Pannotia

Oddi ar Wicipedia
Y ddaear 550 miliwn o flynyddoedd yn ôl

Mae Pannotia, a ddisgrifiwyd am y tro cyntaf gan Ian W. D. Dalziel yn 1997, yn uwchgyfandir damcaniaethol a fodolai o gyfnod yr orogeni Pan-Affricanaidd 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd ddiwedd y cyfnod Cyn-gambriaidd 540 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Fe'i gelwir hefyd yr uwchgyfandir Vendiaidd.

Tua 750 miliwn o fynyddoedd yn ôl, torrodd yr uwchgyfandir blaenorol Rodinia i fyny'n dri chyfandir:

Cylchdroes Protolawrasia i'r de i gyfeiriad Pegwn y De. Cylchdroes Protogondwana wrthglocweddol. Ymddangosodd craton Congo rhwng Protogondwana a Protolawrasia tua 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl gan ffurfio Pannotia. Gan fod cymaint o iâ o gwmpas y pegynnau, mae'r dystiolaeth yn awgrymu y ceid mwy o rewlifoedd yn y cyfnod hwnnw nag yn ystod unrhyw gyfnod arall yn hanes daearegol y ddaear.

Byr fu parhad Pannotia. Gwrthdrawiadau braidd-gyffyrddol oedd y rhai a ffurfiasant Pannotia, ac eisoes roedd egin-gyfandiroedd Pannotia yn dechrau rifftio. O fewn 60 miliwn o flynyddoedd ar ôl ffurfio Pannotia, sef tua 540 o flynyddoedd yn ôl, torrodd Pannotia i fyny yn bedwar cyfandir: Lawrentia, Baltica, Siberia a Gondwana. Yn nes ymlaen, byddai'r eangdiroedd newydd a ddeilliasant o'r broses honno yn aduno i ffurfio'r uwchgyfandir mwyaf diweddar, Pangaea.

Enw arall ar yr uwchgyfandir y credir ei fod yn bodoli ar ddiwedd y cyfnod Newydd-broterosoïg yw "Gondwana Fwyaf" (neu "Gondwanaland Fwyaf"). Mae'r term hwnnw'n cydnabod fod yr uwchgyfandir Gondwana, a ffurfiasai ar ddiwedd y Newydd-brotoseroïg, yn rhan o'r uwchgyfandir Newydd-brotoseroïg Diweddar llawer mwy sylweddol.

Roedd Pannotia yn edrych fel "V" sy'n wynebu i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain. Y tu mewn i'r "V" honno yr oedd y Cefnfor Panthalassig, a agorodd allan yn ystod torri i fyny Rodinia, cefnfor y byddai'r rhan fwyaf ohono'n ffurfio'r Cefnor Tawel yn nes ymlaen. Yng nghanol y Cefnfor Panthalassig ceir crib canol môr. Y tu allan i'r "V" yr oedd cefnfor hynafol tra mawr a enwir y Cefnfor Panaffricanaidd a amgylchynnai Pannotia, efallai, yn gyfateb i'r Cefnfor Panthalassig a oedd i ddod.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • image Delwedd Pannotia.
  • [1] Daeareg a bioleg Cyn-gambriaidd.