Dyfnwal Frych
Dyfnwal Frych | |
---|---|
Ganwyd | 7 g |
Bu farw | 642 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | list of kings of Dál Riata |
Tad | Eochaid Buide |
Plant | Domangart mac Domnaill, Drest VI, Gartnait IV |
- Am bobl eraill o'r enw Dyfnwal gweler Dyfnwal (gwahaniaethu).
Brenin Dál Riata yng ngorllewin yr Alban oedd Dyfnwal Frych (Gaeleg: Domnall Brecc) (bu farw 642).
Roedd Dyfnwal yn fab i Eochaid Buide. Ymddengys yn y cofnodion am y tro cyntaf yn 622, pan mae Brut Tigernach yn cofnodi ei fod yn ymladd fel cyngheiriad Conall Guthbinn o'r Clann Cholmáin ym Mrwydr Cend Delgthen yn Iwerddon (Meath mae'n debyg). Dyma'r unig dro y cofnodir i Dyfnwal ymladd brwydr ac ennill.
Daeth yn frenin Dál Riata tua 629. Wedi i Dyfnwal dorri cynghrair Dál Riata a'r Cenél Conaill, rhan o'r Uí Néill, gorchfygwyd ef bedair gwaith yn olynol. Yn Iwerddon, gorchfygwyd ef a'i gyngheiriad Congal Cáech o'r Dál nAraidi gan Domnall mac Áedo o'r Cenél Conaill, Uchel Frenin Iwerddon, ym Mrwydr Mag Rath yn 637. Gorchfygwyd ef gan y Pictiaid yn 635 a 638, ac yna cafodd ei orchfygu a'i ladd gan Owain I, brenin teyrnas Frythonaidd Alt Clut yn 642.
Ceir un pennill yn y Gododdin sy'n dathlu buddugoliaeth Owain a lladd Dyfnwal Frych; pennill sydd i bob golwg wedi ei chynnwys yn nhestun y Gododdin mewn camgymeriad. Mae'n gorffen:
- ... a phen Dyfnwal Frych, brain a'i cnoyn.
Daeth ei fab, Domangart mac Domnaill, yn frenin Dál Riata yn ddiweddarach.