Morlo

Oddi ar Wicipedia
Morloi
Morlo manflewog yr Antarctig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Is-urdd: Caniformia
Uwchdeulu: Pinnipedia
Illiger, 1811
Teuluoedd

Otariidae (morlewod a morloi manflewog)
Phocidae (gwir forloi)
Odobenidae (morlo ysgithrog neu walrws)

Mamaliaid sydd yn byw yn y môr yw morloi. Maen nhw'n nofio yn dda iawn ac fel arfer yn bwyta pysgod.

Ceir dau rywogaeth o forlo o gwmpas arfordir Cymru: y Morlo Llwyd (Halichoerus grypus) a'r Morlo Cyffredin (Phoca vitulina). Er gwaethaf yr enw, y Morlo llwyd yw'r mwyaf cyffredin o'r ddau. Mae traean (33.3%) o boblogaeth y byd i'w gweld ar arfordir Dyfed.

Mae'r morlo llwyd yn bridio mewn ogofâu ar arfordiroedd ac ynysoedd Penfro, Ceredigion, Llŷn a Môn. Roedd yn weddol brin ddechrau'r 20g oherwydd fe'u difawyd gan bysgotwyr a'u hela o ran difyrrwch. Cynyddodd eu niferoedd yn sgil Deddf i'w gwarchod yn 1932 a throi ynysoedd Penfro yn warchodfeydd natur.

Crwydrodd rhai morloi ifanc, a anwyd ac a fodrwywyd ym Mhenfro, cyn belled â Môn, gorllewin Iwerddon, Cernyw, Llydaw a Gwlad y Basg. Weithiau nofiai'r morlo i fyny afonydd, er enghraifft Glaslyn, Tywi, er mawr bryder i bysgotwyr eogiaid. Ystyrir eu galwadau cwynfanllyd yn arwyddion tywydd gan drigolion yr arfordir. Cyfeirir at forloi mewn enwau lleoedd, er enghraifft. Ogo'r morloi (ynys Enlli), Ynysoedd y moelrhoniaid (Môn).

Prin iawn yw cofnodion o'r morlo cyffredin (Phoca vitulina) yng Nghymru - fe'i gwelir ym Môr Hafren yn bennaf. Cafwyd corff morlo ysgithrog neu walrws ar draeth Cefn Sidan yn Nhachwedd 1986.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).



Chwiliwch am morlo
yn Wiciadur.