Pangaea

Oddi ar Wicipedia
Diagram i ddangos gwahanu Pangaea a symudiad y cyfandiroedd hynafol i'w safle presennol (gwaelod y llun). Mae'r rhif ar waelod pob map yn cyfeirio at 'miliwn o flynyddoedd cyn y presennol'.
Map o Pangaea

Pangaea neu Pangea (o Παγγαία, Hen Roeg am 'cyfanfyd' neu 'byd cyfan') yw'r enw a roddir ar yr uwchgyfandir y credir iddo fodoli yn ystod y cyfnodau Paleosoïg a Mesosoïg, cyn i broses tectoneg platiau wahanu'r cyfandiroedd cyfansoddol i'w dosbarthiad presennol. Ymddengys mai'r Almaenwr Alfred Wegener, prif ddamcaniaethydd damcaniaeth llifo cyfandirol, a ddefnyddiodd yr enw am y tro cyntaf, yn 1920.

Yn strwythurol, credir mai ehangdir anferth ag iddi siap cryman a ymledodd dros y Gyhydedd oedd Pangaea. Enwir y dyfroedd y credir iddynt fod yn amgaeëdig yn y gryman honno Môr Tethys. Oherwydd maint anferth Pangaea, ymddengys mai sych iawn oedd ei ardaloedd mewnol oherwydd diffyg glaw. Yn ddamcaniaethol, byddai'r uwchgyfandir mawr hwnnw yn galluogi anifeiliad y tir i fudo heb rwystr yr holl ffordd o Begwn y De i Begwn y Gogledd.

Gelwir y cefnfor anferth a amgylchynnai uwchgyfandir Pangaea ar un adeg yn Banthalassa.

Credir i Bangaea dorri i fyny tua 180 miliwn o flynyddoedd yn ôl (mya) yn ystod y cyfnod Jwrasig, yn gyntaf yn ddau uwchgyfandir (Gondwana i'r de a Laurasia i'r gogledd), ac yna yn gyfandiroedd yn yr ystyr sy'n gyfarwydd i ni heddiw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]