd yn golygu "Amddiffynwr y bobl" (clyd 'cysgod, amddiffyn').

Ceir mwy nag un traddodiad am dras Tudwal. Mae un o'r achau yn ei wneud yn fab i ryw Eidinet (Ednyfed?) ac felly'n un o ddisgynyddion Macsen Wledig, ond mae ach arall yn ei wneud yn ddisgynydd i'r arwr Dyfnwal Hen.

Roedd Tudwal yn berchen un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain:

(H)ogalen Tudwal Tutklyd: o hogai wr dewr (e)i gleddyf arni, od enwaedi ar wr, marw fyddai; ag os hogai wr llwfr, ni byddai waeth.

Cyfeirir at Dudwal (os yr un gŵr ydyw) ym Muchedd Sant Ninian gan Ailred o Rievaulx (12g). Yn ôl y fuchedd roedd Tuduvallus yn frenin pechadurus a gosbwyd trwy ei wneud yn ddall. Ymddengys fod y fuchedd yn seiliedig ar ffynonellau o'r 8g.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961, arg. newydd 1991)