Fflamddwyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Un o arweinwyr yr Eingl-Sacsoniaid yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn y 6g oedd Fflamddwyn. Llysenw yw 'Fflamddwyn' ("un sy'n dwyn neu'n cludo fflam/tân": enw addas ar ryfelwr) ac ni wyddys yn union pwy oedd ef. Y cwbl y gellir dweud amdano â sicrwydd yw ei fod yn un o arweinwyr yr Eingl-Sacsonaidd a geisiai sefydlu yn nheyrnas Frythonig Rheged, yn yr Hen Ogledd, yn amser Owain ab Urien, mab Urien Rheged.

Cyfeirir at Fflamddwyn mewn dwy gerdd gan Taliesin a gedwir yn Llyfr Taliesin. Yn y gerdd 'Gwaith Argoed Llwyfain', ymddengys fod Owain ab Urien yn arwain byddin ei dad Urien (a oedd erbyn hynny'n rhy hen i ymladd efallai) yn erbyn pedair byddin o Eingl-Sacsoniaid Bernicia a arweinir gan Fflamddwyn. Fe'i portreadir fel rhyfelwr trahaus, ymffrostgar.

Mae'r ail gerdd yn farwnad i Owain, yr hynaf yn y Gymraeg. Mewn pennill enwog dywedir fod Owain wedi lladd Fflamddwyn. Roedd mor hawdd iddo a syrthio i gysgu ac rwan mae nifer o'r gelyn yn "cysgu" â'u llygaid yn agored i olau'r dydd:

Pan laddodd Owain Fflamddwyn
Nid oedd fwy nog yd cysgaid;
Cysgid Lloegr, llydan nifer,
 lleufer yn eu llygaid.[1]

Cyfeirir ato hefyd yn un o Drioedd Ynys Prydain.[2] Dywedir fod ei wraig Bun yn un o 'Dair Anniwair Wraig Ynys Prydain', ond heb esbonio pam (testunau mnemonig yw'r Trioedd ac felly ymddengys fod chwedl amdani yn cylchredeg ar un adeg). Ceir ambell gyfeiriad ato yng ngwaith Beirdd y Tywysogion, mewn cerddi gan Llygad Gŵr, Cynddelw, a gan y Gogynfardd Gwilym Ddu.

Mae rhai hynafiaethwyr wedi cynnig uniaethu Fflamddwyn ag Ida, brenin Bernicia (Lewis Morris) neu ei fab Theodric (William Forbes Skene).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin, cerdd X 'Marwnad Owain', mewn orgraff ddiweddar).
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. new. 1991).