Manaw Gododdin

Oddi ar Wicipedia
Manaw Gododdin
Enghraifft o'r canlynolteyrnas Edit this on Wikidata
Daeth i ben7 g Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu3 g Edit this on Wikidata
RhagflaenyddGododdin Edit this on Wikidata
Tiriogaethau Prydain 500-700

Teyrnas Frythonaidd yn yr Hen Ogledd oedd Manaw Gododdin. Gorweddai yn yr ardal a elwir heddiw yn Alloa, ger Moryd Forth yng nghanolbarth yr Alban. Ymddengys ei fod yn is-deyrnas o deyrnas Gododdin neu gnewyllyn y deyrnas honno. Din Eidyn oedd prif gaer y deyrnas a safle llys Mynyddog Mwynfawr, yn ôl pob tebyg. Cyfeirir at Fanaw Gododdin yn y gerdd gynnar enwog 'Y Gododdin', gan Aneirin (6g).

Cyfeiria Nennius at Fanaw Gododdin yn ei Historia Brittonum, gan ddweud fod Cunedda, sefydlydd teyrnas Gwynedd, wedi dod i Ogledd Cymru "o'r fro a elwir Manau Guotodin (Manaw Gododdin), 146 o flynyddoedd cyn i Faelgwn ddechrau teyrnasu."[1]

Yn ôl rhestr o enwau meibion Cunedda a geir yn llawysgrif Harleian 3859, sef Achresau Harley, bu farw Typiaun, mab cyntaf-anedig Cunedda, yn yr ardal "a elwir manau guodotin (Manaw Gododdin), ac ni ddaeth yma (i Gymru) gyda'i dad a'i frodyr."[2]

Cysylltir Manaw Gododdin gan haneswyr â gwlad yr Otadini, pobl Geltaidd a drigai yn nwyrain y tir sy'n gorwedd rhwng Mur Hadrian a Mur Anton, sef de-ddwyrain yr Alban heddiw.

Yr un yw'r gair 'Manaw' yn yr enw a'r 'Manaw' yn enw Ynys Manaw. Mae 'Manaw' yn gytras â'r gair Gwyddeleg Manann, ond mae arwyddocâd yr enw yn achos Manaw Gododdin yn ansicr. Mae cysylltiad Gwyddelig yn bosibl felly (gorweddai teyrnas Wyddelig Dál Riata i'r gogledd-orllewin.

I'r gogledd roedd y Pictiaid yn byw. Cyfeirir at frwydr Cath Manand a brwydr mawr â'r Pictiaid yn Campo Manand (Caer Manaw) mewn ffynonellau Gwyddelig."[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyfynnir gan Ifor Williams yn Canu Aneirin (Caerdydd, ail argraffiad 1961).
  2. 2.0 2.1 Canu Aneirin (Caerdydd, ail argraffiad 1961).