Bod dynol
Bod dynol | |
---|---|
Pâr o Wlad Tai yn cario planhigyn banana adref i fwydo'u moch. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Teulu: | Hominidae |
Genws: | Homo |
Rhywogaeth: | H. sapiens |
Isrywogaeth: | H. s. sapiens |
Enw trienwol | |
Homo sapiens sapiens Linnaeus, 1758 |
Bod dynol yw gair y gwyddonydd am ddyn. Person ydyw (neu "greadur deallus") sy'n perthyn i rywogaeth Homo sapiens; "human" yn Saesneg. Mae bod dynol yn greadur deudroed ac wedi'i osod yn y teulu biolegol a elwir yn Hominidae.[1][2] Mae tystiolaeth genynnol o ran DNA yn dangos mai cynefin neu darddle bodau dynol yw Affrica, ac iddynt ddod o'r fan honno tua 200,000 o flynydoedd yn ôl.
Mae gan fodau dynol ymennydd sydd wedi datblygu llawer pellach na gweddill anifeiliaid, yn fiolegol felly. Gall resymoli yn haniaethol, gall ymwneud ag iaith, mewnsyllu a datrus problemau fel maen nhw'n codi. Mae'r gallu ymenyddol hwn ynghyd â chorff fertigol, gyda breichiau rhydd i symud neu ddal a thrin erfyn yn ei alluogi i ddefnyddio arfau llawer mwy nag unrhyw anifail arall i amddiffyn ei hun, i weithio am fwyd neu i ymosod.
Mae bodau dynol wedi eu dosbarthu ar hyd a lled y ddaear ar wahân i Antartig. Mae poblogaeth y ddaear bellach yn fwy na 6.7 biliwn, (data Gorffennaf, 2008).[3] Un isrywogaeth sydd ar gael: Homo sapiens sapiens. Mae'n famal ac felly'n bwydo ei blant gyda llaeth.
Fel epaod, mae dyn yn gymdeithasol ei natur. Mae wedi mireinio'r grefft o gyfathrebu'n effeithiol er mwyn iddo fynegi ei hun, cyfnewid syniadau a threfnu gweithgareddau. Mae wedi creu strwythurau cymdeithasol cywrain a chymhleth o grwpiau sy'n cydweithio ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd; grwpiau mor wahanol â'r teulu a chenhedloedd. Mae'r cydymwneud hwn rhwng dyn a dyn wedi sefydlu dros y milenias diwethaf draddodiadau, defodau, moesau, gwerthoedd a safon dderbyniol gan gymdeithas drwy gyfundrefn o ddeddfau. Gall dyn werthfawrogi harddwch ac estheteg sydd ynghyd â'r awydd i fynegi ei hun wedi arwain at gelfyddyd, llenyddiaeth a cherddoriaeth.
Cynhanes Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Gellir dweud bod tri math o fod dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a phrotohanes):
- dyn Neanderthal cynnar yn Ogof Bontnewydd, ger Llanelwy – 225,000 CP;
- dyn Neanderthal clasurol yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin – 50,000 CP;
- bod dynol modern yn Ogof Paviland, Gŵyr – 26,000 CP.
Gwyddom hyn gan fod eu hesgyrn wedi'u canfod yno; dim ond llond dwrn o ddannedd yn Ogof Bontnewydd ac mae'r dystiolaeth yn gymharol brin.
Yn grynno[golygu | golygu cod y dudalen]
Homo sapiens. Daeth bodau dynol anatomegol fodern i'r amlwg tua 300,000 o flynyddoedd yn ôl yn Affrica, gan esblygu o Homo heidelbergensis a mudo allan o Affrica, gan ddisodli'n raddol perthnasau lleol hynafol. Am y rhan fwyaf o hanes, roedd pob bod dynol yn heliwr-gasglwyr crwydrol. Gwelodd y Chwyldro Neolithig, a ddechreuodd yn Ne-orllewin Asia tua 13,000 o flynyddoedd yn ôl, ymddangosiad amaethyddiaeth ac anheddiadau dynol parhaol. Wrth i boblogaethau ddod yn fwy ac yn fwy dwys, datblygodd mathau o lywodraethu o fewn cymunedau, a rhwng cymunedau, ac mae sawl gwareiddiad wedi codi, gostwng a diflanu. Mae nifer y bodau dynol wedi parhau i godi, gyda phoblogaeth fyd-eang o dros 7.9 biliwn ym mis Rhagfyr 2021.
Mae genynnau a'r amgylchedd yn dylanwadu ar amrywiaeth biolegol dynol - a hynny'n weladwy: yn ffisiolegol, yn tueddu i ddal clefydau'n aml, eu galluoedd meddyliol, maint y corff ac einioes (hyd oes person). Er yr amrywiaeth hwn, ac er bod bodau dynol yn amrywio mewn llawer o nodweddion mae genynau unrhyw ddau berson dros 99% yn union yr un fath. Mae bodau dynol yn ddeumorffig yn rhywiol: yn gyffredinol, mae dynion yn gryfach ac mae gan fenywod ganran uwch o fraster corff. Yn ystod glasoed, mae bodau dynol ('pobl' a ddywedir ar lafar ac yn gyffredin) yn datblygu nodweddion rhyw eilaidd ee bronnau'n chwyddo a chluniau llydan mewn merched, blew'r wyneb ac afal breuant (llwnc) mewn gwrywod, a chedor ar y ddau. O lasoed ymlaen, mae'r ferch hefyd yn cael misglwyf a gallant feichiogi; diwedd y cyfnod hwn yw'r menopos gan fod yn anffrwythlon pan fyddant tua 50 oed.
Mae bodau dynol yn hollysol, yn gallu bwyta amrywiaeth eang o ddeunydd planhigion ac anifeiliaid; maent wedi defnyddio tân a mathau eraill o wres i baratoi a choginio bwyd ers cyfnod H. erectus. Gallant oroesi am hyd at wyth wythnos heb fwyd, a thri neu bedwar diwrnod heb ddŵr. Mae pobl, fel arfer, yn effro'n ystod y dydd ac yn cysgu rhwng 7 a 9 awr ar gyfartaledd fin nos. Mae genedigaeth yn gyfnod peryglus, gyda risg uchel o gymhlethdodau a marwolaeth. Yn aml, mae'r fam a'r tad yn darparu gofal i'w plant, sy'n gwbwl ddiymadferth pan cant eu geni.
Mae gan fodau dynol cortecs cyndalcennol (prefrontal cortex) mawr a hynod ddatblygedig, dyma'r rhan o'r ymennydd sy'n gysylltiedig â gwybyddiaeth uwch. Maent yn ddeallus, yn gallu cofio pethau, mae eu hwynebau'n mynegi eu teimladau, maent yn hunanymwybol ac cheir damcaniaeth darogan meddwl, sef y gallu i ddeall pobl eraill trwy roi cyflyrau meddyliol iddynt ee credoau, dyheadau, bwriadau, emosiynau a meddyliau. Mae'r meddwl dynol yn gallu mewnsyllu, meddwl yn breifat, dychmygu, ewyllysio a ffurfio barn ar fodolaeth. Daeth y datblygiad enfawr hwn oherwydd rheswm a thrwy drosglwyddo gwybodaeth o genedlaeth i genhedlaeth. Ymhlith y nodweddion dynol eraill y mae iaith, celf a masnach. Mae'n bosib fod llwybrau-masnach hir fod wedi arwain at sawl ffrwydrad diwylliannol.

Etymology a diffiniad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae pob bod dynol modern yn rhywogaeth o Homo sapiens, gair a fathwyd gan Carl Linnaeus yn ei waith Systema Naturae o'r 18g.[4] Mae'r enw generig "Homo" yn tarddu o'r 18g o'r Lladin homō, sy'n cyfeirio at fodau dynol o'r naill ryw neu'r llall.[5] Gall y gair dynol gyfeirio at bob aelod o'r genws Homo,[6] er ei fod yn gyffredin yn gyffredinol yn cyfeirio at Homo sapiens, yr unig rywogaeth sy'n bodoli.[7] Mae'r enw "Homo sapiens" yn golygu 'dyn doeth' neu 'ddyn gwybodus'.[8] Ceir anghytundeb a ddylid cynnwys aelodau diflanedig o'r genws, sef y Neanderthaliaid, fel isrywogaeth o H. sapiens ai peidio.[6]
O'r gair Celteg donio y daw'r gair Cymraeg dyn, sy'n debyg i den (Llydaweg), duine (Gwyddeleg). Mae'r geiriau hyn yn cyfeirio at bobl o'r ddau ryw, nid dyn yn unig. Mae'r dywedaid Beiblaidd enwog, 'Pa beth yw dyn i ti i'w gofio, a mab dyn i ti ymweled ag ef? yn cyfeirio at y ddynoliaeth gyfan, nid at wrywod yn unig.
Esblygiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Epaod yw bodau dynol (uwchdeulu'r Hominoidea).[9] Y giboniaid (teulu'r Hylobatidae) a'r orangutaniaid (y genws: Pongo) oedd y grwpiau byw cyntaf i wahanu oddi wrth y llinach hon, yna gorilod, ac yn olaf, y tsimpansî (y genws Pan). Gosodir dyddiad y gwahanu hwn rhwng llinachau dynol a tsimpansî 8–4 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod yr epoc hwyr Miosen,[10][11][12] gyda rhai genetegwyr yn cyfyngu'r cyfnod ymhellach, i rhwng 8–7 miliwn ofyo (CP).[13] Dyma'r cyfnod pan ffurfiwyd cromosom 2 drwy uno dau gromosom arall, gan adael bodau dynol gyda dim ond 23 pâr o gromosomau, o'i gymharu â 24 ymhob epa arall.[14]
Esblygodd y genws Homo o Australopithecus.[15][16] Er bod ffosilau o'r trawsnewidiad yn brin, mae aelodau cynharaf Homo yn rhannu sawl nodwedd allweddol ag Australopithecus.[17][18] Y cofnod cynharaf o Homo yw’r sbesimen LD 350-1 2.8 miliwn oed o Ethiopia, a’r rhywogaethau cynharaf a enwyd yw Homo habilis a Homo rudolfensis a esblygodd 2.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[18] Esblygodd H. erectus (weithiau gelwir yr amrywiad Affricanaidd hwn yn H. ergaster) 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl a hwn oedd y rhywogaeth ddynol hynafol gyntaf i adael Affrica a gwasgaru ar draws Ewrasia.[19] H. erectus hefyd oedd y cyntaf i ddatblygu cynllun corff sy'n nodweddiadol o berson modern.
Hominoidea (hominoids, epaod) |
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Daeth Homo sapiens i'r amlwg yn Affrica tua 300,000 o flynyddoedd yn ôl o rywogaeth a ddynodwyd yn gyffredin naill ai fel H. heidelbergensis neu H. rhodesiensis, disgynyddion yr H. erectus a arhosodd yn Affrica. Ymfudodd H. sapiens allan o'r cyfandir, gan ddisodli'r poblogaethau lleol o bobl hynafol yn raddol.[20][21][22]
Digwyddodd yr ymfudiad “allan o Affrica” mewn o leiaf dwy don, gyda'r don gyntaf tua 130,000 i 100,000 o flynyddoedd CP, a’r ail (Gwasgariad y De) tua 70,000 i 50,000 o flynyddoedd yn ôl.[23] [24] Aeth H. sapiens ymlaen i wladychu'r holl gyfandiroedd a'r ynysoedd mwy, gan gyrraedd Ewrasia 60,000 o flynyddoedd yn ôl,[25][26] Awstralia tua 65,000 o flynyddoedd yn ôl,[27] America tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl, ac ynysoedd anghysbell megis Hawaii, Ynys y Pasg, Madagasgar, a Seland Newydd rhwng 300 a 1280 OC.[28][29]
Nid dilyniant llinellol neu ganghennog syml oedd esblygiad dynol ond roedd yn cynnwys rhyngfridio rhwng rhywogaethau agos.[30][31][32] Mae ymchwil genomig wedi dangos bod croesrywio rhwng llinachau gwahanol yn gyffredin mewn esblygiad dynol.[33] Mae tystiolaeth DNA yn awgrymu bod sawl genyn o darddiad Neanderthalaidd yn bresennol ymhlith yr holl boblogaethau nad ydynt yn Affrica, ac mae'n bosibl bod Neanderthaliaid a homininau eraill, megis Denisovaniaid, wedi cyfrannu hyd at 6% o'u genom i fodau dynol heddiw.[30][34][35]
Nodweddir esblygiad dynol gan nifer o newidiadau morffolegol, datblygiadol, ffisiolegol ac ymddygiadol sydd wedi digwydd ers y rhaniad rhwng hynafiad cyffredin olaf pobl a'r tsimpansî. Y mwyaf arwyddocaol o'r addasiadau hyn yw cerdded ar ddeudroed, ymennydd mwy o faint, a llai o wahaniaeth mewn dimorphism rhywiol. Mae’r berthynas rhwng yr holl newidiadau hyn yn destun dadl barhaus.[36]
Cynefin a phoblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd aneddiadau dynol cynnar yn dibynnu ar agosrwydd at ddŵr ac adnoddau naturiol eraill a ddefnyddiwyd ar gyfer cynhaliaeth, megis poblogaethau o ysglyfaeth, anifeiliaid ar gyfer hela, a thir âr ar gyfer tyfu cnydau a phori anifeiliaid dof. Fodd bynnag, mae gan fodau dynol modern allu mawr i newid eu cynefinoedd trwy gyfrwng technoleg, dyfrhau, cynllunio trefol, adeiladu, datgoedwigo a diffeithdiro.[37]
Mae aneddiadau dynol yn parhau i fod yn agored i drychinebau naturiol, yn enwedig y rhai a leolir mewn lleoliadau peryglus ac sydd ag ansawdd adeiladu isel. Mae grwpio a newid cynefinoedd yn fwriadol yn aml yn cael ei wneud gyda'r nodau o ddarparu amddiffyniad, cronni cysuron neu gyfoeth materol, ehangu'r bwyd sydd ar gael, gwella estheteg, cynyddu gwybodaeth neu wella cyfnewid adnoddau.[38]
Mae bodau dynol yn un o'r rhywogaethau gorau am addasu i'w cynefin a'u hinsawdd.[39] Trwy ddyfeisio a newid eu ffyrdd, mae bodau dynol wedi gallu ymestyn eu goddefgarwch i amrywiaeth eang o dymheredd, lleithder ac uchder.[39] O ganlyniad, mae bodau dynol yn rhywogaeth gosmopolitan a geir ym mron pob rhanbarth o'r Ddaear gan gynnwys coedwig law drofannol, anialwch crasboeth, rhanbarthau arctig hynod o oer, a dinasoedd llygredig iawn. Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau eraill wedi'u cyfyngu i rai ardaloedd daearyddol gan fod eu gallu i addasu'n gyfyngedig.[40]
Fodd bynnag, nid yw'r boblogaeth pobl dros y blaned, wedi'i dosbarthu'n unffurf ar wyneb y Ddaear, oherwydd bod dwysedd y boblogaeth yn amrywio o un rhanbarth i'r llall ac mae ardaloedd eang bron yn gyfan gwbl anghyfannedd, e.e. Antarctica a'r cefnforoedd.[39][41]
Mae'r rhan fwyaf o bobl (61%) yn byw yn Asia; mae'r gweddill yn byw yn yr Americas (14%), Affrica (14%), Ewrop (11%), ac Ynysoedd y De (0.5%).[42]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Hanes cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyd at tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd pob person ar wyneb y Ddaear yn byw fel helwyr-gasglwyr.[43]
Digwyddodd y Chwyldro Neolithig (cychwyn amaethyddiaeth) gyntaf yn Ne-orllewin Asia ac ymledodd trwy rannau helaeth o'r Hen Fyd dros y milenia canlynol.[44]
Digwyddodd hefyd yn annibynnol ym Mesoamerica (tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl),[45] Tsieina, [46][47] Papua Gini Newydd,[48] a rhanbarthau Sahel a Gorllewin Savanna yn Affrica.[49][50][51] Arweiniodd mynediad at fwyd dros ben at ffurfio aneddiadau dynol parhaol, dofi anifeiliaid a defnyddio offer metel am y tro cyntaf mewn hanes. Arweiniodd amaethyddiaeth a ffordd o fyw eisteddog at ymddangosiad gwareiddiadau cynnar.[52][53][54]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ M. Goodman, D. Tagle, D. Fitch, W. Bailey, J. Czelusniak, B. Koop, P. Benson, J. Slightom (1990). Primate evolution at the DNA level and a classification of hominoids, Cyfrol 30, Rhifyn 3, tud. 260. DOI:10.1007/BF02099995
- ↑ Hominidae Classification. University of Michigan Museum of Zoology.
- ↑ World POPClock Projection. U.S. Census Bureau, Population Division/International Programs Center (2008-07-05).
- ↑ "Know Thyself: Responsible Science and the Lectotype of Homo sapiens Linnaeus, 1758". Proceedings of the Academy of Natural Sciences 149 (1): 109–14. 29 January 1999. JSTOR 4065043.
- ↑ Porkorny (1959) s.v. "g'hðem" pp. 414–16; "Homo."
- ↑ 6.0 6.1 "We don't know which species should be classed as 'human'". www.bbc.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-31.
- ↑ "Definition of HUMAN". www.merriam-webster.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-31.
- ↑ Spamer, Earle E. (1999). "Know Thyself: Responsible Science and the Lectotype of Homo sapiens Linnaeus, 1758". Proceedings of the Academy of Natural Sciences of Philadelphia 149: 109–114. ISSN 0097-3157. JSTOR 4065043. https://www.jstor.org/stable/4065043.
- ↑ Tuttle, Russell H. (2018-10-04). "Hominoidea: conceptual history". In Trevathan, Wenda; Cartmill, Matt; Dufour, Dana; Larsen, Clark (gol.). International Encyclopedia of Biological Anthropology (yn Saesneg). Hoboken, New Jersey, United States: John Wiley & Sons, Inc. tt. 1–2. doi:10.1002/9781118584538.ieba0246. ISBN 978-1-118-58442-2.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ "Evolution of the Genus Homo". Annual Review of Earth and Planetary Sciences 37 (1): 67–92. 2009. Bibcode 2009AREPS..37...67T. doi:10.1146/annurev.earth.031208.100202.
- ↑ "Primate evolution at the DNA level and a classification of hominoids". Journal of Molecular Evolution 30 (3): 260–6. March 1990. Bibcode 1990JMolE..30..260G. doi:10.1007/BF02099995. PMID 2109087.
- ↑ "Molecular phylogeny of the hominoids: inferences from multiple independent DNA sequence data sets". Molecular Biology and Evolution 14 (3): 248–65. March 1997. doi:10.1093/oxfordjournals.molbev.a025761. PMID 9066793.
- ↑ Brahic, C. (2012). "Our True Dawn". New Scientist 216 (2892): 34–37. Bibcode 2012NewSc.216...34B. doi:10.1016/S0262-4079(12)63018-8.
- ↑ "Human Chromosome 2 is a fusion of two ancestral chromosomes". Evolution pages. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 August 2011. Cyrchwyd 18 May 2006.
- ↑ Strait, David S. (September 2010). "The Evolutionary History of the Australopiths" (yn en). Evolution: Education and Outreach 3 (3): 341–352. doi:10.1007/s12052-010-0249-6. ISSN 1936-6434. https://evolution-outreach.biomedcentral.com/articles/10.1007/s12052-010-0249-6.
- ↑ Dunsworth, Holly M. (September 2010). "Origin of the Genus Homo" (yn en). Evolution: Education and Outreach 3 (3): 353–366. doi:10.1007/s12052-010-0247-8. ISSN 1936-6434. https://evolution-outreach.biomedcentral.com/articles/10.1007/s12052-010-0247-8.
- ↑ Kimbel, W. H.; Villmoare, B (2016). "From Australopithecus to Homo: the transition that wasn't". Philosophical Transactions of the Royal Society B 371 (1698): 20150248. doi:10.1098/rstb.2015.0248. PMID 27298460.
- ↑ 18.0 18.1 Villmoare, B.; Kimbel, W. H.; Seyoum, C. (2015). "Early Homo at 2.8 Ma from Ledi-Geraru, Afar, Ethiopia". Science 347 (6228): 1352–1355. Bibcode 2015Sci...347.1352V. doi:10.1126/science.aaa1343. PMID 25739410.
- ↑ Zhu, Zhaoyu; Dennell, Robin; Huang, Weiwen; Wu, Yi; Qiu, Shifan; Yang, Shixia; Rao, Zhiguo; Hou, Yamei et al. (2018). "Hominin occupation of the Chinese Loess Plateau since about 2.1 million years ago". Nature 559 (7715): 608–612. Bibcode 2018Natur.559..608Z. doi:10.1038/s41586-018-0299-4. PMID 29995848. https://www.nature.com/articles/s41586-018-0299-4.
- ↑ "Out of Africa Revisited". Science 308 (5724): 921. May 13, 2005. doi:10.1126/science.308.5724.921g. ISSN 0036-8075.
- ↑ "Human evolution: Out of Ethiopia". Nature 423 (6941): 692–3, 695. June 2003. Bibcode 2003Natur.423..692S. doi:10.1038/423692a. PMID 12802315.
- ↑ "Origins of Modern Humans: Multiregional or Out of Africa?". actionbioscience. Washington, DC: American Institute of Biological Sciences. May 2001. Cyrchwyd November 23, 2009.
- ↑ "Pleistocene Mitochondrial Genomes Suggest a Single Major Dispersal of Non-Africans and a Late Glacial Population Turnover in Europe". Current Biology 26 (6): 827–33. March 2016. doi:10.1016/j.cub.2016.01.037. PMID 26853362.
- ↑ "A recent bottleneck of Y chromosome diversity coincides with a global change in culture". Genome Research 25 (4): 459–66. April 2015. doi:10.1101/gr.186684.114. PMC 4381518. PMID 25770088. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4381518.
- ↑ "The southern route "out of Africa": evidence for an early expansion of modern humans into Arabia". Science 331 (6016): 453–6. January 2011. Bibcode 2011Sci...331..453A. doi:10.1126/science.1199113. PMID 21273486. http://www.sciencenews.org/view/generic/id/69197/title/Hints_of_earlier_human_exit_from_Africa. Adalwyd 1 May 2011.
- ↑ "Humans 'left Africa much earlier'". BBC News. 27 January 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 August 2012.
- ↑ "Human occupation of northern Australia by 65,000 years ago". Nature 547 (7663): 306–310. July 2017. Bibcode 2017Natur.547..306C. doi:10.1038/nature22968. PMID 28726833.
- ↑ "Polynesian settlement of New Zealand and the impacts of volcanism on early Maori society: an update" (PDF). University of Waikato. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 22 May 2010. Cyrchwyd 29 April 2010.
- ↑ "Human migrations: Eastern odyssey". Nature 485 (7396): 24–6. May 2012. Bibcode 2012Natur.485...24A. doi:10.1038/485024a. PMID 22552074.
- ↑ 30.0 30.1 "Genetic history of an archaic hominin group from Denisova Cave in Siberia". Nature 468 (7327): 1053–60. December 2010. Bibcode 2010Natur.468.1053R. doi:10.1038/nature09710. PMC 4306417. PMID 21179161. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4306417.
- ↑ "Human Hybrids". Scientific American 308 (5): 66–71. May 2013. Bibcode 2013SciAm.308e..66H. doi:10.1038/scientificamerican0513-66. PMID 23627222. http://www.grochbiology.org/EarlyHominidInterbreeding.pdf.
- ↑ "Mosaic humans, the hybrid species". New Scientist 211 (2823): 34–38. July 2011. Bibcode 2011NewSc.211...34Y. doi:10.1016/S0262-4079(11)61839-3.
- ↑ "The Hybrid Origin of "Modern" Humans". Evolutionary Biology 43 (1): 1–11. October 2015. doi:10.1007/s11692-015-9348-1.
- ↑ "Neanderthal genomics and the evolution of modern humans". Genome Research 20 (5): 547–53. May 2010. doi:10.1101/gr.076000.108. PMC 2860157. PMID 20439435. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2860157.
- ↑ "The shaping of modern human immune systems by multiregional admixture with archaic humans". Science 334 (6052): 89–94. October 2011. Bibcode 2011Sci...334...89A. doi:10.1126/science.1209202. PMC 3677943. PMID 21868630. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3677943.
- ↑ How Humans Evolved. New York City: Norton. 2003. ISBN 978-0-393-97854-4.
- ↑ Rector RK (2016). The Early River Valley Civilizations (arg. First). New York, NY. t. 10. ISBN 978-1-4994-6329-3. OCLC 953735302.
- ↑ Habitat UN (2013). The state of the world's cities 2012 / prosperity of cities. [Llundain]: Routledge. tt. x. ISBN 978-1-135-01559-6. OCLC 889953315.
- ↑ 39.0 39.1 39.2 Piantadosi CA (2003). The biology of human survival : life and death in extreme environments. Oxford: Oxford University Press. tt. 2–3. ISBN 978-0-19-974807-5. OCLC 70215878.
- ↑ O'Neil D. "Human Biological Adaptability; Overview". Palomar College. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 March 2013. Cyrchwyd 6 January 2013.
- ↑ "Population distribution and density". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 June 2017. Cyrchwyd 26 June 2017.
- ↑ "Basic principles and ecological consequences of altered flow regimes for aquatic biodiversity". Environmental Management 30 (4): 492–507. October 2002. doi:10.1007/s00267-002-2737-0. PMID 12481916.
- ↑ Garcea E (2013-07-04). Hunter-Gatherers of the Nile Valley and the Sahara Before 12,000 Years Ago. Oxford University Press. doi:10.1093/oxfordhb/9780199569885.013.0029.
- ↑ Colledge S, Conolly J, Dobney K, Manning K, Shennan S (2013). Origins and Spread of Domestic Animals in Southwest Asia and Europe. Walnut Creek: Left Coast Press. tt. 13–17. ISBN 978-1-61132-324-5. OCLC 855969933.
- ↑ Scanes CG (January 2018). "The Neolithic Revolution, Animal Domestication, and Early Forms of Animal Agriculture". In Scanes CG, Toukhsati SR (gol.). Animals and Human Society. tt. 103–131. doi:10.1016/B978-0-12-805247-1.00006-X. ISBN 9780128052471.
- ↑ "Prehistoric evolution of the dualistic structure mixed rice and millet farming in China". The Holocene 27 (12): 1885–1898. 7 June 2017. Bibcode 2017Holoc..27.1885H. doi:10.1177/0959683617708455. https://www.researchgate.net/publication/317400332.
- ↑ "Earliest domestication of common millet (Panicum miliaceum) in East Asia extended to 10,000 years ago". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 106 (18): 7367–72. May 2009. Bibcode 2009PNAS..106.7367L. doi:10.1073/pnas.0900158106. PMC 2678631. PMID 19383791. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2678631.
- ↑ "Origins of agriculture at Kuk Swamp in the highlands of New Guinea". Science 301 (5630): 189–93. July 2003. doi:10.1126/science.1085255. PMID 12817084.
- ↑ "Yam genomics supports West Africa as a major cradle of crop domestication". Science Advances 5 (5): eaaw1947. May 2019. Bibcode 2019SciA....5.1947S. doi:10.1126/sciadv.aaw1947. PMC 6527260. PMID 31114806. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6527260.
- ↑ "Evidence for Sorghum Domestication in Fourth Millennium BC Eastern Sudan: Spikelet Morphology from Ceramic Impressions of the Butana Group". Current Anthropology 58 (5): 673–683. October 2017. doi:10.1086/693898. https://discovery.ucl.ac.uk/id/eprint/1574602/7/Fuller_693898.pdf.
- ↑ "4500-Year old domesticated pearl millet (Pennisetum glaucum) from the Tilemsi Valley, Mali: new insights into an alternative cereal domestication pathway". Journal of Archaeological Science 38 (2): 312–322. February 2011. doi:10.1016/j.jas.2010.09.007.
- ↑ Noble TF, Strauss B, Osheim D, Neuschel K, Accamp E (2013). Cengage Advantage Books: Western Civilization: Beyond Boundaries. ISBN 978-1-285-66153-7. Cyrchwyd 11 July 2015.
- ↑ Spielvogel J (1 January 2014). Western Civilization: Volume A: To 1500. Cenpage Learning. ISBN 978-1-285-98299-1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 September 2015. Cyrchwyd 11 July 2015.
- ↑ Thornton B (2002). Greek Ways: How the Greeks Created Western Civilization. San Francisco, CA: Encounter Books. tt. 1–14. ISBN 978-1-893554-57-3.