Yr Antarctig
Delwedd loeren gyfansawdd o'r Antarctig | |
Arwynebedd | 14 000 000 km² (280 000 km² di-rew, 13 720 000 km² rhewedig) |
Poblogaeth | ~1000 (ychydig dros gant yn arhosol) |
Llywodraeth | yn cael ei reoli gan Gytundeb yr Antarctig |
Ceisiadau Tiriogaethol Rhannol | ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
Côd ISO | .aq |
Côd ffôn | +672 |
Yr Antarctig yw cyfandir mwyaf deheuol y Ddaear, ac mae'n cynnwys Pegwn y De daearyddol. Fe'i lleolir, felly, yn Hemisffer y De - i'r de o Gylch yr Antartig, gyda Chefnfor y De yn ei amgylchynu. Caiff ei reoli dan amodau Cytundeb yr Antarctig. Ceir iâ dros 98% ohono a hwnnw'n 1.9 km (1.2 mi; 6,200 tr) o drwch, ar gyfartaledd.[1] ceir ychydig o dir yn y rhan gogleddol eithaf.
Mae ei arwynebedd yn 14,000,000 kilometr sgwâr (5,400,000 milltir sgwâr), a'r cyfandir hwn yw'r 5ed mwyaf: ar ôl Asia, Affrica, gogledd America a De America. Mewn cymhariaeth mae Antartica oddeutu dwywaith yn fwy nag Awstralia.
Ar gyfartaledd yrAntartig yw'r cyfandir oeraf, sychaf a mwyaf gwyntog. Mae cyfartaledd ei uchter (uwch y môr) yn uwch nag unrhyw gyfandir arall.[2] Gellir diffion Antarctig yn "ddiffeithwch", gyda glawiad o ddim ond 200 mm (8 mod) ar yr arfordir a llai nahynny i fewn i'r tir mawr.[3] Mae'r tymheredd yn amrywio: gostyngodd i −89.2 °C (−128.6 °F) ychydig yn ôl, ond mae'r tymheredd fel arfer rhwng yn y trydych chwarter (y chwarter oeraf o'r flwyddyn) yn −63 °C (−81 °F).
Yn 2016 roedd 135 o bobl yn byw yno'n barhaol, ond ceir rhwng 1,000 a 5,000 yn byw yno'n achlysurol: y rhan fwyaf yn y gorsafoedd ymchwil. mae'r rhan fwyaf yn wyddonwyr sy'n astudio algae, bacteria, ffwng, planhigion, protista, ac anifeiliaid fel chwain, nematodeau, pengwiniaid, morloi a tardigradau.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhanbarthau'r Ddaear | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
| ||||||||||||||||||||||||
Gweler hefyd: Cyfandiroedd y Ddaear |
- ↑ British Antarctic Survey. "Bedmap2: improved ice bed, surface and thickness datasets for Antarctica" (PDF). The Cryosphere journal: 390. http://www.the-cryosphere.net/7/375/2013/tc-7-375-2013.pdf. Adalwyd 6 Ionawr 2014.
- ↑ National Satellite, Data, and Information Service. "National Geophysical Data Center". Government of the United States. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2006. Cyrchwyd 9 Mehefin 2006. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: uses authors parameter (link) - ↑ Joyce, C. Alan (18 Ionawr 2007). "The World at a Glance: Surprising Facts". The World Almanac. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2009. Cyrchwyd 7 Chwefror 2009. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)