Affrica-Ewrasia
Gwedd
| Enghraifft o: | uwchgyfandir, cyfandir, ehangdir |
|---|---|
| Rhan o | wyneb y Ddaear, y Ddaear |
| Dechreuwyd | Mileniwm 21. CC |
| Yn cynnwys | Affrica, Ewrasia, Asia, Afro-Asia, Ewrop |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0z39 |

Uwch-gyfandir mwyaf y byd yw Affrica-Ewrasia. Mae'n cynnwys tri chyfandir, sef Affrica, Asia ac Ewrop (ystyrir y ddau olaf yn eu tro yn un cyfandir mawr gan rai daearyddwyr, sef Ewrasia). Enw arall ar Affrica-Ewrasia a ddefnyddir yn aml, yn enwedig mewn cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol, yw "Yr Hen Fyd", mewn cyferbyniaeth â'r Amerig, sef "Y Byd Newydd". Y rheswm am hynny yw bod hanes y ddynolryw yn cychwyn yn yr Hen Fyd, yn nyffrynnoedd Dwyrain Affrica.