Bonedd Gwŷr y Gogledd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tiriogaethau Prydain 500-700

Testun achyddol Cymraeg Canol sy'n nodi llinach rhai o frenhinoedd ac arwyr yr Hen Ogledd yw Bonedd Gwŷr y Gogledd. Dim ond un copi o'r testun sydd ar glawr, yn llawysgrif Peniarth 45 (diwedd y 13g).

Ymrennir y testun yn ddwy brif ran. Yn y rhan gyntaf ceir llinachau'r Coeling, disgynyddion Coel Hen. Mae'n cynnwys Urien Rheged, Clydno Eiddin, Cynfelyn, Nudd, Llywarch Hen a Gwenddoleu. Yn yr ail ran ceir disgynyddion Dyfnwal Hen. Yno ceir rhestr o frenhinoedd o'r 5g. Mae'r enwau yn cynnwys Rhydderch Hael, Tudwal Tudclud, Elffin ap Gwyddno, Cawrdaf, Mordaf Hael, Elidir Mwynfawr a Macsen Wledig. Rhwng y ddwy ran hyn ceir triawd am y Coeling sy'n coffau gwroldeb arwyr o'r llwyth hwnnw.

Er bod y llinachau hyn yn gorffen gyda brenhinoedd y 6g, nid yw'n debygol fod y testun yn deillio o ddogfen o'r cyfnod hwnnw. Mae Kenneth Jackson wedi dadlau dros ddyddiad yn y 9g am gyfansoddi'r testun gwreiddiol. Wrth gwrs fe allai ffynonellau'r testun tybiedig hwnnw fod yn hŷn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir testun hwylus gyda nodiadau yn,

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991). Atodiad II.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]