Ichthyosaur
Ichthyosaurs Amrediad amseryddol: Triasig Cynnar – Cratasaidd Hwyr 250–90 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
![]() | |
Amrywiaeth rhywogaethau o ichthyosaurs | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Urdd: | †Ichthyosauria |
Ymlusgiad enfawr a fu unwaith i'w cael yn y moroedd yw Ichthyosaur (Groeg am "pysgodyn madfall" - ιχθυς neu ichthys sy'n golygu "pysgod" a σαυρος neu sauros sy'n golygu "madfall"); mae felly'n perthyn i gyfnod o ddau gan miliwn o flynyddoedd yn ôl (200,000,000). Roedd yr ichthyosor yn un o brif ysglyfaethwr y môr ac edrychai fel dolffin gyda dannedd miniog, gan ei fod yn gigysydd. Gallai'r oedolyn fesur dros 15m o hyd, a'u prif fwyd oedd amonitau a belemnitau.
Cafwyd hyd i ffosiliau o'r Ichthyosaur yn 2008 ar draeth Penarth, ger Caerdydd; roedd y ffosil hwn yn 7tr (2.1 metr).[1][2]
Mae'r Ichthyosaurs yn perthyn i'r urdd a elwir yn Ichthyosauria neu Ichthyopterygia ('pibellau pysgod' - dynodiad a gyflwynwyd gan y Paleontolegydd Cymreig Richard Owen yn 1840, er bod y term bellach yn cael ei ddefnyddio yn fwy ar gyfer rhiant-gytras yr Ichthyosauria.
Bu'r Ichthyosaurs yn byw yn ystod llawer o'r cyfnod Mesosöig; gwyddom hyn o dystiolaeth gyfoethog o ffosiliau. Ymddangosodd yn gyntaf oddeutu 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl a goroesodd o leiaf un rhywogaeth tan oddeutu 90 miliwn o flynyddoedd yn ôl - i'r Cretasaidd Hwyr.

Ichthyosaur Penarth[golygu | golygu cod]
Cafwyd hyd i ffosiliau o'r Ichthyosaur yn y 2010au ar draeth Penarth, ger Caerdydd; roedd yn 7tr (2.1 metr).
Yn y cyfnod Jwrasig cynnar, roedd de ddwyrain Cymru wedi'i orchuddio â môr cynnes, bas a oedd yn fwrlwm o fywyd. Roedd yr ichthyosor yn un o'r prif ysglyfaethwyr a edrychai fel dolffin. Gallai'r oedolyn fesur dros 15m o hyd, a'u prif fwyd oedd amonitau a belemnitau. Mae esgyrn a dannedd ichthyosoriaid yn ffosilau unigol cymharol gyffredin yn ne Cymru ac yn Dorset a Gwlad yr Haf, ond mae sgerbydau llawn yn brinach. Mae'r ffosil a ddarganfuwyd ym Mhenarth yn cynnwys rhan isaf y pen, asgell sy'n debyg i rwyf, darn o'r ysgwydd a nifer o asennau.[3]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ amgueddfa.cymru; Gwefan Amgueddfa Cymru.
- ↑ MAil Online; adalwyd 23 Ebrill 2018.
- ↑ everythingdinosaur.co.uk; adalwyd 23 Mai 2018