Dywel fab Erbin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dywel ab Erbin)

Arwr Cymreig cynnar a gysylltir â de-orllewin Cymru oedd Dywel fab Erbin. Mae traddodiad yn ei wneud yn frawd i Geraint fab Erbin, arwr un o'r Tair Rhamant.[1]

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Yn y gerdd 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin' (Llyfr Du Caerfyrddin) mae Dywel yn un o'r rhyfelwyr o Dyfed sy'n syrthio yng nghyrch Maelgwn Gwynedd ar y dalaith honno.[1] Ceir englyn amdano yn 'Englynion y Beddau' (hefyd yn y Llyfr Du) sy'n ei gysylltu ag ardal cantref Caeo ('Caeaw'):

Bedd Dywel mab Erbin yng ngwestedin Caeaw,
ni byddai, gwr y breinhin,
difei, ni ochelai drin.[2]

Fe'i enwir yn ogystal fel un o'r marchogion yn llys Arthur yn y chwedl Culhwch ac Olwen.[1]

Mae Dyweli yn enw ar nant yn ne Ceredigion, sy'n tarddu efallai o'r enw personol Dywel.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 A. O. H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951).
  2. A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982).