Aeron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae hon yn erthygl am y fro yn yr Hen Ogledd, ac enw Cymraeg ar y swydd a elwir yn Ayrshire yn Saesneg. Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Aeron (gwahaniaethu).

Aeron, yn ôl pob tebyg, oedd enw bro yn yr Hen Ogledd y cyfeirir ati yng Nghanu Aneirin a Chanu Taliesin. Credir bod ei thiriogaeth yn gyfateb yn fras i hen Swydd Aeron (Ayrshire) yn ne-orllewin yr Alban.

Yn Y Gododdin cysylltir yr arwr Cynon fab Clydno ag Aeron. Mae'n cael ei ddisgrifio fel dileid Aeron ('amddiffynydd Aeron') a ymunodd â gwŷr Manaw Gododdin i fynd i frwydro yng Nghatraeth. Mae'r gerdd yn sôn am 'ddau gadgi Aeron' (dau ryfelwyr o Aeron) a rhyw 'Cynddilig Aeron' anhysbys yn ogystal.

Mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn cytuno mai'r hen Swydd Ayr yn yr Alban yw'r Aeron yng ngwaith Taliesin ac Aneirin.

Posiblrwydd arall yw ei bod rhywle ger teyrnas Elfed (gogledd canolbarth Lloegr) gan fod Aire yn enw ar afon yn nwyrain Swydd Efrog.

Disgrifir Urien Rheged fel 'diffreidawc Aeron' ('amddiffynydd Aeron') mewn cerdd yng Nghanu Taliesin a sonnir amdano yn mynd i Aeron i ymladd yn erbyn y gelyn. Mae'n bosibl felly fod Aeron naill ai yn rhan o deyrnas Rheged yn amser Urien neu'n gorwedd rhwng y deyrnas honno a Stratclud (Ystrad Clud); efallai fod Aeron yn deyrnas annibynnol ar un adeg felly.

Cysylltir Aeron, trwy Urien a Chlydno, â llinach Coel Hen.

Cyfeiriadau[golygu]

  • Rachel Bromwich, 'Cynon fab Clydno', yn Astudiaethau ar yr Hengerdd (Caerdydd, 1978)
  • Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • John Davies et al (Cyd-olygyddion) Gwyddoniadur Cymru (Caerdydd 2008)
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Aeron
yn Wiciadur.