Nudd Hael
Arwr Brythonig o'r Hen Ogledd a fu yn ei flodau ar ddiwedd y 6g a dechrau'r ganrif olynol, efallai, oedd Nudd Hael fab Senyllt.
Cyfeirir ato mewn dau o Drioedd Ynys Prydain. Fe'i enwir gyda Rhydderch Hael a Mordaf Hael fel un o 'Dri Hael Ynys Prydain'. Mewn amrywiad ar driawd arall, 'Tri serchog Ynys Prydain', cyfeirir ato fel tad Tegau Eurfron, cariad Caradog Freichfras.
Ceir ei ach yn y testun achyddol 'Bonedd y Saint' lle mae'n fab i Senyllt fab Cedig fab Dyfnwal Hen. Os medrir dibynnu ar yr achrestr hon, yr unig un sy'n ei restru, mae hyn yn cadarnhau ei fod yn gyfoeswr â Rhydderch Hael a Mordaf. Ond mae achrestr arall yn nodi ach gwahanol ar gyfer Senyllt, tad Nudd.
I'r Cymry cynnar yr oedd Nudd yn gymeriad hanesyddol. Cyfeirir ato mewn cerdd i Urien Rheged ond heb ychwanegu at ein gwybodaeth. Ceir sawl cyfeiriad ato yng ngwaith y beirdd, yn cynnwys cerddi gan y beirdd llys Cynddelw Brydydd Mawr, Bleddyn Fardd a Llygad Gŵr, lle mae'n batrwm o haelioni. Yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr ceir sawl cyfeiriad arall, e.e. mewn cerddi gan Hillyn, Gwilym Ddu o Arfon, Rhisierdyn ac Y Proll.
Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961, arg. newydd 1991).
Yr Hen Ogledd |
|
---|---|
Teyrnasoedd: | Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: | Aneirin • Brân Galed • Clydno Eidyn • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elidir Lydanwyn • Eliffer • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Pabo Post Prydain • Pasgen fab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Sawyl Ben Uchel • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: | Arfderydd • Argoed Llwyfain • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Pen Rhionydd • Ynys Metcaud |
Gweler hefyd: |