Ymddiddan Myrddin a Thaliesin
Tudalen gyntaf Llyfr Du Caerfyrddin. Llun wedi'i sganio o argraffiad diplomataidd J. Gwenogvryn Evans (Pwllheli, 1907). | |
Enghraifft o'r canlynol | cerdd |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 11 g |
Tudalennau | 6 |
Genre | dialog |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Yr Hen Ogledd, Teyrnas Dyfed |
Cerdd o naws chwedlonol am hanes cynnar Cymru yw Ymddiddan Myrddin a Thaliesin. Hon yw'r gân gyntaf yn Llyfr Du Caerfyrddin.
Mae ar ffurf deialog rhwng Taliesin a Myrddin, dau fardd cynnar a drowyd yn ffigurau mytholegol yn nhraddodiad yr Oesoedd Canol ac yn awduron nifer o gerddi darogan. Mae hi'n gerdd 38 llinell sy'n llenwi chwe thudalen cyntaf y llawysgrif. Credir fod Llyfr Du Caerfyrddin wedi'i ysgrifennu tua chanol y 12g a bod y gerdd yn perthyn i'r 11g.
Cyfres o sylwadau am arwyr a brwydrau a wneir bob yn ail gan Myrddin a Thaliesin ydyw. Ceir disgrifiadau byrion o'r brwydrau ac yna alaru am yr arwyr a gollwyd. Yr arwyr a enwir yw Cedfyw, Cadfan, Cyndur, Cynfelyn, Dywel ab Erbin, Elgan, Eliffer, Errith, Gwrrith, Maelgwn (Maelgwn Gwynedd), Rhys Undant, a'r ffigwr chwedlonol Gofannon. Cyfeirir at ddau le, sef Arfderydd a Choed Celyddon.
Mae'n destun llawn o gyfeiriadau tywyll sy'n anodd eu dehongli, ond serch hynny mae'n ffynhonnell bwysig am hanes cynnar Cymru a'r Hen Ogledd. Ymddengys fod y gerdd i'w hymrannu'n ddwy ran, neu'n gyfuniad o ddau destun annibynnol (er bod hynny'n annhebygol). Yn y rhan gyntaf ceir hanes ymosodiad ar Ddyfed gan Faelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd, gyda Myrddin yn cymryd safbwynt rhyfelwyr Dyfed (fe'i cysylltir â Chaerfyrddin) a Thaliesin yn cynrychioli'r Gogledd (fe'i cysylltir fel ffigwr chwedlonol â llys Maelgwn Gwynedd yn Negannwy). Yn yr ail ran ceir darogan am frwydr Arfderydd.
Mae lle i gredu fod Sieffre o Fynwy wedi tynnu ar y gerdd neu destun tebyg i lunio'r Vita Merlini.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir testun golygedig gyda rhagymadrodd a nodiadau yn,
- A. O. H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)