Jwrasig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyfnod Jwrasig
199.6–145.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr ca. 26 Cyfaint %[1]
(130 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr ca. 1950 rhan / miliwn[2]
(7 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb ca. 16.5 °C[3]
(3 °C uwch na'r lefel heddiw)


Diagram i ddangos gwahanu Pangaea a symudiad y cyfandiroedd hynafol i'w safle presennol (gwaelod y llun). Mae'r rhif ar waelod pob map yn cyfeirio at 'miliwn o flynyddoedd cyn y presennol' (CP).

Cyfnod daearegol yw'r Jwrasig (neu Jurasig)[4][5] sy'n ymestyn am tua 50 miliwn o flynyddoedd - o 201.3± 0.6 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) hyd at 145± 4;[6] sef o ddiwedd y cyfnod Triasig i gychwyn y cyfnod Cretasaidd. Dyma felly y cyfnod a adnabyddir fel canol yr Era Mesosöig (neu 'Oes yr Ymlusgiaid').

Nodir cychwyn y cyfnod Jurasig gan y digwyddiad difodiant Triasig-Jurasig anferthol (Saesneg: Triassic–Jurassic extinction event). Bu dau ddigwyddiad pwysig arall yn ystod y cyfnod hwn:

  • y Pliensbachian / Toarcian ar ddechrau'r Triasig a'r
  • Tithonian Hwyr ar ei ddiwedd.

Fodd bynnag, nid yw'r naill na'r llall yn cael eu rhestru ar "Restr y Pum Difodiant Mawr".

Enwir y Jurasig ar ôl mynyddoedd y Jura, yn yr Alpau, ble adnabuwyd strata calch o'r cyfnod hwn am y tro cyntaf. Alexander von Humboldt oedd y daearegydd a wnaeth y dargafyddiad hwn, gan ei alw'n "Jura-Kalkstein" ('Calchfaen y Jwra') yn 1799.[7][8][9][10] The name "Jura" is derived from the Celtic root *jor via Gaulish *iuris "wooded mountain", which, borrowed into Latin as a place name, evolved into Juria and finally Jura.[8][9][11]


Ar ddechrau'r Jwrasig, dechreuodd yr uwch-gyfandir Pangaea ymranu'n ddwy ran: Laurasia i'r gogledd a Godwana i'r de. Oherwydd cynnydd yn yr arfordir ar y blaned, trodd yr hinsawdd o un sych i un gwlyb a llaith, a throdd sawl anialwch cras a diffaith yn fforestydd glaw gwyrddlas a llawn bywyd. Daeth y deinosor i ddominyddu'r Ddaear ac ymddangosodd yr aderyn cyntaf yn ystod y Jurasic o gangen tacsonomegol o'r deinosor theropod.

Ymhlith digwyddiadau mawr eraill roedd ymddangosoad y cena goeg (neu'r 'madfall') ac esblygodd y crocodeil o fyw ar y ddaear i fyw mewn dŵr. Yn y môr, roedd yr ichthyosaur a'r plesiosaur ac yn yr awyr, esblygodd y pterosaur.

Is-raniadau (epocau)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir tair is-raniad o fewn y cyfnod Jwrasig, a elwir yn Epocau:

  1. Jwrasig Hwyr
  2. Jwrasig Canol
  3. Jwrasig Cynnar

Ffawna[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhywogaethau morwrol a dyfrol[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhywogaethau ar y tir[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Image:Sauerstoffgehalt-1000mj.svg
  2. Image:Phanerozoic Carbon Dioxide.png
  3. Image:All palaeotemps.png
  4. Geiriadur bangor; adalwyd 21 Awst 2016.
  5. Geiriadur yr Academi arlein; adalwyd 7 Chwefror 2016
  6. Vennari, Verónica V.; Lescano, Marina; Naipauer, Maximiliano; Aguirre-Urreta, Beatriz; Concheyro, Andrea; Schaltegger, Urs; Armstrong, Richard; Pimentel, Marcio et al. (2014). "New constraints on the Jurassic–Cretaceous boundary in the High Andes using high-precision U–Pb data". Gondwana Research 26: 374–385. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S1342937X13002323. Adalwyd 16 January 2016.
  7. Alexander von Humboldt, Ueber die unterirdischen Gasarten und die Mittel, ihren Nachteil zu vermindern, ein Beitrag zur Physik der praktischen Bergbaukunde ['On the types of subterranean gases and means of minimizing their harm, a contribution to the physics of practical mining'] (Braunschweig: Vieweg, 1799), p. 39: "[…] die ausgebreitete Formation, welche zwischen dem alten Gips und neueren Sandstein liegt, und welchen ich vorläufig mit dem Nahmen Jura-Kalkstein bezeichne." ('… the widespread formation which lies between the old gypsum and the more recent sandstone and which I provisionally designate with the name "Jura limestone".')
  8. 8.0 8.1 Hölder, H. 1964. Jura – Handbuch der stratigraphischen Geologie, IV. Enke-Verlag, Stuttgart.
  9. 9.0 9.1 Arkell, W.J. 1956. Jurassic Geology of the World. Oliver & Boyd, Edinburgh und London.
  10. Pieńkowski, G.; Schudack, M.E.; Bosák, P.; Enay, R.; Feldman-Olszewska, A.; Golonka, J.; Gutowski, J.; Herngreen, G.F.W.; Jordan, P.; Krobicki, M.; Lathuiliere, B.; Leinfelder, R.R.; Michalík, J.; Mönnig, E.; Noe-Nygaard, N.; Pálfy, J.; Pint, A.; Rasser, M.W.; Reisdorf, A.G.; Schmid, D.U.; Schweigert, G.; Surlyk, F.; Wetzel, A. & Theo E. Wong, T.E. 2008. "Jurassic". In: McCann, T. (ed.): The Geology of Central Europe. Volume 2: Mesozoic and Cenozoic, Geological Society, London, pp. 823–922.
  11. Rollier, L. 1903. Das Schweizerische Juragebirge (Sonderabdruck aus dem Geographischen Lexikon der Schweiz). Verlag von Gebr. Attinger, Neuenburg.